Rheolaeth

Ordinhadau 

Ordinhad 16

Y SENEDD - ETHOL AELODAU STAFF ACADEMAIDD

1. Bydd hawl gan Staff Academaidd y sefydliad, yn ôl y diffiniad yn Ystatud 1 a thrwy benderfyniad y Senedd neu drwy Reoliad, i ethol aelodau o'r Senedd, am 
        gyfnod o dair blynedd, yn unol â'r trefniadau canlynol.

2. Aelodau a etholir gan ac o blith yr etholaethau Cyfadrannol

2.1

Etholaeth Staff Academaidd yr Adrannau/pynciau canlynol Nifer y seddau

Y Celfyddydau

Addysg a Dysgu Gydol Oes
Astudiaethau Theatr Ffilm a Theledu
Celf
Cerddoriaeth
Cymraeg
Hanes a Hanes Cymru
Ieithoedd Ewropeaidd
Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

4

Astudiaethau Cymdeithasol

Astudiaethau Gwybodaeth
Ysgol Rheolaeth a Busnes
Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Y Gyfraith

4

Y Gwyddorau

Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear
Cyfrifiadureg
Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig
Gwyddorau Mathemateg a Ffiseg
Seicoleg 

4

2.2.
Penodir gan ac o blith aelodau'r etholaethau uchod. Yn ystod mis Mawrth yn y flwyddyn y daw cyfnod y swydd i ben, anfonir rhybudd etholiad at bob aelod o'r etholaeth a gwahoddir enwebiadau erbyn amser penodedig, heb fod yn hwyrach na 1 Mai.
2.3.
I fod yn ddilys, rhaid i bob enwebiad gael ei gynnig a'i eilio gan aelod o'r etholaeth briodol a dangos yn ysgrifenedig fod y sawl a enwebwyd yn cydsynio.
2.4.
Os bydd nifer yr enwebiadau yn fwy na nifer y lleoedd a bennwyd i etholaeth, cynhelir etholiad trwy bleidlais o blith ei holl aelodau. Cynhelir yr etholiad ar ddull y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy. Rhaid cwblhau'r bleidlais a chyhoeddi'r canlyniad erbyn 15 Mai.
3. Cyfnodau Aelodaeth
3.1.
Bydd cyfnod aelodaeth pawb a etholir yn unol â'r ddarpariaeth uchod yn dechrau ar 1 Medi canlynol.
3.2.
Llenwir lle gwag dros-dro am weddill cyfnod aelodaeth y sawl sy'n peri bod y lle yn wag.
3.3.

4. Archwilwyr etholiad

Bob blwyddyn bydd y Senedd yn penodi dau archwilydd o blith ei haelodau Ex Officio ar gyfer etholiad yr aelodau a bennir uchod.

5. Datrys amheuon

Ar wahân i'r hyn a ddarperir yn y paragraffau blaenorol, penderfynir unrhyw fater yn ymwneud ag aelodaeth etholaethau a gweinyddu etholiadau trwy benderfyniad y Senedd.

Ordinhad 17

Ffurfiad Y Myfyrwyr

Urdd Myfyrwyr Aberystwyth fydd "Ffurfiad y Myfyrwyr" a ddiffinir yn y Siarter a'r Ystatudau.

2. Etholir myfyrwyr yn aelodau o'r Cyngor, yn unol ag Ystatud 5(1)B a'r Senedd yn unol ag Ordinhad 14, gan Urdd Myfyrwyr Aberystwyth ar y telerau a'r amodau a ganlyn:

2.1 Bydd yr aelodau o blith y myfyrwyr naill ai'n swyddogion sabothol Urdd Myfyrwyr Aberystwyth neu'n fyfyrwyr amser llawn cofrestredig yn y sefydliad.

2.2 Penodir myfyrwyr yn aelodau am gyfnod o flwyddyn, a byddant ar dir i'w hailethol naill ai’n Swyddog Sabothol neu’n Gynrychiolydd Myfyrwyr amser llawn ar y Cyngor neu’r Senedd am gyfnod heb fod yn hwy na blwyddyn.

2.3 Yn amodol ar 2.1 a 2.2 uchod, bydd telerau a threfn penodi'r myfyrwyr yn aelodau ar y Cyngor a'r Senedd yn unol â'r hyn a ddiffinir yng Nghyfansoddiad Urdd y Myfyrwyr sy'n amodol ar ei gymeradwyo gan y Cyngor ar argymhelliad y Senedd, yn unol ag Ystatud 8.

Ordinhad 18

ADRANNAU ACADEMAIDD 1. Sefydliad

1.1 Y canlynol fydd yr Adrannau a sefydlwyd yn y Brifysgol onibai bod adrannau yn cael eu hychwanegu neu eu diddymu neu y bydd adran yn newid ei henw:

  Adran Astudiaethau Gwybodaeth
  Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu
  Adran Cyfrifiadureg
  Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol
  Adran Hanes a Hanes Cymru
  Adran Ieithoedd Ewropeaidd
  Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol
  Adran Seicoleg 
  Adran y Gyfraith a Throseddeg
  Adran y Gymraeg
  Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff
  Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear 
  Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig
  Sefydliad Mathemateg a Ffiseg
  Yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes
  Yr Ysgol Gelf
  Yr Ysgol Rheolaeth a Busnes

1.2    Gall y Cyngor, trwy ymgynghoriad â’r Senedd, ychwanegu Adrannau newydd, newid enw Adran, neu ddiddymu Adrannau.

2.      Cyfansoddiad

2.1     Bydd Adrannau yn cynnwys yr aelodau hynny o'r Staff Academaidd a'r aelodau eraill o staff a ddynodir iddynt o bryd i'w gilydd gan y Cyngor ar gyngor y
          Senedd.

2.2     Yn unol ag Ystatud 7, bydd Pennaeth Adran i bob Adran. (Gweler Ordinhad 20).

2.3     Bydd Bwrdd Adrannol i bob Adran hefyd, a nodir cyfansoddiad y Bwrdd mewn Rheoliadau.

3.       Pwerau a Swyddogaethau

3.1     Gan Bennaeth yr Adran y bydd y cyfrifoldeb am redeg yr Adran honno, a bydd y Pennaeth yn atebol i'r Cyngor.

3.2     Sefydlir Adrannau Academaidd dan y Siarter a'r Ystatudau i hwyluso trefnu gwaith academaidd y Brifysgol a phennir eu swyddogaethau, eu pwerau a'u
          cyfrifoldebau gan y Senedd a'r Cyngor wrth weithredu ar eu hawdurdod dan y Siarter a'r Ystatudau