Y Cyngor yw corff llywodraethol Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac y mae'n gyfrifol am weithredu busnes y sefydliad gan gadw golwg ar amcanion y sefydliad. Yn fwyaf arbennig, y Cyngor yw awdurdod gweinyddol ac ariannol y sefydliad, ac y mae'n rheoli ac yn ymgymryd â gweinyddu holl arian, eiddo, buddsoddiadau ac incwm y sefydliad - Y Siarter Erthygl XIII.
Amlinellir cyfrifoldebau aelodau'r Cyngor, ar y cyd ac yn unigol, yn Atodiad 1 i'r Rheolau Sefydlog hyn. Cymeradwywyd a mabwysiadwyd Canllawiau i Aelodau'r Cyngor, yn cynnwys datganiad ar Ddadlennu Gwybodaeth Gyhoeddus, gan y Cyngor ar 20.12.2000 - Y Cyngor, 3.4.96 Cofnod 37, Y Cyngor 20.12.00 Cofnod 7.
Os bydd unrhyw anghysondeb rhwng y Rheolau Sefydlog a'r Siarter, yr Ystatudau, yr Ordinhadau, neu'r Rheoliadau, y rhai olaf hyn a gyfrifir yn awdurdodol.
Swyddogion Y Cyngor
Y Llywydd a gaiff lywyddu yn holl gyfarfodydd y Cyngor. Os bydd y Llywydd yn absennol neu'n anfodlon llywyddu, fe gymerir y gadair fel arfer gan un o'r canlynol, gan ddewis yn ôl y drefn hon - Ystatud 15(5):
Yr Is-Lywydd hwyaf ei wasanaeth, os yn bresennol
Yr Is-Lywydd arall, os yn bresennol
Y Trysorydd, os yn bresennol
Aelod o'r Cyngor, heb fod yn aelod o staff y brifysgol neu'n aelod o Ffurfiad y Myfyrwyr, wedi'i ddewis gan y rhai sy'n bresennol
Y Cofrestrydd ac Ysgrifennydd fydd Ysgrifennydd y Cyngor.