Rheolaeth
Ordinhadau
Ordinhad 25
TREFN DISGYBLU A DISWYDDO STAFF ACADEMAIDD A PHERTHYNOL
1. At ddibenion y drefn hon, bydd y diffiniad “Is-Ganghellor” yn cynnwys “Dirprwy Is-Ganghellor” neu unrhyw un arall a benodir gan yr Is-Ganghellor i ystyried a phenderfynu ar faterion ar ei ran.
2. Bydd pob cyfeiriad yn y drefn hon at y rhyw wrywaidd yn cynnwys y rhyw fenywaidd.
3. Adolygir y modd y gweithredir y drefn hon o bryd i’w gilydd gan y Brifysgol mewn ymgynghoriad ag Undeb y Prifysgolion a’r Colegau (University and College Union UCU). Caiff aelodau staff a nodir ym mharagraff 4 wybod am bob newid, ynghyd â’r dyddiad pan fydd y newid yn dod i rym.
4. Gweithredir y drefn hon yn achos pob aelod o’r Staff Academaidd gan gynnwys staff ar raddfeydd Academaidd Berthynol, ac eithrio staff a fydd wedi dod i ddiwedd cytundeb cyfnod penodol drwy fod y cytundeb hwnnw wedi dod i ben neu heb ei adnewyddu.
5. Ymdrinir â mân feiau yn anffurfiol gan Bennaeth yr Adran neu’r sawl a ddirprwywyd ganddo i’r diben hwnnw.
6. Lle bo’r achos yn fwy difrifol ond heb fod yn achos cyfiawn posibl ar gyfer diswyddo, dylid gweithredu’r drefn a ganlyn:
Cam 1 - Rhybudd Llafar
7. Os gwelir bod ymddygiad a chyflawniad gwaith heb gyrraedd y safonau derbyniol, yn dilyn archwiliad prydlon a digonol gan Bennaeth yr Adran, fe rydd y Pennaeth Adran RYBUDD LLAFAR yn ffurfiol i’r aelod o’r Staff Academaidd. Cyfwelir â’r aelod o’r Staff Academaidd fel rhan o’r archwiliad, a gall ddod â pherson arall gydag ef i’r cyfweliad, cynrychiolydd undeb neu gydweithiwr fel arfer. Rhoddir gwybod i’r aelod y rheswm dros y rhybudd, ac fe’i hysbysir mai dyma gam cyntaf y drefn ddisgyblu, ac o’i hawliau i apelio yn unol â’r paragraff hwn. Bydd y Pennaeth Adran yn cadw nodyn byr o’r rhybudd llafar, gan anfon copïau at y Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol, a hefyd at Ysgrifennydd Cangen yr UCU yn achos aelod o’r UCU. Bydd y rhybudd llafar yn ddi-rym ar ôl 12 mis, cyhyd ag y bo’r aelod yn ymddwyn ac yn cyflawni ei waith yn foddhaol, a rhoddir gwybod mewn ysgrifen i’r Aelod Staff Academaidd gan Bennaeth yr Adran fod y rhybudd wedi ei ddileu o’r cofnodion.
