Rheolaeth
Pwyllgorau sy'n Adrodd i'r Cyngor
- Pwyllgorau'r Cyngor
2. Pwyllgor Archwilio
Aelodau
- Cadeirydd, a benodir gan y Cyngor
- Pum aelod arall a benodir gan y Cyngor
Ni chaiff un aelod o'r Pwyllgor fod yn aelod hefyd o'r Pwyllgor Ariannol a Strategaeth, nac yn aelod o staff neu fyfyriwr, na bod ag unrhyw awdurdod gweithredol am reoli'r sefydliad. Bydd y Cadeirydd ac oleuaf un, ond dim mwy na dau aelod arall, yn aelodau cyfredol o'r Cyngor.
Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod o leiaf bedair gwaith y flwyddyn. I gael cworwm rhaid cael tri aelod o'r Pwyllgor yn bresennol.
Cylch cyfrifoldebau
- Arolygu'r drefniadaeth sy'n sicrhau effeithiolrwydd y system gyllid a'r systemau rheoli mewnol eraill.
- Cynghori'r Cyngor ar y meini prawf wrth ddethol a phenodi archwilwyr mewnol ac allanol, ar amodau a thelerau eu penodi, a chwmpas y gwaith a ymgymerir.
- Monitro perfformiad ac effeithiolrwydd yr archwiliadau mewnol ac allanol. Bydd hyn yn cynnwys monitro'r ffordd y gweithredir argymhellion y Pwyllgor.
- Adolygu cwmpas ac effeithiolrwydd yr archwiliad mewnol, yn cynnwys y ffordd y caiff ei gynllunio a'i weithredu, derbyn ac ystyried adroddiad blynyddol yr archwilwyr mewnol, a hybu cydlyniant rhwng swyddogaethau'r archwiliadau mewnol ac allanol.
- Rhoi gwybod i'r Cyngor a oes gan y Brifysgol systemau a threfniadaeth digonol yn eu lle i hybu darbodaeth, effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd.
- Adolygu llythyr ac adroddiad yr Archwiliwr Allanol ar Reolaeth, a monitro ac adrodd ar y ffordd y mae'r Brifysgol yn gweithredu ar ei argymhellion.
- Ystyried adroddiadau perthnasol gan Wasanaeth Archwilio Cynghorau Cyllido Cymru, y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, a mudiadau eraill, a monitro'r ffordd y gweithredir ar yr argymhellion perthnasol.
- Goruchwylio 'Polisi'r Brifysgol ar Dwyll ac Afreoleidd-dra', gan gynnwys unrhyw gamau a gymerir yn unol â'r polisi hwnnw, a sicrhau bod colledion sylweddol yn cael eu harchwilio a'u cofnodi fel sy'n briodol.
- Sicrhau bod y Prifysgol yn cydymffurfio â gofynion gorfodol Canllawiau Archwilio Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
- Adolygu peirianwaith y Brifysgol ar gyfer asesu a rheoli risg.
- Adolygu'r peirianwaith ar gyfer sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion y brifysgol o ran llywodraethu corfforaethol.
- Archwilio unrhyw weithgaredd a ddaw o fewn i faes ei gyfrifoldebau, a cheisio unrhyw wybodaeth a fynn gan unrhyw aelod o'r Brifysgol.
- Gofyn am gyngor proffesiynol annibynnol, a sicrhau presenoldeb personau sydd ag arbenigedd a phrofiad perthnasol mewn unrhyw gyfarfod os ystyrir hynny'n angenrheidiol.
- Cyflwyno adroddiad blynyddol i'r Cyngor.