Rheolaeth

Is-Bwyllgorau'r Cyngor a'r Senedd

Grwp Ymchwil: Yn adrodd i'r Grwp Cynllunio

Aelodaeth:

Dirprwy Is-Ganghellor gyda chyfrifoldeb dros Ymchwil (Cadeirydd).
Un Dirprwy Is-Ganghellor arall
Deon y Celfyddydau
Dean y Gwyddorau
Dean y Gwyddorau Cymdeithasol
Deon Astudiaethau Ôlraddedig
Cyfarwyddwr Cynllunio
Cyfarwyddwr Menter a Phrosiectiau Cydweithrediadol
Pennaeth y Swyddfa Ymchwil
Uwch Swyddog Cymorth Ymchwil
Cynorthwy-ydd Gweinyddol Cymorth Ymchwil

Dylai’r Pwyllgor hefyd fod â’r grym i gyd-ethol hyd at ddau aelod ychwanegol.

Nifer y cyfarfodydd ac adrodd yn ôl
I gyfarfod dair gwaith y flwyddyn, gan adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Ariannol a Strategaeth.

Cylch Cyfrifoldebau:

• Datblygu, gweithredu, monitro ac adolygu Strwythur Rheoli a Strategaeth Ymchwil y Brifysgol
• Cynghori’r DIG Ymchwil a’r Uwch Dîm Rheoli ar strategaethau a mecanweithiau ar gyfer hyrwyddo gweithgarwch ymchwil, gan annog ceisiadau grant 
   ymchwil cryf, a hwyluso ymchwil aml-ddisgyblaethol a rhyng-ddisgyblaethol
• Cynorthwyo gyda datblygiad cynghrair ymchwil strategaethol rhwng PA a PB
• Cynghori ar gynigion cydweithio ymchwil eraill
• Cymeradwyo ceisiadau i greu canolfannau ymchwil prifysgol ac adrannol
• Cynghori ar yr egwyddorion ar gyfer defnydd strategol o Gronfa Ymchwil y Brifysgol (cronfeydd hybu ymchwil)
• Monitro graddfa ceisiadau grantiau ymchwil a llwyddiannau, a chyngori ar weithredoedd addas
• Darparu arweiniad clir i Adrannau ar drefniant a rheolaeth ymchwil, gan gynnwys amlinellu disgwyliadau isaf ar rôl a dyletswyddau y Cyfarwyddwyr Ymchwil
   Adrannol a’r Pwyllgorau Ymchwil Adrannol
• Cymeradwyo Strategaethau Ymchwil Adrannol
• Derbyn adroddiadau ac argymhellion gan y Grŵp Tasg Ymchwil (sy’n cynnwys y Dirprwy Is-Ganghellor sydd â chyfrifoldeb dros ymchwil a’r Deoniaid)
• Derbyn argymhellion ar gyfer y Pwyllgorau Ymchwil Adrannol
• Adolygu a gwneud argymhellion ar raddfa a natur darpariaeth y Brifysgol o staff i gefnogi datblygiad ceisiadau grantiau ymchwil a rheolaeth cynlluniau ariannu
   ac ymchwil
• Cynghori ar strategaethau’r Brifysgol ar gyfer myfyrwyr ymchwil ôlraddedig
• Cynghori Adrannau a’r Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd ar anwytho, hyfforddiant a gweithgareddau datblygu addas ar gyfer yr holl staff sydd
   â chyfrifoldebau ymchwil, ar bob lefel gyrfaol
• Cyngori ar faterion sy’n ymwneud ag Asesiad Ymchwil DU
• Cysylltu gyda Chyfarwyddwyr Ymchwil Adrannol drwy Fforwm dymhorol y Gyfadran ar gyfer Cyfarwyddwyr Ymchwil Adrannol (a gadeirir gan y Deoniaid)
   a Fforwm Brifysgol flynyddol ar gyfer Cyfarwyddwyr Ymchwil Adrannol (a gadeirir gan DIG ymchwil).