Cam 2 - Rhybudd Ysgrifenedig
8. Os bydd y tramgwydd yn ddifrifol, neu os digwydd tramgwydd arall, fe rydd y Pennaeth Adran RYBUDD YSGRIFENEDIG i’r aelod o’r Staff Academaidd. Rhoddir ynddo fanylion y gŵyn, y gwelliant sy’n ofynnol, a’r amser a ganiateir. Rhybuddir ynddo y gellir gwneud cwyn i’r Cofrestrydd ac Ysgrifennydd yn gofyn am i’r cyhuddiadau gael eu gwrando ger bron Tribiwnlys a benodwyd yn unol â pharagraff 13 os nad oes gwelliant boddhaol, a bydd yn rhoi gwybod am yr hawl i apelio yn unol â’r paragraff hwn. Pan gyflwynir rhybudd ysgrifenedig, gwneir trefniadau ar gyfer monitro cynnydd yr unigolyn dros y cyfnod a nodwyd. Rhoddir sylw i unrhyw ddatblygiad personol neu anghenion hyfforddi angenrheidiol i gynorthwyo’r aelod staff i gyflawni’r gwelliant angenrheidiol o fewn y cyfnod a nodwyd. Cedwir copi o’r rhybudd ysgrifenedig hwn gan Bennaeth yr Adran. Anfonir copïau ohono at y Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol, a hefyd at Ysgrifennydd Cangen yr UCU yn achos aelod o’r UCU. Gofynnir i’r aelod o’r Staff Academaidd gydnabod mewn ysgrifen ei fod wedi derbyn y rhybudd ysgrifenedig. Ar ôl 2 flynedd, anwybyddir y rhybudd ysgrifenedig at ddibenion disgyblaethol, os bu’r ymddygiad a chyflawniad gwaith yn foddhaol, ac fe rydd Pennaeth yr Adran wybod mewn ysgrifen i’r aelod o’r Staff Academaidd fod y rhybudd wedi ei ddileu o’r cofnodion.
Cam 3 - Apeliadau
9. Rhaid i aelod o’r Staff Academaidd sy’n dymuno apelio yn erbyn rhybudd disgyblaethol roi gwybod mewn ysgrifen i’r Cofrestrydd ac Ysgrifennydd o fewn pythefnos i ddyddiad cyflwyno’r rhybudd gan y Pennaeth Adran, gan roi gwybod mewn ysgrifen ar ba dir y gwneir yr apêl. Gwrandewir pob apêl gan Ddirprwy Is-Ganghellor, a bydd ei ddyfarniad yn derfynol. Bydd y Dirprwy Is-Ganghellor yn trefnu gwrandawiad yr apêl o fewn pythefnos ac ynddo fe fydd yn ystyried yr achos a gyflwynwyd gan yr aelod o’r Staff Academaidd neu berson o’i ddewis ef, sef cynrychiolydd undeb neu gydweithiwr fel arfer, ynghyd â’r wybodaeth a gyflwynwyd gan y Pennaeth Adran a arweiniodd yr archwiliad ac a gyflwynodd y rhybudd. Yna bydd y Dirprwy Is-Ganghellor yn penderfynu naill ai i gadarnhau’r rhybudd neu i ganiatáu apêl. Os caniateir apêl fe ddiddymir cofnod y rhybudd o gofnodion yr aelod o’r Staff Academaidd.
10. Os na all yr aelod o’r Staff Academaidd fod yn bresennol yng ngwrandawiad yr apêl ar y dyddiad a nodwyd, a hynny am resymau da, fe ohirir y gwrandawiad hyd ddyddiad yr hysbysir yr aelod o’r Staff Academaidd a’i gynrychiolydd (os bydd un) ohono, mewn ysgrifen ac yn ddi-oed. Os bydd yr aelod o’r Staff Academaidd, ym marn y Dirprwy Is-Ganghellor, wedi gwrthod bod yn bresennol yng ngwrandawiad yr apêl heb reswm digonol, bydd ganddo’r awdurdod i ollwng yr apêl oherwydd diffyg ymateb, neu fe all ystyried a dyfarnu ar yr achos, ar sail y dystiolaeth sydd ar gael, yn absenoldeb yr aelod o’r Staff Academaidd.
11. Archwiliad rhagarweiniol o faterion disgyblaethol difrifol
11.1 Os na fu gwelliant boddhaol yn dilyn rhybudd ysgrifenedig a roddwyd yn unol â Cham 2 y drefn ym mharagraff 8, neu mewn unrhyw achos arall lle honnir y gall ymddygiad a chyflawniad gwaith fod yn reswm teilwng dros ddiswyddo neu symud o swydd, gall Pennaeth Adran wneud cwyn yn gofyn i’r Cofrestrydd ac Ysgrifennydd drefnu i’r cyhuddiadau gael gwrandawiad ger bron Tribiwnlys a benodwyd yn unol â pharagraff 13, a bydd y Cofrestrydd ac Ysgrifennydd yn ei dro yn dwyn y mater i sylw’r Is-Ganghellor.
