Rheolaeth
Pwyllgorau sy'n Adrodd i'r Cyngor
2. Cyd-bwyllgorau'r Cyngor A'r Senedd
2.1 Cyd-Bwyllgor Defnyddio'r Gymraeg
Aelodau
- Yr Is-Ganghellor (yn Gadeirydd)
- Y Dirprwy Is-Gangellorion
- Dau aelod a benodir gan y Cyngor
- Dau aelod a benodir gan y Senedd
- Dau chynrychiolydd o blith y myfyrwyr
Cylch cyfrifoldebau
- Adolygu polisi'r brifysgol ynglyn â'r Gymraeg yn gyson, a goruchwylio'r modd y caiff y polisi ei weithredu.
- Adrodd a chyflwyno argymhellion i'r Cyngor, drwy'r Senedd, ar weithredu a hyrwyddo'r Cynllun Iaith Gymraeg.
- Sefydlu a chynnal trefn o arolygu a monitro gweithrediad a chyflawniad y Cynllun Iaith Gymraeg, a pharatoi adroddiadau yn unol â gofynion y Cynllun.
- Derbyn adroddiadau ar waith Canolfan Gwasanaethau'r Gymraeg.