Mae gan y Cyngor yr hawl drwy Reoliadau Gweinyddol i sefydlu pwyllgorau, byrddau, paneli ymgynghorol a byrddau cynghorol a all gynnwys neu beidio a chynnwys cynrychiolwyr o'r Cyngor a'r cyfryw bersonau eraill ag a benderfyno'r Cyngor - Ystatud 16(25).
Pwyllgorau Sefydlog y Cyngor fydd y canlynol - Rheoliad Gweinyddol: Pwyllgorau sy'n adrodd i'r Cyngor':
Cyd-Bwyllgorau'r Cyngor a'r Senedd fydd: - Rheoliad Gweinyddol: Pwyllgorau sy'n adrodd i'r Cyngor':
Pwyllgor Cynllunio ac Adnoddau Cyd-Bwyllgor ar Ddefnyddio'r Gymraeg Pwyllgor Siarter Pwyllgor Enwebu Cymrodyr Pwyllgor Cyfleoedd Cyfartal Pwyllgor Moeseg Dulliau Ymchwil Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd
Diffinir cyfansoddiad a thelerau'r pwyllgorau uchod mewn Rheoliad Gweinyddol.
Darperir drwy Reoliad Gweinyddol ar gyfer pennu cworwm i bob un o'r pwyllgorau uchod.
Yn amodol ar y Siarter a'r Ystatudau, gall y Cyngor awdurdodi pwyllgorau i weithredu ar faterion penodedig neu'n fwy cyffredinol, gyda'r gallu i ddirprwyoi gorff neu berson arall neu heb y gallu hwnnw, ar y ddealltwriaeth ei fod yn llwyr gyfrifol am urnhyw weithred a wneir o dan yr awdurdod hwnnw, a bod y cyfryw faterion yn cael eu hadrodd yn llawn i'r Cyngor yn ei gyfarfod cyffredin nesaf.