Rheolaeth
Pwyllgorau sy'n Adrodd i'r Cyngor
- 2.
- Cyd-bwyllgorau'r Cyngor A'r Senedd
- 5.
- Pwyllgor Cyfleodd Cyfartal ac Amrywioldeb
Aelodaeth
- Y Dirprwy Is-Ganghellor â chyfrifoldeb dros Gyfleoedd Cyfartal (yn Gadeirydd)
- Dau aelod a enwebir gan y Cyngor o blith ei aelodau
- Un aelod a enwebir gan y Senedd o blith ei haelodau
- Un aelod a enwebir gan y Pwyllgor Staffio o blith ei aelodau
- Un myfyriwr a enwebir gan Urdd y Myfyrwyr
- Un aelod a enwebir gan Gyd-Bwyllgor Cydlynu'r Undebau
Yn bresennol hefyd: Cofrestrydd ac Ysgrifennydd, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cynhaliol Myfyrwyr, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol, Swyddog Cyfleoedd Cyfartal (neu ddirprwy a enwebwyd gan y Cofrestrydd ac Ysgrifennydd)
Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod o leiaf deirgwaith ym mhob blwyddyn academaidd.
Cylch cyfrifoldebau
- Hybu cyfleoedd cyfartal ym mhob agwedd ar weithgareddau'r brifysgol.
- Llunio polisïau cyfleoedd cyfartal y brifysgol a chynlluniau gweithredu, gan gynnwys ei Bolisi a Chynllun Gweithredu ar Gydraddoldeb Hiliol.
- Arolygu gweithredu a datblygu'r cyfryw bolisïau a chynlluniau gweithredu, a monitro eu cyflawniad.
- Llunio Adroddiad Blynyddol i'r Cyngor ar y Polisi Cydraddoldeb Hiliol a'r Cynllun Gweithredu.
- Cynghori'r Senedd a'r Cyngor ar ddatblygiadau yn y ddeddf a'r drefn weithredu, mewn perthynas â chyfleoedd cyfartal.
- Hybu ymarfer da.
- Derbyn adroddiadau ar faterion perthnasol gan: Yr Adran Bersonél; Pwyllgor Staffio; Pwyllgor Recriwtio; Pwyllgor Gwasanaethau Cynhaliol Myfyrwyr; y Rhwydwaith Aflonyddu.