Bydd y darpariaethau a ganlyn, oni nodir yn wahanol isod, yn weithredol ar gyfer pob etholiad a gynhelir gan y Cyngor:
Mewn unrhyw etholiad, os na fydd nifer yr ymgeiswyr a enwebwyd yn fwy na nifer y lleoedd gweigion, bydd y Cadeirydd yn datgan fod yr ymgeiswyr wedi eu hethol.
Pan fydd nifer y rhai a enwebwyd i'w hethol yn fwy na nifer y lleoedd sydd i'w llenwi, fe gynhelir etholiad drwy bleidlais gudd ymhlith yr aelodau sy'n bresennol yn y cyfarfod.
Diffinir y trefniadau ar gyfer cynnal etholiadau i bwyllgorau sy'n adrodd i'r Cyngor mewn Rheoliad Gweinyddol - Rheoliad Gweinyddol: Pwyllgorau sy'n adrodd i'r Cyngor'.
Lle cynhelir pleidlais ar gyfer llenwi un lle gwag, fe weithredir y Bleidlais Amgen. Lle mae dau neu fwy o leoedd gwag i'w llenwi, gweithredir yn ôl dull y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy.
Bydd y Cyngor yn penodi dau archwilydd, o blith yr aelodau sy'n bresennol, ar gyfer unrhyw etholiad a gynhelir drwy bleidlais gudd.
Datganiad canlyniadau
Ar ôl cyhoeddi canlyniad unrhyw bleidlais, fe ddinistrir y papurau pleidleisio a ddefnyddiwyd ymhen un mis wedi hynny.