Rheolaeth

Cyflwyniad

Beth yw Rheolaeth?

Mae PA yn sefydliad siartredig. Dyfarnwyd siarter iddi am y tro cyntaf ym 1889, a diwygiwyd hi ddiwethaf yn 2001. Mae'r brifysgol yn gweithredu ar sail ei Siarter, Ystatudau ac Ordinhadau, a ddiffinnir isod:

Siarter - Yn diffinio amcanion, pwerau a swyddogion y Brifysgol, ac egwyddorion fel y gallu i ddysgu ac arholi.
Gwybodaeth pellach

Ystatudau - Yn cynnwys rheolau yn ymwneud â chyrff statudol, aelodau a swyddogion sefydliad y Brifysgol.
Gwybodaeth pellach

Ordinhadau - Yn ymwneud â'r modd y rheolir y Brifysgol yn ôl fframwaith cyffredinol y Siartr a'r Statudau.
Gwybodaeth pellach

Y Llys

Mae'r Llys yn fforwm ar gyfer cyfarthrebu a thrafod gweithgareddau'r Brifysgol yn flynyddol.  Bydd cyfarfod blynyddol y Llys yn cynnwys:

  • Anerchiad gan y llywydd 
  • Anerchiad gan yr Is-Ganghellor 
  • Cyflwyniadau ar faterion Addysg Uwch a'r Brifysgol
  • Mae hawl gan bob aelod i anerch y Llys yn Gymraeg neu Saesneg

Fel arfer bydd y Llys yn cyfarfod unwaith y flwyddyn, ym mis Mawrth.

 

Y Cyngor

Yn ôl telerau'r Siarter (cymal XIII), y Cyngor yw corff llywodraethol PCA, ac yn “awdurdod gweinyddol ac ariannol y Sefydliad ac yn rheoli ac yn ymgymryd â gweinyddu … holl arian, eiddo, buddsoddiadau ac incwm"(Cymal XIII). Disgrifir gyfansoddiad a phwerau'r Cyngor yn yr ystatudau (5 a 6).

"Amcanion" Prifysgol Aberystwyth fydd hyrwyddo dysg a gwybodaeth trwy addysgu ac ymchwil. Mae gofyn i'r brifysgol "roi sylw arbennig i anghenion addysgol Cymru gyda golwg ar yr iaith Gymraeg a diwylliant a thraddodiadau cymdeithasol Cymru".

Cadeirir y Cyngor gan y Llywydd, ac y mae'n gorff eang ei gwmpas, ac aelodau lleyg yw'r rhan fwyaf o'r aelodau. Gweler: Aelodaeth y Cyngor

Y mae rhwydwaith o bwyllgorau sy'n adrodd i'r Cyngor; a ddiffinir gan y Rheoliad Gweinyddol.

Bydd y Cyngor yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn fel arfer.

Am ragor o wybodaeth, gwelir hefyd:

Y Senedd

Diffinir y Senedd yn y Siarter (cymal XIV) fel awdurdod academaidd y brifysgol. Mae'n gyfrifol i'r Cyngor am swyddogaethau academaidd y brifysgol mewn addysgu ac ymchwil, ac am reoli a goruchwylio myfyrwyr.

Mae aelodaeth y Senedd yn cynnwys yr Is-Ganghellor a Phrifathro (yn Gadeirydd arni), Y Dirprwy Is-Gangellorion, Penaethiaid Adrannau Academaidd a Deoniaid y Cyfadrannau, ynghyd â chynrychiolwyr staff academaidd a myfyrwyr. Gweler: Aelodaeth y Senedd.

Bydd y Senedd yn cyfarfod, fel arfer, bum gwaith yn ystod pob blwyddyn academaidd.

Mae nifer o bwyllgorau'n adrodd i'r Senedd a'r Cyngor - a ddiffinnir yn y Rheoliad Gweinyddol. Gweler: Pwyllgorau sy'n adrodd i'r Cyngor a'r Senedd a Pwyllgorau sy'n adrodd i'r Senedd.

Am ragor o wybodaeth, gwelir hefyd: