Rheolaeth

Rheolau Sefydlog Y Cyngor : Atodiad 1

Cyfrifoldebau Aelodau'r Cyngor

  1. Mae gan y Cyngor, fel y corff sy'n gyfrifol am fuddiannau'r Sefydliad, ddyletswydd arbennig i gydymffurfio ar bob adeg â safonau uchel rheolaeth gorfforaethol, gan sicrhau ei fod yn ymgymryd â'i ddyletswyddau mewn modd sy'n briodol o ran cyflawni busnes cyhoeddus. Yr egwyddorion sylfaenol i'w dilyn yw y dylai'r Cyngor:
    • gadw at y safonau uchaf o ran unplygrwydd a gwrthrychedd wrth ymwneud â'i holl waith, yn enwedig wrth reoli cyllid ac asedau.
    • ddilyn polisi o weithio yn yr amlwg, ac o eglurder, lle bynnag y bo modd.
    • fod yn atebol am weithrediadau'r sefydliad, ac am warchodaeth dros gronfeydd arian cyhoeddus a gwaddoliadau.
    • gwneud y defnydd gorau o'r arian sydd ar gael drwy sicrhau darparu gwasanaethau yn y modd mwyaf effeithiol, effeithlon a darbodus.
  2. Y mae'r Cyngor yn gyfrifol am hyrwyddo nod y sefydliad o gyflawni ei amcanion sylfaenol o ran dysgu ac ymchwil, gan sicrhau ar yr un pryd ei fod yn gweithredu o fewn i fframwaith o atebolrwydd effeithiol.
  3. Dyletswydd a chyfrifoldeb aelodau'r Cyngor, fesul un ac fel cyfangorff, yw gweithredu yn unol â'r egwyddorion uchod.
  4. Dyletswydd a chyfrifoldeb aelodau'r Cyngor hefyd, fel unigolion, yw gweithredu'n unol â'r Polisi a'r Canllawiau a fabwysiadodd y Cyngor yn ymwneud â Dadlennu Gwybodaeth Gyhoeddus.