Datganiad Prif Gyfrifoldebau’r Cyngor
Rhagarweiniad:
Bydd y Cyngor yn ceisio hyrwyddo amcanion y sefydliad fel y maent wedi eu diffinio yn ei Siarter, sy’n cynnwys diogelu enw da a gwerthoedd y sefydliad a sicrhau bod y sefydliad yn ymateb i fuddiannau ei randdeiliaid, gan gynnwys myfyrwyr, y gymuned leol a chyrff cyllido. Y mae’r Cyngor yn gweithredu’r holl bwerau sydd ar gael i’r sefydliad ar wahân i’r rhai a roddir yn benodol i gyrff eraill.
Rhestr o’r Prif Gyfrifoldebau :
1. Cymeradwyo rhai i’w penodi yn Llywydd, Is-Lywydd a Thrysorydd ac aelodau lleyg y Cyngor.
2. Penodi, yr Is-Ganghellor, Dirprwy i’r Is-Ganghellor, y Dirprwy Is-Gangellorion, y Cofrestrydd ac Ysgrifennydd, a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Gwybodaeth.
3. Penodi cynrychiolwyr o’r sefydliad i gyrff eraill.
4. Sicrhau y cydymffurfir â Siarter ac Ystatudau’r sefydliad ar bob adeg, a sicrhau bod cyngor priodol ar gael fel bod hyn yn gallu digwydd.
5. Penodi ysgrifennydd i’r Cyngor a sicrhau bod gan y swydd linellau atebolrwydd clir.
6. Gweithredu fel awdurdod cyflogi i holl staff y sefydliad a gwneud darpariaeth ar gyfer cynlluniau yswiriant, cynlluniau pensiwn, pensiynau neu fudd-daliadau ymddeol.
7. Cadw rheolaeth ar swyddi sy’n cael eu sefydlu a’u dadsefydlu.
8. Arfer ei waith yn unol ag arferion gorau rheolaeth gorfforaethol mewn Addysg Uwch ac ag egwyddorion bywyd cyhoeddus a baratowyd gan y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus.
9. Darparu’r adeiladau, anheddau, celfi a chyfarpar ac unrhyw gyfrwng arall sydd ei angen i fynd â gwaith y sefydliad yn ei flaen a chynnal ei effeithlonrwydd a’i les.
10. Cymeradwyo cenadwri a gweledigaeth strategol y sefydliad, ei gynlluniau busnes ac academaidd hir-dymor, a dangosyddion perfformiad allweddol.
11. Cymeradwyo strategaethau gweithredu.
12. Sicrhau bod prosesau yn eu lle i fonitro a chloriannu perfformiad ac effeithlonrwydd y sefydliad o’u cymharu â chynlluniau a dangosyddion perfformiad allweddol cymeradwy a ddylid, lle bo hynny’n bosibl a phriodol, gael eu meincnodi trwy eu cymharu â sefydliadau eraill tebyg. Sefydlu prosesau i fonitro a chloriannu perfformiad ac effeithlonrwydd y Cyngor ei hun, gan weithredu fel y corff llywodraethu.
13. Sicrhau bod y Brifysgol yn cyflawni ei rhwymedigaethau statudol.
14. Fel awdurdod ariannol, busnes a chontractol y sefydliad, sicrhau bod y llyfrau cyfrifon cywir yn cael eu cadw, cymeradwyo cyllideb flynyddol a datganiadau ariannol, a chymryd cyfrifoldeb cyffredinol am asedau’r sefydliad, gan gynnwys pob math o fuddsoddi a benthyca. Pennu holl ffioedd y sefydliad.
15. Sicrhau bod systemau rheoli ac atebolrwydd wedi eu sefydlu ac yn cael eu monitro ledled y sefydliad, gan gynnwys rheolaeth ariannol a gweithredol ac asesu risg, a gweithdrefnau ymdrin â chwynion mewnol ac i reoli gwrthdaro buddiannau.
16. Dirprwyo awdurdod i’r Is-Ganghellor, y prif weithredwr, am reolaeth academaidd, gorfforaethol, ariannol, ac am reoli yr ystâd a staff y sefydliad; ac i sefydlu a chadw dan arolygaeth reolaidd y polisïau, y gweithdrefnau a’r cyfyngiadau yn y swyddogaethau rheoli hynny a wneir drwy awdurdod pennaeth y sefydliad. Y mae sylfaen a fframwaith ar gyfer ystyriaeth fanylach ynglŷn â gweithredu strategol a gweithrediadol gan aelodau unigol y Cyngor wedi eu darparu trwy strwythur is-bwyllgorau’r Cyngor. Mae gan bob un o is-bwyllgorau’r Cyngor gylch gorchwyl manwl yn amlinellu ei bwerau a’i gyfrifoldebau.
17. Goruchwylio trefniadau archwiliad mewnol ac allanol.
18. Gweithredu fel awdurdod cyfreithiol y sefydliad ac, thrwy hyn, sicrhau bod systemau yn eu lle i gyflawni holl rwymedigaethau cyfreithiol y sefydliad, gan cynnwys y rhai sy’n deillio o gontractau ac ymrwymiadau cyfreithiol eraill a wneir yn enw’r sefydliad.
19. Gweithredu yn ymddiriedolwr i unrhyw eiddo, rhodd, gwaddoliad, cymynrodd, neu anrheg sy’n cynorthwyo gwaith a lles y sefydliad.
20. Sicrhau bod trefniadau priodol yn eu lle i reoli iechyd a diogelwch staff, myfyrwyr a phobl eraill yr effeithir arnynt gan weithrediadau’r Brifysgol.
21. Mae gan y Cyngor, mewn ymgynghoriad â’r Senedd, gyfrifoldeb:
i. I wneud darpariaeth fel y gwêl yn briodol ar gyfer lles cyffredinol myfyrwyr.
ii. Derbyn cysylltiadau’r sefydliad â sefydliadau eraill neu adrannau neu ganghennau yn y fath sefydliadau.
iii. Sefydlu Cymrodoriaethau, Grantiau, Ysgoloriaethau, Bwrsariaethau, Gwobrau a grantiau eraill o’r fath i
symbylu astudio ac ymchwil.
iv. Rhoddi a dyfarnu Diplomâu, Tystysgrifau ac anrhydeddau academaidd eraill. Diddymu anrhydeddau o’r fath am
yr hyn sydd ym marn y Cyngor yn rheswm da.
v. Cymeradwyo Cyfansoddiad Mudiad y Myfyrwyr.