Rheolaeth
Ordinhadau
Ordinhad 19
SWYDDI PENNAETH ADRANNAU ACADEMAIDD
1. Dyletswyddau
Bod yn atebol i'r Cyngor am weinyddu'r Adran yn unol â pholisïau'r sefydliad.
2. Penodi Penaethiaid Adrannau
2.1 Gellir penodi Pennaeth Adrannau naill ai:
(i) trwy hysbyseb agored a recriwtio, neu
(ii) o blith staff cymwys (yn ôl yr amlinelliad yn 4 isod) gan ddilyn trefn fewnol.
3. Cyfnod y Swydd
3.1 Pum mlynedd fydd cyfnod swydd Pennaeth Adran oni phenderfynir fel arall gan y Cyngor yn unol â chymal 3.2 isod, a gellir ei adnewyddu am gyfnod pellach o hyd at bum mlynedd, ac am gyfnodau pellach hyd at bum mlynedd ar y tro lle bo'r Pwyllgor Dewis o'r farn fod amgylchiadau'n cyfiawnhau hynny.
3.2 Gall y Cyngor benderfynu, fel y gwêl yn dda ac ar argymhelliad y Pwyllgor Dewis, fod cyfnod penodiad Pennaeth Adran a gysylltir â swydd wag i barhau am gyfnod o flynyddoedd sy'n fwy neu’n llai nag a bennir yng nghymal 3.1 uchod.
3.3 Gall yr Is-Ganghellor ar unrhyw adeg drefnu adolygiad ar benodiad Pennaeth Adran. Cynhelir yr adolygiad hwnnw gan Bwyllgor Dewis, a sefydlir yn unol â chymal 5.1. Bydd gan y Pwyllgor Dewis yr hawl mewn amgylchiadau felly i argymell i'r Cyngor newid Pennaeth yr Adran.
3.4 Gall Pennaeth Adran gyflwyno i'r Cyngor ar unrhyw adeg ei ymddiswyddiad o'i benodiad yn Bennaeth Adran.
3.5 Gall y Cyngor benderfynu fod penodiad i gadair Athro i fod hefyd yn benodiad i swydd Pennaeth Adran, ac mewn achos o'r fath fe weithredir y drefn a nodir yng nghymalau 3.1 a 3.2 uchod a chymal 6 isod.
3.6 Gall y Cyngor hefyd benderfynu cyfuno penodiad i swydd academaidd anghadeiriol a swyddogaeth Pennaeth Adran, ac mewn achos o'r fath fe wneir y penodiad gan y Cyngor yn unol â chymalau 3.1 a 3.2 uchod ar argymhelliad y Pwyllgor Dewis a sefydlwyd yn unol â chymal 5.1 isod, ond gan ddarparu bod y pwyllgor yn penodi asesydd â chanddo wybodaeth arbenigol o'r maes academaidd perthnasol.
4. Personau sydd ar dir i'w penodi'n Benaethiaid Adrannau
Bydd Athrawon, Ddarllenyddion ac Uwch-Ddarlithwyr ar dir i'w penodi'n Bennaethiaid Adran. Ni waherddir y Pwyllgor Dewis ychwaith rhag argymell penodi Darlithydd pe bai'r amgylchiadau a ystyriwyd gan y Pwyllgor yn cyfiawnhau hynny.
5. Dewis Penaethiaid Adrannau
5.1 Penodir Pennaeth Adran fel rheol gan y Cyngor, heblaw am ddarpariaethau cymal 6, ar argymhelliad Pwyllgor Dewis a fydd yn cynnwys yr aelodau canlynol:
Yr Is-Ganghellor
1 cynrychiolydd o'r Cyngor
2 aelod o'r Senedd, sef, fel rheol, Deon a Dirprwy Is-Ganghellor
Ni chaiff unrhyw gynrychiolydd ar y Pwyllgor Dewis fod yn aelod neu'n gyn-aelod o'r Adran y penodir Pennaeth iddi.
