Rheolaeth
Pwyllgorau sy'n Adrodd i'r Cyngor
Cyd-bwyllgorau’r Cyngor a’r Senedd
7. Pwyllgor Moeseg Dulliau Ymchwil
Aelodau
• Cadeirydd, a benodir gan y Cyngor o blith ei aelodau lleyg
• Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil – Is-Gadeirydd
• Deon Astudiaethau Uwchraddedig
• Un aelod o staff acdemaidd o bob un o Gyfadrannau’r Celfyddydau, y Gwyddorau a’r Gwyddorau Cymdeithasol
• Dau aelod lleyg a benodir gan y Cyngor, y naill yn meddu ar gymwysterau meddygol neu’n swyddog proffesiynol ym maes iechyd neu waith cymdeithasol, a’r llall yn meddu ar gymwysterau cyfreithiol
• Hyd at ddau aelod i’w cyfethol gan y Pwyllgor
Yn gweinyddu
• Cofrestrydd ac Ysgrifennydd
• Pennaeth y Swyddfa Ymchwil
• Swyddog Gwarchod Data
• Gellir gwahodd y Cynghorydd Iechyd, Diogelwch ac Amgylchedd ac arbenigwr pwnc i fynychu cyfarfodydd y Pwyllgor i roi cyngor fel sy’n briodol. Gellir holi am gyngor ysgrifenedig cyn neu ar ôl y cyfarfodydd os bernir bod hynny’n ddefnyddiol.
Tymor aelodau (i aelodau cynrychioladol a lleyg): 3 blynedd gyda phosibilrwydd estyniad o flwyddyn arall i ganiatáu cylchdro
Cylch gorchwyl
1. Ystyried yr holl faterion sy’n ymwneud â moeseg ymchwiliadau sy’n cynnwys gwrthrychau a meinweoedd dynol,
yn cynnwys:
• amcan yr ymchwil
• methodoleg yr ymchwil
• priodoldeb defnyddio gwrthrychau dynol a phriodoldeb y nifer o wrthrychau dynol sydd i’w recriwtio
• y drefn ar gyfer recriwtio rhai i gymryd rhan
• y drefn ar gyfer gwarchod a diogelu’r rhai sy’n cymryd rhan ac ymchwilwyr
• y drefn ar gyfer cyfrinachedd data
• y drefn ar gyfer sichrau caniatâd bwriadus ac ar gyfer darparu gwybodaeth ynghylch yr ymchwil i’r rheiny
sy’n cymryd rhan
• a yw’r adnoddau priodol ar gael
• y bobl sydd ynghlwm wrth yr ymchwiliad
Nid yw’n ddyletswydd ar y Pwyllgor ystyried moeseg ymchwil nad yw’n ymwneud â gwrthrychau neu feinweoedd dynol.
2. Adolygu cynigion ar gyfer ymchwiliadau a lle bo’n briodol gwneud argymhellion i’r diben o wella cynnig pan gyfyd pryderon
moesegol.
3. Monitro agweddau moesol yn ystod cwrs yr ymchwil a gymeradwywyd.
4. Darparu canllawiau a dogfennau i hwyluso cynnydd yr adolygiad moesegol.
5. Darparu adroddiad blynyddol i’r Senedd a’r Cyngor ar y gwaith o gyflawni ei ddyletswyddau.
6. Darparu papurau achlysurol a hwyluso gweithdai datblygu staff o bryd i’w gilydd ar faterion yn ymwneud ag adolygiad
moesegol ymchwil sy’n defnyddio gwrthrychau dynol.
7. Hysbysu’r Is-Ganghellor a’r Ymchwilydd pan fydd prosiectau sydd wedi’u hystyried gan y pwyllgor yn foesegol gadarn yn
golygu risgiau uchel posibl i’r Brifysgol.
8. Ystyried unrhyw fater arall perthnasol i waith y pwyllgor.