Rheolaeth
Is-Bwyllgorau'r Cyngor
Pwyllgor Reoli Risg
Aelodaeth:
Is-Ganghellor (Cadeirydd)
Cofrestrydd ac Ysgrifennydd
Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol
Penaethiaid Adrannol o fewn Cofrestrfa'r Brifysgol (Cyfarwyddwr Adnoddau, Cyllid, Adnoddau Dynol, Ystadau a'r Ysgrifennydd Academaidd)
Pennaeth yr Uned Cyfrifiadura Gweinyddol
Aelod o'r Pwyllgor Archwilio
Aelod o'r Pwyllgor Cyllid a Strategaeth
Archwilwyr Mewnol (Uniac)
Gall pobl eraill fynychu cyfarfodydd y gr?p drwy wahoddiad.
Cylch Cyfrifoldebau:
- Datblygu a chynnal polisi Rheoli Risg ar gyfer y Brifysgol
- Nodi a mesur, yn rheolaidd, natur a chwmpas y risgiau a wynebir gan y Brifysgol
- Ystyried:
- Cwmpas a chategoriau'r risgiau a all gael eu gweld yn gymeradwy gan y Brifysgol
- Y tebygolrwydd i risgiau o'r fath godi
- Gallu'r Brifysgol i leihau amlder y risgiau sy'n codi a'u heffaith ar y Brifysgol
- Anfanteision o weithredu camau rheoli penodol o'u cymharu a'r fantais a geir o reoli'r risgiau perthnasol
- Cyflwyno adroddiadau a chyngor ar y materion hyn i Gyngor y Brifysgol o leiaf dwy waith y flwyddyn
- Lledaenu gwybodaeth a chyngor perthnasol yngl?n a rheoli risgiau i staff y Brifysgol