5.2 Bydd y Pwyllgor Dewis yn cynnal ei weithgareddau yn unol â threfn benodedig.
5.3 Pan ddaw swydd Pennaeth Adran yn wag, bydd y Cyngor yn penderfynu a ddylid gwahanu swyddogaeth Pennaeth oddi wrth y dyletswyddau eraill a graddfa'r swydd. Os penderfynir eu gwahanu bydd y Pwyllgor Dewis yn dewis Pennaeth o blith aelodau presennol y staff ac yn cyflwyno enw i'w ystyried gan y Cyngor.
6. Cyd-benodiad Athro a Phennaeth Adran
6.1 Pan benderfyna'r Cyngor bod penodiad i Gadair sefydledig i'w chyfuno â swyddogaeth Pennaeth Adran, boed hynny am gyfnod penodedig neu yn barhaol, fe wneir y penodiad gan y
Cyngor ar argymhelliad Panel Penodi yn ôl diffiniad Ordinhad 30.
7. Penodi Pennaeth Adran Dros-Dro
7.1 Os bydd Pennaeth Adran yn absennol, gall y Cyngor benodi Pennaeth Adran Dros-dro ar argymhelliad Pwyllgor Dewis a fydd yn cynnwys yr aelodau a nodir yn 5.1 uchod.
7.2 Bydd Pennaeth Adran Dros-dro yn aros yn y swydd tan y daw deiliad presennol y swydd yn ôl, neu tan y gwneir penodiad parhaol, neu am ba gyfnod bynnag a gaiff ei bennu gan y Cyngor.
Ordinhad 20
CYFADRANNAU
1. Y canlynol fydd Cyfadrannau’r Brifysgol:
Cyfadran y Celfyddydau
Cyfadran y Gwyddorau
Cyfadran y Gwyddorau Cymdeithasol
2. Cyrff ymgynghorol yw’r cyfadrannau sy’n ddarostyngedig i’r Senedd. Bydd pob Cyfadran yn adrodd i‘r Senedd, a fydd yn arddel pŵer yn unol â’r Siarter ac Ystatudau, oni bai bod y Senedd wedi dirprwyo pwerau gweithredol i’r Gyfadran honno am bob achos penodol.
3. Bydd aelodaeth y Cyfadrannau, a threfn penodi cynrychiolwyr ar gyrff eraill yn cael eu rheoleiddio trwy Reoliad a/neu Reolau Sefydlog pob cyfadran, a fydd yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd.
Ordinhad 21
PENODI DEONIAID A DIRPRWY DDEONIAID
1. PENODI DEONIAID
1.1 Bydd y Brifysgol yn penodi Deon i bob un o’r Cyfadrannau.
1.2 Bydd penodiad Deon yn cychwyn ar 1 Medi fel rheol.
1.3 Pedair blynedd fydd cyfnod cyntaf Deon yn y swydd a gellir ei ailbenodi/hailbenodi am gyfnod o ddwy flynedd.
1.4 Penodir y Deon gan y Cyngor fel rheol ar argymhelliad Pwyllgor Dewis a fydd yn cynnwys yr aelodau canlynol:
Yr Is-Ganghellor (Cadeirydd)
Dau Ddirprwy Is-Ganghellor
Un cynrychiolydd lleyg o’r Cyngor
Un Pennaeth Adran o’r Gyfadran
1.5 Bydd y Pwyllgor Dewis yn gweithredu yn unol â gweithdrefnau diffiniedig. Er mwyn osgoi anghydbwysedd yn y gynrychiolaeth ar lefel Cyfadran bydd y panel penodi, lle bo hynny’n bosibl, yn ceisio osgoi penodi dau aelod o’r un adran i swyddi’r Deon a’r Dirpwry Ddeon.
