Cedwir cofnod gan y Cofrestrydd ac Ysgrifennydd o holl aelodau cyfredol y Cyngor.
Bydd cyfnodau aelodaeth aelodau o'r Cyngor fel a ganlyn - Ystatud 15(2):
Aelodau Ex-officio : cyhyd ag y byddant yn dal y swyddi y daethant yn aelodau trwyddynt.
Aelodau Cynrychioliadol : hyd nes iddynt beidio â bod yn aelodau o'r corff a'u penododd neu hyd diwedd ydrydedd flwyddyn yn dilyn eu penodi neu hyd y dyddiad hwnnw a benodo'r corff penodi ym mhob achos, p'un bynnag fydd y cynharaf.
Aelodau a benodwyd gan y Llys : hyd ddiwedd y drydedd flwyddyn yn dilyn eu penodi neu hyd ddyddiad cynharach i'w bennu ym mhob achos gan y Llys.
Aelodau a etholwyd gan y Senedd : cyhyd ag y byddant yn aelodau o'r Senedd. Byddant yn aros yn eu swyddi hyd ddiwedd yr ail flwyddyn yn dilyn eu penodiad neu hyd ddyddiad cynharach a bennir ym mhob achos gan y Senedd i beri cylchdroi.
Aelodau a etholwyd gan ac o blith y staff an-academaidd : am dair blynedd o 1 Medi yn dilyn eu hetholiad neu hyd nes iddynt beidio â bod yn aelodau o'r etholaeth a'u hetholodd, p'un bynnag fydd y cynharaf - Rheoliad Gweinyddol: Y Cyngor - Etholiad Aelodau An-academaidd'.
Aelodau Cyfetholedig : hyd at ddiwedd y drydedd flwyddyn yn dilyn eu cyfethol neu hyd ddyddiad cynharach i'w bennu ym mhob achos gan y Cyngor.
Bydd aelodau ar dir i'w hail-benodi neu eu hail-ethol fel a ganlyn - Ystatud 15(3), Ystatud 26(2):
Yn amodol ar ddarpariaethau Ordinhad 13, bydd aelod a benodwyd gan y Llys, ar ddiwedd ei dymor aelodaeth ar dir i'w ail-benodi oni bai ei fod wedi ymddiswyddo neu wedi ei ddiswyddo.
Bydd aelod a etholwyd gan y Senedd, ar ôl cwblhau tymor aelodaeth, ar dir i'w ail-ethol am dymor pellach heb fod yn fwy na dwy flynedd. Ar ôl cwblhau'r cyfryw dymor aelodaeth ychwanegol, neu wedi iddo ymddiswyddo, ni fydd ar dir i'w ail-ethol gan y Senedd nes bod blwyddyn wedi mynd heibio.
Bydd aelod a etholwyd gan y staff an-academaidd ar dir i'w ail-ethol am hyd at dri thymor pellach - Rheoliad Gweinyddol: Y Cyngor - Etholiad Aelodau An-academaidd'.