Penodir aelodau gan y Cyngor, y Senedd, a chyrff eraill, i'r Pwyllgorau a restrir yn adran 1 a 2 uchod, gan ddechrau 1 Awst, oni phenderfynir gan y Cyngor i'r gwrthwyneb.. Penodir fel arfer am gyfnod o dair blynedd, ond gellir penodi am dymor byrrach er mwyn sicrhau cylchdro. Bydd aelodau sy'n dod i ddiwedd tymor ar dir i'w hail-benodi am dymor pellach (h.y. nid dim ond un tymor), yn amodol ar unrhyw gyfyngiadau a bennir gan y Cyngor neu'r Senedd, drwy benderfyniad. Rhoddir gwybod i'r cyrff sy'n penodi, pan ystyrir ail-benodi aelodau, faint o gyfarfodydd a fynychwyd ganddynt yn ystod eu tymor blaenorol. Penodir cynrychiolwyr myfyrwyr am un flwyddyn academaidd ar y tro.
4.2.
Penodir aelodau'r Cyngor i'r Pwyllgorau hyn fel arfer yn ystod mis Tachwedd neu fis Rhagfyr cyn y daw dyddiad y penodiad i rym.
4.3.
Enwebir i'r Cyngor gan y Pwyllgor Enwebiadau, ac eithrio yn achos aelodaeth y Pwyllgor Enwebiadau ei hun. Bydd hawl hefyd gan aelodau'r Cyngor gyflwyno enwebiadau yn ysgrifenedig i'r Cofrestrydd ac Ysgrifennydd erbyn dyddiad ac amser a nodir ymlaen llaw cyn cyfarfod y Cyngor lle gwneir y penodiadau. I fod yn ddilys rhaid i'r enwebiadau ddynodi bod y personau a enwebir yn cytuno. Yr unig ymgeiswyr a ystyrir i'w hethol i Bwyllgorau fydd y rhai a enwebir erbyn yr amser a'r dyddiad a nodir ymlaen llaw, yn unol â'r drefn uchod.
4.4.
Llenwir lleoedd gwag achlysurol am weddill cyfnod swydd y person sy'n achosi'r lle gwag.
4.5.
Gall yr aelodau a benodir gan y Cyngor ar bwyllgorau gynnwys personau nad ynt yn aelodau o'r Cyngor ar y pryd. Bydd gan y Pwyllgor Enwebiadau yr hawl i argymell penodi rhai nad ynt yn aelodau o'r Cyngor, cyhyd ag y bo mwyafrif clir o'r rheiny a benodir i unrhyw gorff heblaw'r Pwyllgor Archwilio yn aelodau o'r Cyngor. Yn achos y Pwyllgor Archwilio, y Cadeirydd ynghyd â dim mwy na dau aelod arall fydd yn aelodau cyfredol o'r Cyngor.