Ni chaniateir unrhyw drafodaeth ar gynnig neu welliant nad yw wedi ei eilio, ac eithrio y gall y Cadeirydd wneud cynigiad yn ddi-rybudd o'r Gadair a'i gyflwyno, heb ei eilio, yn gynnig i'w osod ger bron y Cyngor.
Oni fydd rhybudd o gynnig wedi ei roi eisoes, rhaid i bob cynnig neu welliant fod wedi ei gyflwyno i'r Cadeirydd yn ysgrifenedig, oni fydd y Cadeirydd yn caniatáu cyflwyno'r cynigion hynny ar lafar.
Rhaid i aelodau annerch y Cadeirydd a chyfyngu eu hanerchiadau i'r pwnc o dan drafodaeth neu i esboniad personol neu bwynt o drefn. Ni chaiff unrhyw araith fod yn hwy na deng munud oni cheir caniatâd y Cadeirydd.
Ni chaiff unrhyw aelod siarad fwy nag unwaith ar gynnig, neu fwy nag unwaith ar unrhyw welliant, heblaw gyda chaniatâd y Cadeirydd, ac eithrio:
y bydd gan gynigydd unrhyw gynnig neu welliant yr hawl i ateb ar ddiwedd y ddadl ar y cynnig neu'r gwelliant;
ar bwynt o drefn, a fydd yn ôl y diffiniad a roddir yma yn cyfeirio'n unig at honiad fod rheol sefydlog wedi'i thorri; neu
er mwyn rhoi esboniad personol a fydd yn eglurhad ar ran o araith a wnaed eisoes gan yr aelod hwnnw, ac sy'n ymddangos fel petai wedi ei gamddeall.
Rhaid i bob gwelliant fod yn berthnasol i'r cynnig y mae yn gysylltiedig ag ef, ac ni chaiff gyflwyno syniad newydd neu negyddu'r cynnig sydd ger bron y cyfarfod. Y Cadeirydd fydd yn dyfarnu ar fater perthnasedd neu a yw'r gwelliant yn negyddu cynnig.
Bydd pob amrywiad ar gynnig yn cael ei gyfrif yn welliant ac fe ymdrinir ag ef fel y cyfryw, onis gwneir gan gynigydd y cynnig gwreiddiol gyda chaniatâd mwyafrif yr aelodau sy'n bresennol.
Un gwelliant yn unig y gellir ei gynnig a'i drafod ar y tro, ac ni cheir cynnig gwelliant pellach hyd nes y gorffennir â'r gwelliant o dan drafodaeth.
Os gwrthodir gwelliant, gellir cynnig gwelliannau pellach i'r cynnig gwreiddiol. Os derbynnir gwelliant, bydd y cynnig diwygiedig yn cymryd lle'r cynnig gwreiddiol, a hwnnw fydd y cynnig y gellir cyflwyno gwelliannau pellach iddo.
Gellir tynnu cynnig neu welliant yn ôl gan y cynigydd a'r eilydd, gyda chaniatâd mwyafrif yr aelodau sy'n bresennol.
Pan fo cynnig o dan drafodaeth, ni cheir cyflwyno unrhyw gynnig arall ac eithrio'r canlynol:
i wella'r cynnig;
i ohirio gweddill y cyfarfod;
i ohirio gweddill y ddadl;
i symud ymlaen at y busnes nesaf;
i roi'r cwestiwn i bleidlais;
bod pleidleisio ar ran neu rannau o'r cynigiad ar wahân;
fod pwnc y ddadl i'w gyfeirio yn ôl.
Penderfynir ar bob cynnig neu welliant drwy fwyafrif syml o aelodau'r Cyngor sy'n bresennol ac yn pleidleisio, ac eithrio lle dynodir i'r gwrthwyneb. Pleidleisir drwy godi dwylo, ond fe all y Cadeirydd neu fwyafrif ymwneud o aelodau'r Cyngor sy'n bresennol alw am bleidlais gudd ar gynnig sy'n ymneud ag aelod unigol o'r Cyngor neu bwyllgor, neu aelod o'r staff. Lle bo nifer y pleidleisiau yn gyfartal, bydd gan y Cadeirydd ail bleidlais fwrw. Ni orfodir y Cadeirydd ddefnyddio'r bleidlais fwrw hon. Lle bo'r Cadeirydd yn pallu pleidleisio felly, rhaid i'r Cadeirydd ddatgan fod y cynnig heb ei dderbyn.
Bydd gan y Cadeirydd yr hawl i alw am bleidlais gofrestredig pe bai ef o'r farn fod y mater i'w benderfynu o bwysigrwydd eithriadol i fuddiannau'r sefydliad. Bydd gan aelod heblaw'r Cadeirydd yr hawl i gynnig bod penderfyniad yn cael ei wneud drwy bleidlais gofrestredig; gosodir y cyfryw gynnig ger bron y Cyngor a phenderfynir arno drwy fwyafrif syml, a thrwy godi dwylo.
Rhaid rhoi rhybudd, yn unol â pharagraff 3.9(10) uchod, am unrhyw gynnig i ddiddymu penderfyniad a wnaed yn gynharach gan y Cyngor.
Ni bydd dyfarniad y Cadeirydd ar bwynt o drefn neu ar ddilysrwydd esboniad personol yn agored i unrhyw drafodaeth.
Os bydd unrhyw aelod mewn cyfarfod o'r Cyngor dro ar ôl tro yn anwybyddu rheolau'r Gadair neu'n ymddwyn yn afreolus neu mewn modd amhriodol neu sarhaus neu'n fwriadol rwystro busnes y Cyngor, a thrwy hynny ym marn y Cadeirydd yn peri na ellir cyflawni'r gwaith yn briodol ac yn drefnus, gall y Cadeirydd, heb roi'r cwestiwn i bleidlais, ohirio neu atal y cyfarfod cyhyd ag yr ystyria'r Cadeirydd yn briodol.
Bydd gan y Llywydd neu yn ei absenoldeb un o'r Is-Lywyddion neu'r Trysorydd yr hawl, wedi ymgynghori â'r Is-Ganghellor a'r Cofrestrydd ac Ysgrifennydd, i ddelio â materion o frys a'r materion hynny a ddirprwyrir iddo gan y Cyngor, ac i roi adroddiad ar y cyfryw faterion i gyfarfod cyffredin nesaf y Cyngor.