Rheolaeth

Rheolau Sefydlog Y Cyngor

Cyfarfodydd Y Cyngor

  1. Cynhelir cyfarfodydd cyffredin y Cyngor o leiaf bedair gwaith ym mhob blwyddyn academaidd.
  2. Bydd y Cyngor yn cymeradwyo dyddiadau cyfarfodydd cyffredin yn ystod ei gyfarfod yn haf y flwyddyn academaidd flaenorol.
  3. Os bydd angen newid dyddiad cyfarfod cyffredin o'r Cyngor, rhaid rhoi i aelodau o leiaf bedwar diwrnod ar ddeg o rybudd mewn ysgrifen.
  4. Bydd y Cofrestrydd ac Ysgrifennydd yn rhoi rhybudd o bob cyfarfod cyffredin i holl aelodau'r Cyngor o leiaf saith diwrnod cyn dyddiad y cyfryw gyfarfod. Fe gyfrifir fod hysbysiad wedi ei gyflwyno'n briodol ail drannoeth wedi'r postio.
  5. Gelwir cyfarfod arbennig o'r Cyngor, i'w gynnal ar y dyddiad a'r awr a benderfyna'r Llywydd, pan ofynnir am hynny mewn ysgrifen gan y Llywydd, yr Is-Ganghellor a Phrifathro neu o leiaf bymtheg aelod o'r Cyngor.
  6. Mewn unrhyw gyfarfod arbennig, fe gyfyngir y busnes i'r hyn y rhoddwyd rhybudd ohono ac unrhyw fusnes y penderfyna'r Cadeirydd ei fod yn codi'n uniongyrchol o'r busnes hwnnw.
  7. Ffurfir cworwm gan un aelod ar bymtheg o'r Cyngor. Lle na bo cworwm, ymgynghorol fydd natur unrhyw drafodaeth, ac ni cheir cymryd penderfyniadau, ac eithrio gohirio'r cyfarfod.
  8. Os bydd unrhyw aelod yn dymuno dwyn busnes ger bron cyfarfod o'r Cyngor rhaid iddo roi rhybudd mewn ysgrifen i'r Cofrestrydd ac Ysgrifennydd o leiaf ddeg diwrnod cyn dyddiad y cyfarfod. Ni chaiff y Cyngor ystyried papurau heblaw'r rhai a ddosberthir i aelodau gan y Cofrestrydd ac Ysgrifennydd.
  9. Trefnir busnes y cyfarfodydd cyffredin fel arfer fel a ganlyn:
    1. Materion personol - pleidleisiau o gydymdeimlad, llongyfarchion, etc.
    2. Cofnodion y cyfarfod blaenorol.
    3. Adroddiadau Pwyllgorau Dewis.
    4. Materion yn codi o'r cofnodion.
    5. Gohebiaeth.
    6. Materion a godir gan yr Is-Ganghellor a Phrifathro.
    7. Adroddiadau Pwyllgorau Sefydlog.
    8. Adroddiadau pwyllgorau eraill.
    9. Etholiadau a phenodi cynrychiolwyr.
    10. Cynigion gan aelodau y rhoddwyd rhybudd ohonynt o leiaf ddeg diwrnod cyn y cyfarfod.
    11. Unrhyw fater arall y rhoddwyd rhybudd ohono.

    Gall y Cadeirydd newid trefn y busnes mewn unrhyw gyfarfod.
  10. Nid oes hawl gan y fyfyrwyr sydd yn aelodau o'r Cyngor i dderbyn unrhyw bapurau, neu i fynychu na chymryd rhan mewn unrhyw gyfarfod, neu rhan o gyfarfod sydd yn ymwneud a busnes y Cyngor sydd yn effeithio apwyntiad, dyrchafiad neu materion personal unrhyw aelod o staff, neu mynediad, asesiad academaidd neu materion personol unrhyw fyfyriwr, neu unrhyw fusnes arall o'r Cyngor, a benderfynir gan y Cyngor na ddylai cael ei rhannu gyda'r myfyrwyr sydd yn aelodau o'r Cyngor.
  11. Y Gymraeg a'r Saesneg yw ieithoedd swyddogol y sefydliad, ac y mae gan aelodau'r Cyngor yr hawl i siarad naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg wrth annerch y Cyngor. Bydd rhybudd, agenda a chofnodion cyfarfodydd y Cyngor yn ddwyieithog. Bydd y Cofrestrydd ac Ysgrifennydd yn trefnu cyfleusterau cyfieithu ar y pryd yng nghyfarfodydd y Cyngor - Erthygl XXII, Cynllun Iaith Gymraeg Adran 4.4.
  12. Ni wneir gweithrediadau'r Cyngor yn annilys gan unrhyw ddiffyg yn nifer ei aelodau neu ym mhenodiad neu gymwysterau ei aelodau.
  13. Ni fydd unrhyw gyfarfod o'r Cyngor yn annilys oherwydd na roddwyd rhybudd o'r cyfarfod hwnnw i unrhyw berson neu gorff y bydd hawl ganddo dan y Siarter neu'r Ystatudau i dderbyn y cyfryw rybudd.