11.2 Er mwyn i’r Is-Ganghellor allu delio yn deg ag unrhyw gŵyn a ddygir ger ei fron yn unol â pharagraff 11.1, fe fydd yn cynnal ymchwiliad rhagarweiniol digonol i benderfynu a oes angen gweithredu ymhellach neu beidio. Gall yr Is-Ganghellor benodi dirprwy i gynnal yr archwiliad rhagarweiniol ar ei ran. Cyfwelir â’r aelod o’r Staff Academaidd fel rhan o’r archwiliad. Rhoddir gwybod iddo fod y cyfweliad yn rhan o archwiliad rhagarweiniol i bennu a oes angen gweithredu ymhellach neu beidio. Gall hynny gynnwys cyfeirio’r achos i’w ystyried gan Dribiwnlys a benodir gan y Cyngor. Yn ystod y cyfweliad rhagarweiniol, gall yr aelod o’r Staff Academaidd fod yng nghwmni person o’i ddewis ef, sef cynrychiolydd Undeb neu gydweithiwr fel arfer.
11.3 Os ymddengys i’r Is-Ganghellor, ar ôl ymchwiliad rhagarweiniol, fod y gŵyn a ddygwyd i’w sylw o dan baragraff 11.1 yn ymwneud ag ymddygiad neu gyflawniad gwaith nad yw’n cyrraedd y safonau derbyniol ond na roddwyd rhybudd ysgrifenedig yn ei gylch yn unol â pharagraff 8 neu fod y gŵyn yn ymwneud â throsedd honedig yn erbyn rheolau, rheoliadau neu isddeddfau penodol y mae gan y sefydliad, neu’r Gyfadran, yr Adran neu gylch perthnasol arall gosb safonol ar ei chyfer, neu os yw’n ddibwys neu’n annilys, gall wrthod yr achos yn y fan a’r lle a phenderfynu peidio â chymryd camau pellach yn unol â’r Rhan hon.
11.4 Os na fydd yr Is-Ganghellor yn gollwng y gŵyn o dan baragraff 11.3 fe fydd yn ymdrin â’r gŵyn ar y sail fod ynddi reswm digonol dros gymryd camau pellach yn unol â’r Rhan hon, ac os gwêl yn dda fe all atal yr aelod o’r Staff Academaidd o’i waith ar gyflog llawn hyd nes y gwneir penderfyniad terfynol.
11.5 Os bydd yr Is-Ganghellor yn cymryd camau pellach yn ôl y Rhan hon, fe ysgrifenna at yr aelod o’r Staff Academaidd o dan sylw, yn ei wahodd i roi sylwadau mewn ysgrifen.
11.6 Cyn gynted ag y bo modd ar ôl iddo dderbyn sylwadau (os bydd rhai), gall yr Is-Ganghellor ystyried yr achos yng ngoleuni’r holl ddeunydd a fydd ar gael ar y pryd, a gall ef ei hun -
.1 ei wrthod; neu
.2 ei gyfeirio i’w ystyried yn unol â pharagraffau 5 hyd 10; neu
.3 ddelio â’r achos yn anffurfiol os ymddengys i’r Is-Ganghellor mai dyna fyddai’n briodol, ac os bydd yr aelod o’r Staff Academaidd yn cytuno mewn ysgrifen y dylid delio â’r mater yn y modd hwnnw; neu
.4 cyfarwyddo’r Cofrestrydd ac Ysgrifennydd i ddwyn cyhuddiad neu gyhuddiadau i’w hystyried gan Dribiwnlys a benodir yn unol â pharagraff 13.
