Rheolaeth

Rheolau Sefydlog Y Cyngor

Newid Ac Atal Y Rheolau Sefydlog

  1. Gall y Cyngor ddiddymu, newid neu ychwanegu at y rhannau hynny o'r Rheolau Sefydlog hyn nad ymgorfforir ynddynt gymalau o'r Siarter, Ystatudau neu Ordinhadau, ar yr amod bod telerau'r newid a gynigir wedi'u dosbarthu i'r aelodau o leiaf wythnos cyn y cyfarfod o'r Cyngor lle y bwriedir eu hystyried, ac ar yr amod bod y newid yn cael ei gymeradwyo gan o leiaf ddwy ran o dair o'r aelodau sy'n bresennol ac yn pleidleisio.
  2. Gellir atal yr adrannau hynny o'r Rheolau Sefydlog hyn nad ymgorfforir cymalau o'r Siarter, Ystatudau neu'r Ordinhadau ynddynt ar gyfer eitem neilltuol o fusnes drwy bleidlais dwy ran o dair o'r aelodau sy'n bresennol ac yn pleidleisio.

Datganiad Cysylltiad

  1. Dylai unrhyw aelod o'r Cyngor a chanddo/chanddi gysylltiad ariannol, teuluol neu gysylltiad personol arall ag unrhyw fater o dan sylw yn unrhyw gyfarfod o'r Cyngor neu un o'i bwyllgorau y mae ef/hi yn bresennol ynddo, ddatgan cyn gynted ag sy'n ymarferol ei gysylltiad ef/chysylltiad hi i'r cyfarfod gan fynd allan o'r rhan hwnnw o'r cyfarfod. Serch hynny, nid ystyrir bod gan aelod o'r Cyngor gysylltiad ariannol na phersonol â'r materion o dan sylw yn unig yn sgil y ffaith ei fod ef/bod hi yn aelod o staff neu'n fyfyriwr/fyfyrwraig yn y sefydliad. Nid yw cyfyngiadau ar ymwneud â materion y mae ganddynt gysylltiad uniongyrchol personol neu ariannol â hwy yn gwahardd aelodau o'r Cyngor rhag ystyried neu bleidleisio ar gynigion i ddiogelu'r Cyngor rhag ymrwymiadau posibl - Y Cyngor, 3.4.96, Cofnod 37.

Trefn Cymeradwyo Adroddiadau Pwyllgorau Dewis

  1. Bydd gan Bwyllgorau Dewis heblaw yn achos penodiad Is-Ganghellor, Cofrestrydd ac Ysgrifennydd, a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Gwybodaeth, yr hawl i gadarnhau penodiadau, gan adrodd i'r Cyngor ar eu penderfyniadau - Y Cyngor 20.12.2000, Cofnod 34.

Adolygiad Cyfnodol o'r Rheolau Sefydlog

  1. Bydd i'r Cyngor adolygu'r Rheolau Sefydlog hyn bob pum mlynedd neu'n amlach na hynny.