2. PENODI DIRPRWY DDEONIAID
2.1 Bydd y Brifysgol yn penodi Dirprwy Ddeon i bob un o’r Cyfadrannau.
2.2 Bydd penodiad Dirprwy Ddeon yn cychwyn ar 1 Medi fel rheol.
2.3 Pedair blynedd fydd cyfnod cyntaf Dirprwy Ddeon yn y swydd a gellir ei ailbenodi/hailbenodi am gyfnod o ddwy flynedd.
2.4 Penodir y Dirprwy Ddeon gan y Cyngor fel rheol ar argymhelliad Pwyllgor Dewis a fydd yn cynnwys yr aelodau canlynol:
Un Dirprwy Is-Ganghellor
Deon y Gyfadran
Un Deon o Gyfadran arall
Un Pennaeth Adran o’r Gyfadran
2.5 Bydd y Pwyllgor Dewis yn gweithredu yn unol â gweithdrefnau diffiniedig. Er mwyn osgoi anghydbwysedd yn y gynrychiolaeth ar lefel Cyfadran bydd y panel penodi, lle bo hynny’n bosibl, yn ceisio osgoi penodi dau aelod o’r un adran i swyddi’r Deon a’r Dirpwry Ddeon.
Ordinhad 22
CYMDEITHASAU CYDNABYDDEDIG CYN-FYFYRWYR Y BRIFYSGOL
1. Y gymdeithas o gyn-fyfyrwyr a gydnabyddir trwy hyn yw Cymdeithas y Cyn-fyfyrwyr, sef y gymdeithas a ffurfiwyd yn 1892 o dan yr enw 'Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth'.
2. Cydnabyddir hyn ar y ddealltwriaeth bod Cymdeithas y Cyn-fyfyrwyr yn gorff ar wahân ac yn annibynnol ar y sefydliad ac na fydd y sefydliad ar unrhyw adeg yn ymyrryd â'i chyfansoddiad na'i rheolaeth fewnol.
Ordinhad 23
YMDDEOLIAD SWYDDOGION A STAFF ACADEMAIDD
1. Bydd yr Is-Ganghellor, y Cofrestrydd ac Ysgrifennydd, ac aelodau eraill y Staff Academaidd heblaw'r rheiny a benodwyd am gyfnod penodol, yn ymddeol fel arfer ar ddiwedd y sesiwn pan fyddant yn cyrraedd eu 65 mlwydd oed, ond gallant ymddeol cyn hynny os yw'r Cyngor yn cytuno.
2. Ni fydd yr Ordinhad hwn yn effeithio ar sefyllfa unrhyw aelodau o'r Staff Academaidd a benodwyd cyn 1996 y mae telerau ac amodau eu swyddi'n mynnu eu bod yn ymddeol ddim hwyrach na diwedd y sesiwn pan fyddant yn cyrraedd eu 67 mlwydd oed.
3. Nodir gweithdrefnau manwl i’w dilyn ar ymddeoliad yr Is-Ganghellor, y Cofrestrydd ac Ysgrifennydd ac aelodau eraill y Staff Academaidd yn y Polisi Ymddeoliadau.
Ordinhad 24
GWEITHDREFN DISGYBLU MYFYRWYR
1. Y Senedd trwy Reoliad a fydd yn penderfynu ar y weithdrefn i’w dilyn mewn achosion o ddisgyblu myfyrwyr.
2. Bydd gweithdrefn o’r fath yn cynnwys:
(a) hawl myfyrwyr i glywed y cyhuddiadau a wnaed yn eu herbyn;
(b) hawl myfyrwyr i gyflwyno achos yn ysgrifenedig neu ar lafar gerbron y person neu bwyllgor a bennir o dan Reoliad o’r fath i ymdrin â’r achos;
(c) hawl myfyrwyr i ddewis cael person arall i siarad ar eu rhan;
(d) hawl myfyrwyr i alw a holi tystion;
(e) manylion y cosbau y gellid eu pennu pe ceid myfyriwr yn euog o dorri amodau disgyblaeth;
(f) hawl myfyrwyr i apelio yn erbyn y penderfyniad ac unrhyw gosb a bennir.