11.7 Oni dderbynnir unrhyw sylwadau mewn ysgrifen o fewn 28 diwrnod, gall yr Is-Ganghellor fynd rhagddo fel petai’r aelod o’r Staff Academaidd o dan sylw wedi gwadu sylwedd a dilysrwydd yr achos honedig yn ei grynswth.
12. Dwyn Cyhuddiadau
12.1 Mewn unrhyw achos lle mae’r Is-Ganghellor wedi gorchymyn dwyn cyhuddiad neu’r cyhuddiadau yn unol â pharagraff 11.6.4, fe fydd yn gofyn i’r Cyngor benodi Tribiwnlys yn unol â pharagraff 13 i wrando’r cyhuddiad neu gyhuddiadau ac i ddyfarnu a yw ymddygiad neu gyflawniad gwaith yr aelod o’r Staff Academaidd o dan sylw yn rhoi achos digonol dros ei ddiswyddo neu fel arall a yw’n achos o gŵyn ddifrifol yn ymwneud â phenodiad neu gyflogaeth yr aelod hwnnw.
12.2 Os gofynnwyd i’r Cyngor benodi Tribiwnlys yn unol â pharagraff 13 bydd y Cofrestrydd ac Ysgrifennydd, neu os na all yntau weithredu, swyddog arall a benodwyd gan yr Is-Ganghellor, yn gyfrifol am y gweithrediadau.
12.3 Bydd y swyddog sy’n gyfrifol am y gweithrediadau yn llunio neu’n trefnu llunio y cyhuddiad neu’r cyhuddiadau ac yn cyflwyno neu’n trefnu cyflwyno’r cyfryw gyhuddiad neu gyhuddiadau ger bron y Tribiwnlys.
12.4 Dyletswydd y swyddog sydd yn gyfrifol am y gweithrediadau fydd
.1 cyflwyno’r cyhuddiad neu’r cyhuddiadau i’r Tribiwnlys ac i’r aelod o’r Staff Academaidd
o dan sylw, ynghyd â’r dogfennau eraill y cyfeirir atynt yn y cyhuddiad neu’r cyhuddiadau; a
.2 gwneud unrhyw drefniadau gweinyddol ar gyfer galw tystion, darparu dogfennau ac yn gyffredinol ar gyfer cyflwyno’r achos yn briodol ger bron y Tribiwnlys.
13. Y Tribiwnlys
13.1 Penodir Tribiwnlys gan y Cyngor a’i aelodaeth fydd:
.1 Cadeirydd; ac
.2 aelod o’r Cyngor, nad yw’n gyflogedig gan y Brifysgol; ac
.3 un aelod o’r Staff Academaidd a enwebwyd gan y Senedd.
13.2 Bydd y Cadeirydd yn berson nad yw’n gyflogedig gan y Brifysgol ac fe fydd yn dal neu wedi dal swydd farnwrol neu fe fydd yn fargyfreithiwr neu’n gyfreithiwr a chanddo o leiaf ddeng mlynedd o brofiad.
13.3 Ni fydd aelodau eraill y Tribiwnlys yn aelodau o’r un adran â’r aelod o’r Staff Academaidd y dygir y cyhuddiad(au) yn ei erbyn, ac ni fyddant wedi ymwneud â’r achos o gwbl cyn hynny.
13.4 Os na chynhelir cyfarfod o’r Cyngor a/neu y Senedd o fewn 28 diwrnod i ddyddiad dwyn cyhuddiad neu’r cyhuddiadau i’w hystyried gan Dribiwnlys a benodwyd gan y Cyngor, awdurdodir Cadeirydd y Cyngor ar ran y Cyngor i wneud y penodiadau angenrheidiol i’r Tribiwnlys.
