Rheolaeth

Ordinhadau

Ordinhad 1

AELODAU'R BRIFYSGOL

1. Y canlynol fydd aelodau’r Brifysgol:

        (i) aelodau’r Llys, y Cyngor a’r Senedd;

        (ii) y Swyddogion, a holl gyn-ddeiliaid y swyddi hynny:

        (iii) y Staff;

        (iv) yr Athrawon Emeritws;

        (v) y Myfyrwyr;

        (vi) graddedigion y Brifysgol.

2. Gall y Cyngor trwy benderfyniad ganiatáu i ba bersonau, neu gategorïau o bersonau, ag y gwêl yn dda fod yn aelodau, naill ai am gyfnod penodol neu amhenodol.

 
Ordinhad 2

Y LLYWYDD

1. Penodi Llywydd

    Penodir y Llywydd gan y Cyngor a bydd yn dal y swydd am gyfnod o bum mlynedd.
    Gall y Llywydd ymddiswyddo trwy roi rhybudd ysgrifenedig i’r Cofrestrydd ac Ysgrifennydd.
    Pan fydd angen penodi Llywydd, bydd y Cyngor yn penodi Pwyllgor Dewis i ystyried y penodiad.
    Bydd y Pwyllgor Dewis yn ymgynghori yn briodol ac yn cyflwyno argymhelliad i’r Cyngor.

2. Ailbenodiadau

    Bydd y Llywydd ar dir i’w ailbenodi am un cyfnod pellach o bum mlynedd.
    Os yw person yn cwblhau dau gyfnod o bum mlynedd yn Llywydd nid yw hynny’n eithrio’r cyfryw berson rhag gwasanaethu ar y Cyngor ar unwaith mewn swydd arall.

3. Dyletswyddau’r Llywydd

    Y Llywydd yw pennaeth an-weithredol y Brifysgol ac fe fydd, yn rhinwedd ei safle anrhydeddus, yn cyflawni pa swyddogaethau bynnag a bennir gan y Cyngor, a fydd yn 
    cynnwys:

        Bod yn Gadeirydd ar y Llys
        Bod yn Gadeirydd ar y Cyngor, os nad yw’r Cyngor wedi penodi Cadeirydd neu os nad yw swydd y Cadeirydd wedi ei llenwi
        Bod yn aelod, yn rhinwedd y swydd, o nifer o Bwyllgorau’r Brifysgol.

4. Diswyddo’r Llywydd

    Gellir symud y Llywydd o’r swydd os yw’r Is-Lywyddion, y Trysorydd a’r Is-Ganghellor yn tystio yn unfrydol fod y Llywydd, yn eu barn hwy, wedi bod yn analluog yn
    barhaus yn ystod y deuddeng mis a aeth heibio i gyflawni’r swydd neu wedi esgeuluso’r swydd a methu’n llwyr â’i chyflawni.
 

Ordinhad 3

YR IS-LYWYDDION

1. Penodi Is-Lywyddion

        Penodir Is-Lywydd gan y Cyngor a bydd yn dal y swydd am gyfnod o bum mlynedd.
        Gall Is-Lywydd ymddiswyddo trwy roi rhybudd ysgrifenedig i’r Cofrestrydd ac Ysgrifennydd.
        Pan fydd angen penodi Is-Lywydd, bydd y Cyngor yn penodi Pwyllgor Dewis i ystyried y penodiad.
        Bydd y Pwyllgor Dewis yn ymgynghori yn briodol ac yn cyflwyno argymhelliad i’r Cyngor.

2. Ailbenodiadau

    Bydd Is-Lywydd ar dir i’w ailbenodi am un cyfnod pellach o bum mlynedd.
    Os yw person yn cwblhau dau gyfnod o bum mlynedd yn Is-Lywydd nid yw hynny’n eithrio’r cyfryw berson rhag gwasanaethu ar y Cyngor ar unwaith mewn swydd
    arall.

3. Dyletswyddau’r Is-Lywyddion

    Bydd Is-Lywyddion y Brifysgol, yn rhinwedd eu safle anrhydeddus, yn cyflawni pa ddyletswyddau bynnag a bennir gan y Cyngor, gan gynnwys:

    cyflawni’r dyletswyddau a ddirprwyir iddynt gan y Llywydd
    holl ddyletswyddau’r Llywydd os yw’r swydd honno yn wag
    bod yn aelodau yn rhinwedd y swydd o nifer o Bwyllgorau’r Brifysgol.

4. Diswyddo Is-Lywyddion

    Gellir symud Is-Lywydd o’r swydd os yw’r Llywydd, yr Is-Lywydd arall, y Trysorydd a’r Is-Ganghellor yn tystio yn unfrydol fod yr Is-Lywydd, yn eu barn hwy, wedi bod
    yn analluog yn barhaus yn ystod y deuddeng mis a aeth heibio i gyflawni’r swydd neu wedi esgeuluso’r swydd a methu’n llwyr â’i chyflawni.

 
Ordinhad 4

Y TRYSORYDD

1. Penodi Trysorydd

    Penodir Trysorydd gan y Cyngor a bydd yn dal y swydd am gyfnod o bum mlynedd.
    Gall y Trysorydd ymddiswyddo trwy roi rhybudd ysgrifenedig i’r Cofrestrydd ac Ysgrifennydd.
    Pan fydd angen penodi Trysorydd, bydd y Cyngor yn penodi Pwyllgor Dewis i ystyried y penodiad.
    Bydd y Pwyllgor Dewis yn ymgynghori yn briodol ac yn cyflwyno argymhelliad i’r Cyngor.

