Rheolaeth

Is-Bwyllgorau'r Cyngor a'r Senedd

Pwyllgor Strategaeth Gwybodaeth

Aelodaeth 

• Dirprwy Is-Ganghellor (Cadeirydd)
• Cofrestrydd ac Ysgrifennydd – Cadeirydd yr Is-Grŵp Rheolaeth Gwybodaeth
• Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gwybodaeth
• Uwch-Swyddogion Gweinyddol y Brifysgol a enwebir gan y Cofrestrydd ac Ysgrifennydd          
• Staff hŷn y Gwasanaethau Gwybodaeth a enwebir gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gwybodaeth
• Un aelod o’r staff academaidd a enwebir gan bob un o’r tair Cyfadran   
• Cadeirydd yr Is-Grŵp prosiectau Gwybodaeth Busnes 
   
Cylch Gorchwyl:   

1. Darparu cyfeiriad strategol wrth reoli a defnyddio gwybodaeth yn y sefydliad er mwyn gwella perfformiad ariannol a gweithredol y Brifysgol
2. Adnabod blaenoriaethau a chomisiynu ymateb/gweithredu gan y pwyllgorau sy’n adrodd iddo neu adrannau’r Brifysgol ar faterion gwybodaeth strategol yn cynnwys: diogelwch gwybodaeth, parhad busnes, datblygiadau systemau gwybodaeth ac archifo a rheoli cofnodion.  
3. Ystyried adroddiadau gan ddau is-grŵp y pwyllgor, “Rheolaeth Gwybodaeth” a “Prosiectau Gwybodaeth Busnes” ac ystyried materion perthnasol a gyfeirir ato gan bwyllgorau eraill y Brifysgol;            
4. Cynghori a gwneud argymhellion i’r Pwyllgor Ariannol a Strategaeth yn ôl yr angen ynglŷn ag adnoddau a materion ariannol sy’n gysylltiedig â’r cyfryw weithgareddau.