14. Darpariaethau ynglŷn â Threfn y Tribiwnlys
14.1 Rhoddir rhybudd o bythefnos o leiaf ymlaen llaw i’r aelod o’r Staff Academaidd ynghylch y gwrandawiad; fe’i hysbysir o bwrpas y gwrandawiad, natur y camymddwyn honedig, ac fe’i gwahoddir i fod yn bresennol. Yn ystod y gwrandawiad gall yr aelod o’r Staff Academaidd ddod ag un neu ddau berson o’i ddewis ef yn gwmni iddo, a bydd un ohonynt yn gweithredu fel cynrychiolydd ar ei ran a gall fod â chymhwyster cyfreithiol.
14.2 Os na all yr aelod o’r Staff Academaidd fod yn bresennol yn y gwrandawiad ar y dyddiad a nodwyd, a hynny am reswm digonol, fe ohirir y gwrandawiad hyd ddyddiad yr hysbysir yr aelod o’r Staff Academaidd a’i gynrychiolydd (os bydd un) ohono yn ddi-oed. Os dyfarna Cadeirydd y Tribiwnlys fod yr aelod o’r Staff Academaidd wedi gwrthod mynychu’r gwrandawiad heb reswm digonol, fe’i awdurdodir i ystyried a dyfarnu ar yr achos, ar sail y dystiolaeth sydd ar gael, yn absenoldeb yr aelod o’r Staff Academaidd.
14.3 Gall yr aelod o’r Staff Academaidd, ac unrhyw un sy’n cynrychioli’r aelod hwnnw o’r staff, alw tystion a’u holi ar y dystiolaeth y seiliwyd arni yr achos yn ei erbyn.
14.4 Gall y Cofrestrydd ac Ysgrifennydd (neu swyddog arall a benodwyd gan yr Is-Ganghellor i fod yn gyfrifol am y gweithrediadau) alw tystion a holi tystion a alwyd gan yr aelod o’r Staff Academaidd ac unrhyw berson sy’n cynrychioli’r aelod o’r staff.
14.5 Fel arfer, os yw’n bosibl, rhoddir rhybudd o saith diwrnod os bwriedir galw tystion gan y Cofrestrydd ac Ysgrifennydd (neu unrhyw swyddog arall a benodwyd gan yr Is-Ganghellor i fod yn gyfrifol am y gweithrediadau) neu gan yr aelod o’r Staff Academaidd ac unrhyw berson sy’n cynrychioli’r aelod o’r staff.
14.6 Caiff y Swyddog sydd yn gyfrifol am y gweithrediadau a’r aelod o’r Staff Academaidd o dan sylw weld unrhyw ddogfennau a gyflwynwyd yn dystiolaeth i’r Tribiwnlys. Fel arfer, os yw’n bosibl fe ddatgelir dogfennau a gyflwynir yn dystiolaeth o leiaf saith diwrnod cyn y gwrandawiad. Nid yw hyn yn golygu na ellir cyflwyno dogfennau yn ystod y gwrandawiad, gyda chaniatâd y Cadeirydd.
14.7 Gofynnir i’r Swyddog sydd yn gyfrifol am y gweithrediadau gyflwyno ffeithiau a’r deunydd ategol i’w hystyried gan y Tribiwnlys. Bydd gan yr aelod o’r Staff Academaidd, neu ei gynrychiolydd, yr hawl i holi’r sawl sy’n cyflwyno’r ffeithiau a’r deunydd ategol.
14.8 Bydd gan yr aelod o’r Staff Academaidd neu ei gynrychiolydd yr hawl i roi unrhyw esboniad a fyn.
14.9 Caiff y Cadeirydd ac aelodau eraill y Tribiwnlys holi’r aelod o’r Staff Academaidd a’r Swyddog sy’n gyfrifol am y gweithrediadau i’w cynorthwyo yn y gwaith o ystyried y cyhuddiad neu’r cyhuddiadau y gofynnwyd iddynt eu harchwilio.
