Rheolaeth
Pwyllgorau sy'n Adrodd i'r Cyngor
2. Cyd-bwyllgorau’r Cyngor a’r Senedd
6. Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd
Aelodau
• Un Dirprwy Is-Ganghellor (yn y Gadair);
• Dau gynrychiolydd o’r Cyngor;
• Dau gynrychiolydd o’r Senedd;
• Cynrychiolwyr Diogelwch a enwebir gan ac o blith pob un o’r Undebau Llafur cydnabyddedig yn y brifysgol;
• Dau aelod o blith y myfyrwyr (y bydd un ohonynt yn byw mewn neuadd breswyl ym Mhrifysgol Aberystwyth) a enwebir gan Urdd y Myfyrwyr;
• Hyd at ddau aelod cyfetholedig;
Bydd gan y Cadeirydd yr hawl i wahodd personau eraill i ddod i gyfarfodydd er mwyn rhoi gwybodaeth a chyngor arbenigol.
Enwebir Is-Gadeirydd gan ac o blith aelodau’r Pwyllgor, a bydd yn cadeirio cyfarfodydd y Pwyllgor yn absenoldeb y Cadeirydd.
Cylch Gorchwyl
1. Cynghori’r Brifysgol ar faterion sy’n effeithio ar iechyd, diogelwch a’r amgylchedd yn y gwaith, gan gynnwys llunio datganiad polisi a’i adolygu yn achlysurol.
2. Goruchwylio’r modd y gweithredir polisi iechyd, diogelwch ac amgylcheddol y brifysgol, a rhoi arweiniad i’r Cynghorydd Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd, fel sy’n briodol.
3. Derbyn adroddiadau rheolaidd gan y Cynghorydd Diogelwch a’r Amgylchedd, yn cynnwys adroddiadau ar swyddogaethau neu bwyllgorau fel sy’n briodol (gan gynnwys Diogelwch ar Ystumio Genynnol Lleol; Masnach Deg; Cynaliadwyedd Amgylcheddol; Gwarchod Ymbelydredd).
Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod o leiaf deirgwaith y flwyddyn.