Rheolaeth
Pwyllgorau sy'n Adrodd i'r Cyngor
- 1. Pwyllgorau'r Cyngor
- 3. Pwyllgor Datblygu Proffesiynol a Staffio
Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Datblygiad Proffesiynol a Staffio
Bydd gan y Pwyllgor awdurdod dirprwyedig i ystyried a chymeradwyo’r canlynol:-
• Cynghori ar gyfeiriad strategol y swyddogaeth Adnoddau Dynol a Datblygu Staff;
• Ystyried y strategaethau AD a datblygu Staff a’r cynlluniau gweithredol sy’n sylfaen i’r strategaethau hyn;
• Goruchwylio proses adolygu perfformiad y Brifysgol;
• Goruchwylio rhaglen datblygu staff y Brifysgol;
• Cynghori ar faterion sy’n ymwneud â chydnabod ac ymgynghori â’r Undebau Llafur;
• Cynghori ar strategaethau ymgysylltu â staff;
• Cynghori ar bolisïau a phrosesau dyrchafu staff; Cymeradwyo polisïau a gweithdrefnau AD a datblygu staff (ac eithrio’r
rhai a reolir drwy Statud e.e. Disgyblu, Cwyno, Diswyddo ac Adleoli;
• Derbyn data ar staffio megis lefelau staffio, trosiant, lefelau salwch, ystadegau ar y rhai sy’n cymryd rhan mewn
hyfforddiant datblygu staff;
• Goruchwylio’r camau gweithredol sydd i’w cymryd yng nghyswllt gweithredu’r Cytundeb Fframwaith a Dadansoddi Rolau
Addysg Uwch;
• Cymeradwyo cofnodion cyfarfodydd undebau llafur, pwyllgorau penodiadau cyfnod prawf a phwyllgorau dyrchafiadau;
Bydd y Pwyllgor yn derbyn adroddiadau ar y canlynol:
• Gwybodaeth am uwch benodiadau;
Bydd y Pwyllgor yn gwneud argymhellion parthed y canlynol, ond bydd hyn yn amodol ar gymeradwyaeth y Cyngor:
• Ystyried ceisiadau ar gyfer dyfarnu swyddi Emeritws a swyddi er anrhydedd;
• Absenoldeb byr;
• Newidiadau i bolisïau a gweithdrefnau a reolir drwy Statud, e.e. Disgyblu, Cwyno, Diswyddo ac Adleoli.
3. Aelodau’r Pwyllgor
Is-Ganghellor (Cadeirydd) – gall ddirprwyo i Ddirprwy Is-Ganghellor
Dirprwy Is-Gangellorion
3 aelod a benodir gan y Cyngor. Dylai un ohonynt fod yn aelod lleyg o’r Cyngor a dylai o leiaf un o’r tri fod â chefndir mewn AD/datblygu staff
3 aelod a benodir gan y Senedd, o blith ei aelodau
Cworwm
Mae angen chwech aelod o’r Pwyllgor i sicrhau bod y cyfarfod yn gwneud cworwm.
Yn bresennol i gyflwyno adroddiadau a chynghori’r Pwyllgor yn ôl y galw*:-
Cofrestrydd ac Ysgrifennydd
Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol
Dirprwy Gyfarwyddwr Adnoddau Dynol
Cydlynydd GDSYA
Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch
Ysgrifennydd y Pwyllgor
*Gall aelodau eraill o staff AD/GDSYA fynychu yn ôl yr angen.
5. Protocol gwneud penderfyniadau a’r weithdrefn adrodd yn ôl
Bydd penderfyniadau’r Pwyllgor yn dod i rym ar unwaith lle mae ganddo awdurdod dirprwyedig. Cyflwynir cofnodion y Pwyllgor i’r Cyngor er gwybodaeth ac i gymeradwyo’r argymhellion sydd angen cadarnhad y Cyngor.
6. Awdurdod Dirprwyedig
Wrth weithredu ei awdurdod gall y Pwyllgor benderfynu dirprwyo awdurdod a chyfrifoldeb i’r Cadeirydd neu ddirprwy.
7. Amlder y Cyfarfodydd
Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod pedair gwaith y flwyddyn.