14.10 Caiff y Cadeirydd ac aelodau eraill y Tribiwnlys holi’r tystion a alwyd gan y Cofrestrydd ac Ysgrifennydd (neu swyddog arall a benodwyd gan yr Is-Ganghellor i fod yn gyfrifol am y gweithrediadau) neu gan yr aelod o’r Staff Academaidd ac unrhyw berson sy’n cynrychioli’r aelod o’r staff.
14.11 Gall Cadeirydd y Tribiwnlys ohirio’r gweithrediadau ar unrhyw adeg os ystyrir bod hynny’n angenrheidiol neu’n briodol. Os yw’n gohirio er mwyn caniatáu derbyn gwybodaeth bellach, fe fydd yn manylu ar natur y cyfryw wybodaeth. Bydd unrhyw ohiriad yn gyfnod penodedig, ac yn gyson â’r angen i’r Tribiwnlys ddod i benderfyniad ynghylch y cyhuddiad neu’r cyhuddiadau a archwilir ganddo o fewn yr amser penodedig arferol o 28 niwrnod ar ôl y cyfarfod cyntaf.
14.12 Gall Cadeirydd y Tribiwnlys wrthod y cyhuddiad neu’r cyhuddiadau pe bai’n penderfynu nad oes tystiolaeth ddigonol i barhau â’r ymchwiliad, neu fe all drosglwyddo’r cyhuddiad neu’r cyhuddiadau i’r Is-Ganghellor i’w hystyried ymhellach ac i gymryd camau priodol i gywiro unrhyw wallau damweiniol a allai ddigwydd.
14.13 Fe fydd y Tribiwnlys, ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a gyflwynir iddo, yn penderfynu ynghylch y cyhuddiad(au) a gyflwynwyd i’w sylw ac yn cyflwyno ei argymhellion, os bydd rhai, ynghylch cosb briodol cyn gynted ag y bo modd. Profir yr achos ar sail yr hyn sy’n fwyaf tebygol.
15. Hysbysu ynghylch Dyfarniadau’r Tribiwnlys
15.1 Bydd y Tribiwnlys yn anfon ei ddyfarniad ar unrhyw gyhuddiad a ddygwyd i’w sylw (ynghyd â’i gasgliadau ynghylch ffeithiau a’i resymau dros ei ddyfarniad ynglŷn â’r cyhuddiad ac unrhyw argymhellion a wneir am gosb briodol) at yr Is-Ganghellor ac at bob un o’r partïon yn y trafodaethau.
15.2 Bydd y Tribiwnlys yn tynnu sylw at y cyfnod o amser a ganiateir ar gyfer unrhyw apêl mewn ysgrifen drwy sicrhau fod copi o’r drefn ar gyfer gwrando a dyfarnu ar apeliadau yn cael ei anfon gyda phob copi o’i ddyfarniad at bartïon y trafodaethau yn unol â’r paragraff hwn.
16. Pwerau yr Is-Ganghellor os yw’r Tribiwnlys yn cadarnhau’r cyhuddiadau
16.1 Os cadarnheir y cyhuddiad neu’r cyhuddiadau, ac os yw’r Tribiwnlys yn gweld bod achos digonol, ac yn argymell diswyddo neu symud o swydd, eithr nid mewn unrhyw achos arall, bydd yr Is-Ganghellor yn penderfynu a fydd yr aelod o’r Staff Academaidd o dan sylw yn cael ei ddiswyddo neu beidio.
