Rheolaeth

Pwyllgorau sy'n Adrodd i'r Cyngor

  1. Pwyllgorau'r Cyngor

     5.  Pwyllgor Enwebiadau

Aelodau

  • Y Llywydd (Yn y Gadair)
  • Yr Is-Ganghellor
  • Tri aelod lleyg o'r Cyngor, ac un dirprwy
  • Un o aelodau'r Senedd ar y Cyngor, ac un dirprwy (i'w enwebu gan y Senedd)

Y Llywydd, neu'r Is-Ganghellor yn ei (h)absenoldeb neu drwy drefniant, fydd y Cadeirydd. Penodir aelodau am gyfnod o dair blynedd.

Cylch cyfrifoldebau

  1. Ystyried, ar gais y Cyngor, materion yn ymwneud â phenodi'r Is-Lywyddion a'r Trysorydd, a chyflwyno argymhellion i'r Cyngor i'w hystyried yn unol ag Ordinhadau 3 a 4.
  2. Gwneud argymhellion i'r Cyngor yn ymwneud â phenodi aelodau lleyg ar Bwyllgorau.
  3. Gwneud argymhellion i'r Cyngor a'r Llys fel y bo'n briodol ar benodiad cynrychiolwyr i gyrff allanol.

Bydd i'r Pwyllgor Enwebiadau gadw mewn cof gydbwysedd aelodaeth y Cyngor ac anghenion y brifysgol, ac i'r perwyl hwn, bydd yn ystyried sgiliau ac arbenigedd y rheiny y gellid eu hystyried i'w penodi'n aelodau lleyg ar y Cyngor a'i bwyllgorau.