Rheolaeth

Pwyllgorau sy'n Adrodd i'r Cyngor

3.
Adroddiadau i Gyrff Statudol
3.1.
Cyflwynir adroddiadau'r pwyllgorau uchod, heblaw'r Pwyllgor Taliadau, i'r Senedd er gwybodaeth ac i gael sylwadau, fel arfer cyn iddynt gael eu cyflwyno i'r Cyngor.
3.2.
Gweithredir y drefn ganlynol yn achos y Pwyllgor Cynllunio ac Adnoddau:
3.2.1.
Cyflwynir adroddiadau'r Pwyllgor Cynllunio ac Adnoddau i'r Senedd yn gyntaf ac yna i'r Cyngor ynghyd ag unrhyw argymhellion y mae'r Senedd yn dymuno eu hychwanegu.
3.2.2.
Gall y Senedd ofyn i'r Pwyllgor ailystyried argymhelliad ac adrodd yn ôl i'r Senedd ar y pwynt hwnnw cyn ei gyflwyno i'r Cyngor.
3.2.3.
Wrth ddod i benderfyniad ynglyn ag adnoddau, bydd y Cyngor, sef awdurdod gweinyddol ac ariannol y brifysgol, yn ystyried yn llawn unrhyw argymhellion a wneir gan y Senedd, sef y corff sy'n atebol i'r Cyngor am swyddogaeth academaidd y brifysgol o ran addysgu ac ymchwil.
3.3.
Bydd y Pwyllgor Taliadau'n adrodd yn uniongyrchol i'r Cyngor.