16.2 Mewn unrhyw achos lle profir y cyhuddiad neu’r cyhuddiadau, ac eithrio lle mae’r Is-Ganghellor wedi penderfynu yn ôl paragraff 16.1 i ddiswyddo’r aelod o’r Staff Academaidd o dan sylw, y camau y gall yr Is-Ganghellor eu cymryd (heb fod yn gosb fwy na’r hyn a argymhellwyd gan y Tribiwnlys) fydd -
.1 trafod y materion a godwyd gyda’r aelod o’r staff o dan sylw; neu
.2 cynghori’r aelod o staff o dan sylw ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol; neu
.3 rhybuddio’r aelod o’r staff o dan sylw; neu
.4 atal yr aelod o dan sylw o’i waith ar gyflog neu heb gyflog am gyfnod sydd, ym marn yr Is-Ganghellor, yn deg a rhesymol, ac heb fod yn fwy na thri mis ar ôl penderfyniad y Tribiwnlys. Gellir gosod y gosb hon fel dewis amgen i ddiswyddo, gyda chydsyniad yr aelod o’r Staff Academaidd ac ni fydd y cyfryw gyfnod yn cael ei ystyried yn fwlch yng nghyfnod ei gyflogaeth; neu
.5 unrhyw gyfuniad o’r uchod neu unrhyw gamau pellach neu gamau eraill o dan gontract cyflogaeth yr aelod neu delerau ei benodiad sy’n ymddangos yn deg a rhesymol yn wyneb holl amgylchiadau’r achos.
16.3 Pan fydd yr Is-Ganghellor wedi penderfynu yn unol â pharargraff 16.1 i ddiswyddo aelod o’r Staff Academaidd ag iddo statws neu deitl o fewn y Brifysgol, bydd yn rhoi gwybod i Is-Ganghellor Hŷn y Brifysgol, fel y gall y Brifysgol, yn amodol ar ganlyniad unrhyw apêl a wneir gan yr aelod o’r Staff Academaidd o dan y drefn ar gyfer gwrando a dyfarnu ar apeliadau, dynnu oddi ar yr aelod o’r staff o dan sylw ei statws neu ei deitl yn y Brifysgol.
17. Y Swyddog Priodol
17.1 Ym mharagraff 16, y mae’r Is-Ganghellor yn gweithredu fel y swyddog priodol yn ôl diffiniad yr Ystatud. Gellir trosglwyddo’r pwerau a weithredir gan yr Is-Ganghellor wrth weithredu fel y swyddog priodol i unigolyn a ddirprwywyd gan Is-Ganghellor pan fo’n gweithredu yn y modd hwn ar ei ran.
17.2 Cadarnheir mewn ysgrifen unrhyw gamau a gymerir gan yr Is-Ganghellor neu’r unigolyn a ddirprwywyd fel swyddog priodol.
TREFN GWRANDO A DYFARNU AR APELIADAU SYDD YN CODI O WEITHREDU TREFN DISGYBLU A DISWYDDO
1. Mae’r drefn hon yn berthnasol i apeliadau sydd yn codi o unrhyw weithrediadau neu o unrhyw ddyfarniad a wnaed o dan y drefn disgyblu a diswyddo, ac eithrio apeliadau o dan baragraff 9 (Apeliadau yn erbyn rhybuddion disgyblaethol).
2. Ni ellir apelio yn erbyn yr hyn a brofwyd yn ffeithiol gan Dribiwnlys o dan baragraff 15.1 y Drefn Ddisgyblu a Diswyddo, ac eithrio lle gelwir tystiolaeth newydd ar ran yr apelydd yn y gwrandawiad hwnnw, gyda chydsyniad y person neu’r personau sy’n gwrando’r apêl. Cydnabyddir na ellir penderfynu beth sy’n dystiolaeth newydd hyd nes y penodir person gan y Cyngor yn unol â pharagraff 7 isod i wrando’r apêl.
3. Y mae pob cyfeiriad at “y person a benodir” yn y drefn hon yn gyfeiriad at y sawl a benodwyd gan y Cyngor o dan baragraff 7 isod i wrando a dyfarnu ar yr apêl berthnasol.
4. Yr apelydd, y Cofrestrydd ac Ysgrifennydd, ac unrhyw berson arall a ychwanegir fel parti yn ôl cyfarwyddyd y person a benodir fydd partïon yr apêl.