2. Ailbenodiadau

    Bydd y Trysorydd ar dir i’w ailbenodi am un cyfnod pellach o bum mlynedd.
    Os yw person yn cwblhau dau gyfnod o bum mlynedd yn Drysorydd nid yw hynny’n eithrio’r cyfryw berson rhag gwasanaethu ar y Cyngor ar unwaith mewn swydd arall.

3. Dyletswyddau’r Trysorydd

    Bydd Trysorydd y Brifysgol, yn rhinwedd ei safle anrhydeddus, yn cyflawni pa ddyletswyddau bynnag a bennir gan y Cyngor, gan gynnwys;

    cadeirio’r Pwyllgor Cyllid ac Amcanion Cyffredinol;
    sicrhau bod materon cyllidol y Brifysgol yn cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliedig a chynghori’r Cyngor yn unol â hynny;
    cyflwyno datganiad y cyfrifon, wedi eu harchwilio, i’r Cyngor a’r Llys;
    bod yn aelod yn rhinwedd y swydd o nifer o Bwyllgorau’r Brifysgol.

4. Diswyddo’r Trysorydd

    Gellir symud y Trysorydd o’r swydd os yw’r Archwilwyr yn argymell hynny neu os yw’r Llywydd, yr Is-Lywyddion a’r Is-Ganghellor yn tystio yn unfrydol fod y
    Trysorydd, yn eu barn hwy, wedi bod yn analluog yn barhaus yn ystod y deuddeng mis a aeth heibio i gyflawni’r swydd neu wedi esgeuluso’r swydd a methu’n llwyr â’i
    chyflawni.

 
Ordinhad 5

YR IS-GANGHELLOR

1. PENODI IS-GANGHELLOR

1.1 Pan yw swydd yr Is-Ganghellor yn wag, neu ar fin dod yn wag, bydd y Cyngor yn penodi Pwyllgor Dewis a fydd yn cynnwys yr aelodau canlynol:

        (a) Aelodau yn rhinwedd eu swydd:
                Y Llywydd
                Y Trysorydd
                Dau Ddirprwy Is-Ganghellor
        (b) Dau aelod lleyg a benodir gan ac o blith aelodau’r Cyngor
        (c) Un aelod a benodir gan ac o blith aelodau’r Senedd
        (d) Pennaeth sefydliad prifysgol arall.

1.2 Y Cofrestrydd ac Ysgrifennydd fydd Ysgrifennydd y Pwyllgor Dewis. Os na all y Cofrestrydd ac Ysgrifennydd ymgymryd â gwaith yr Ysgrifennydd am ba reswm bynnag, bydd y Pwyllgor Dewis yn penodi Ysgrifennydd o blith uwch-aelodau’r Staff Gweinyddol.

1.3 Bydd gan y Pwyllgor Dewis y pŵer i bennu ei ddull gweithredu yng ngoleuni’r amgylchiadau sy’n bodoli ar y pryd.

1.4 Bydd y Pwyllgor Dewis yn cyflwyno i’r Cyngor Adroddiad o’i argymhelliadau ynglŷn â phenodi Is-Ganghellor.

1.5 Bydd y Cyngor yn penodi Is-Ganghellor ar yr amodau a’r telerau y mae’n eu hystyried yn addas.

2. DYLETSWYDDAU’R IS-GANGHELLOR

2.1 Yr Is-Ganghellor fydd prif swyddog academaidd, gweinyddol a chyfrifyddol y Brifysgol a chan ddeiliad y swydd hon y mae’r cyfrifoldeb cyffredinol am gynnal a hyrwyddo effeithiolrwydd a threfn dda o fewn i’r Brifysgol.

2.2. Gall yr Is-Ganghellor enwebu dirprwy i fod yn bresennol ar ei ran/rhan yn unrhyw un o gyfarfodydd corff neu bwyllgor.

3. PENODI IS-GANGHELLOR DROS-DRO

3.1 Os yw’r Is-Ganghellor yn absennol am dros 3 mis neu os daw swydd yr Is-Ganghellor yn wag, gall y Cyngor benodi Is-Ganghellor dros-dro ar argymhelliad Pwyllgor Dewis a sefydlir i’r diben hwnnw. Aelodau’r Pwyllgor Dewis fydd y Llywydd, neu yn absenoldeb y Llywydd, un Is-Lywydd, y Trysorydd, un aelod lleyg arall a benodir gan y Cyngor ac un aelod a benodir gan y Senedd.

3.2 Bydd yr Is-Ganghellor dros-dro yn gweithredu tan y bydd deiliad presennol y swydd yn ailgydio yn y dyletswyddau, neu tan y gwneir penodiad parhaol, neu am ba gyfnod bynnag a bennir gan y Cyngor.

3.3 Y Cofrestrydd ac Ysgrifennydd fydd Ysgrifennydd y Pwyllgor Dewis. Os na all y Cofrestrydd ac Ysgrifennydd ymgymryd â gwaith yr Ysgrifennydd am ba reswm bynnag, bydd y Pwyllgor Dewis yn penodi Ysgrifennydd o blith uwch-aelodau’r Staff Gweinyddol

3.4 Yn ystod y drefn benodi os bydd aelod o’r Pwyllgor yn nodi yr hoffai gael ei ystyried/ hystyried, rhaid i’r aelod dan sylw ymddiswyddo o’r Pwyllgor a phenodir rhywun arall yn ei le/lle.