Rheolaeth

Pwyllgorau sy'n Adrodd i'r Cyngor

2.
Cyd-bwyllgorau'r Cyngor A'r Senedd
2.
Pwyllgor Ariannol a Strategaeth

Aelodau
  • Y Llywydd
  • Yr Is-Lywyddion
  • Y Trysorydd
  • Yr Is-Ganghellor (yn Gadeirydd)
  • Y Dirprwy Is-Gangellorion
  • Tri aelod a benodir gan y Cyngor o blith ei aelodau
  • Tri aelod a benodir gan y Senedd o blith ei haelodau
  • Dau cynrychiolydd o blith y myfyrwyr

Cylch cyfrifoldebau

Hyd nes yr hysbysir yn wahanol, mae Cylch Cyfrifoldebau'r Pwyllgor yn uniad o rhai y gyn Pwyllrog Cyllid ac Amcanion Cyffredinol a'r Pwyllgor Cynllunio ac Adnoddau

  1. Cynghori'r Senedd a'r Cyngor ar amcanion strategol y brifysgol, a monitro cydymffurfiaeth â hwy ym mhob agwedd ar weithgarwch.
  2. Argymell Cynllun Strategol y brifysgol i'r Senedd a'r Cyngor, a chymeradwyo ymateb y brifysgol i geisiadau gan y Cyngor Cyllido am gynlluniau strategol ynglyn â meysydd penodol o weithgaredd.
  3. Ystyried ymateb y brifysgol i ofynion a pholisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru a'r Cyngor Cyllido.
  4. Ystyried a chymeradwyo adroddiadau ac argymhellion y Grwp Cynllunio (gweler isod) a gwneud penderfyniadau gweithredol, yn gyson â chynlluniau awdurdodedig ac ar sail argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Cynllunio.
  5. Ystyried a chymeradwyo adroddiadau is-bwyllgorau eraill (sef y Pwyllgor Ymchwil ac Pwyllgor Gwybodaeth Rheolaeth).
  6. Cymeradwyo'r datganiad blynyddol ar faterion cynllunio.
  7. Cytuno ar y gyfundrefn Ddosrannu Adnoddau a ddefnyddir.
  8. Derbyn cynlluniau blynyddol a baratowyd gan adrannau academaidd a gwasanaethau canolog.
  9. Argymell dosraniad adnoddau i adrannau academaidd yng nghyd-destun gweithredu Cyfundrefn Ddosrannu Adnoddau a materion polisi eraill a fo'n berthnasol.
  10. Monitro perfformiad adrannau academaidd a gwasanaethau canolog, gan gymryd i ystyriaeth y wybodaeth a gyhoeddir yn genedlaethol.
  11. Derbyn adroddiadau ynglyn â recriwtio myfyrwyr, a chytuno ar dargedau blynyddol ar gyfer recriwtio.
  12. Ymgymryd ag unrhyw weithgareddau eraill ynghylch Cynllunio ac Adnoddau y bydd ar y brifysgol eu hangen.
  13. Dirprwyo awdurdod i'r Grwp Cynllunio, yn arbennig i gymryd penderfyniadau'n ymwneud â cheisiadau gan adrannau am adnoddau o fewn i ystod cynlluniau awdurdodedig.



1. Gwneud argymhellion i'r Cyngor ar bob agwedd ar gyllid y brifysgol.
2. Ystyried a chymeradwyo cyllidebau a/neu ddyraniadau blynyddol i bob rhan o'r brifysgol a gwneud argymhellion ynglyn â hwy i'r Cyngor.
3. Monitro a chymeradwyo amcangyfrifon misol incwm a gwariant, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â gweithgareddau masnachol ac Urdd y Myfyrwyr, datganiadau dylifiant arian, a mantolen amcangyfrif.
4. Derbyn a chymeradwyo cofnodion y Grwp Cyllid.
5. Derbyn a chymeradwyo rhagolygon cyllidol ar gyfer pob canolfan cyllid a'r brifysgol yn ei chyfanrwydd.
6. Archwilio'r Cyfrifon Blynyddol a chymeradwyo eu cyflwyno i'r Cyngor.
7. Monitro'r Rheoliadau Cyllidol.
8. Cymeradwyo prosiectau adeiladu a monitro eu cynnydd.
9. Cymeradwyo materion eraill ynglyn â'r ystâd, gan gynnwys gwariant ar waith cynnal a chadw a gynlluniwyd.
10. Cymeradwyo sefydlu cwmnïau a berchnogir yn llawn, a buddsoddiadau eraill.
11. Monitro cronfeydd gwaddoliadau a chofnodion y Pwyllgor Buddsoddiadau.
12. Monitro'r drefn o gostio a phrisio gweithgareddau, a chofnodion y Pwyllgor Costio a Phrisio.
13. Cymeradwyo'r Asesiad Risg Corfforaethol a'r drefn reoli fewnol sy'n ymwneud â risgiau drwy Grwp Llywio Rheoli Risg Corfforaethol.
14. Cymeradwyo'r holl ffioedd a thaliadau i'w codi.
15. Cymeradwyo arosod sêl y brifysgol.
16. Monitro Cynllun Pensiwn PA.
17. Derbyn a chymeradwyo Cyfrifon Blynyddol Urdd y Myfyrwyr.
18. Ymarfer pa alluoedd bynnag a ddirprwyir iddo gan y Cyngor, am ba gyfnod ac ar ba amodau y penderfyno'r Cyngor.

Gall y Pwyllgor sefydlu a diddymu is-bwyllgorau a gweithgorau i ystyried materion yn ymwneud â'i gylch cyfrifoldebau, gan gynnwys materion ymarferol ac amgylcheddol perthnasol i'r ystâd, a phennu eu haelodaeth, heb fod yn gyfyngedig i'r rheiny sy'n aelodau o'r Pwyllgor.

Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod o leiaf bum gwaith y flwyddyn.

Darperir i Reolwr Cyllid Urdd y Myfyrwyr fod yn bresennol yng nghyfarfodydd y Pwyllgor fel y bo'n briodol.