5. Cychwyn Apeliadau
5.1 Bydd aelod o’r Staff Academaidd yn cychwyn apêl drwy roi rhybudd i’r Cofrestrydd ac Ysgrifennydd mewn ysgrifen yn mynegi sail yr apêl, o fewn yr amser a ganiateir o dan baragraff 6.
6. Yr amser ar gyfer Apelio a Rhybuddion Apeliadau
6.1 Cyflwynir rhybudd o apêl o fewn 28 niwrnod i’r dyddiad yr anfonwyd at yr apelydd y ddogfen yn cofnodi’r dyfarniad yr apelir yn ei erbyn, neu unrhyw gyfnod hwy os o gwbl, ag a benderfyno’r person a benodir yn unol â pharagraff 6.3.
6.2 Fe ddaw’r Cofrestrydd ac Ysgrifennydd ag unrhyw rybudd apêl a dderbyniwyd (a dyddiad ei gyflwyno) i sylw’r Cyngor gan roi gwybod i’r apelydd iddo wneud hynny. Os na fydd cyfarfod o’r Cyngor o fewn 28 niwrnod i dderbyn unrhyw rybudd apêl gan y Cofrestrydd ac Ysgrifennydd, caiff aelodau’r Cyngor wybod am yr achos trwy lythyr oddi wrth y Cofrestrydd ac Ysgrifennydd ac fe hysbysir yr apelydd o hynny.
6.3 Os cyflwynir rhybudd apêl i’r Cofrestrydd ac Ysgrifennydd ar ôl y cyfnod o 28 niwrnod, ni fydd y person a benodwyd yn unol â pharagraff 7 yn caniatáu i’r apêl fynd rhagddi oni bai yr ystyria fod angen gwneud hynny o ran cyfiawnder a thegwch yn wyneb amgylchiadau’r achos.
7. Personau a benodwyd i wrando a dyfarnu ar yr Apeliadau
7.1 Lle cychwynnir apêl yn unol â’r drefn hon, bydd y Cyngor yn penodi person a ddisgrifir ym mharagraff 7.2 i wrando a dyfarnu ar yr apêl. Os na chynhelir cyfarfod o’r Cyngor o fewn 28 niwrnod ar ôl i’r Cofrestrydd ac Ysgrifennydd dderbyn rhybudd yr apêl, awdurdodir Cadeirydd y Cyngor ar ran y Cyngor i benodi person i wrando a dyfarnu ar yr apêl.
7.2 Ni fydd y person a ddisgrifir yn y paragraff hwn yn gyflogedig gan y Brifysgol, a bydd yn dal neu wedi dal swydd farnwrol neu fe fydd yn fargyfreithiwr neu’n gyfreithiwr a chanddo o leiaf ddeng mlynedd o brofiad.
7.3 Bydd y person a benodir yn eistedd ar ei ben ei hun oni bai yr ystyria mai’r dull gorau o sicrhau cyfiawnder a thegwch fydd iddo eistedd ynghyd â dau berson arall.
7.4 Y ddau berson arall a all gyd-eistedd â’r person a benodwyd fydd -
.1 aelod o’r Cyngor nad yw’n gyflogedig gan y Brifysgol; ac
.2 un aelod o’r Staff Academaidd a enwebwyd gan y Senedd.
7.5 Ni fydd y person a benodwyd neu unrhyw berson arall a all gyd-eistedd â’r person a benodwyd wedi bod mewn cysylltiad blaenorol â’r achos nac wedi gweithredu fel aelod o’r Tribiwnlys a benodwyd i ystyried y mater yn y lle cyntaf.
8. Darpariaethau ynglŷn â’r drefn Apelio
8.1 Caiff yr apelydd o leiaf bythefnos o rybudd am wrandawiad yr apêl, ac fe’i gwahoddir i fod yn bresennol. Yn y gwrandawiad, gall yr apelydd fod yng nghwmni un neu ddau berson o’i ddewis ef, a bydd un ohonynt yn gweithredu fel ei gynrychiolydd a gall fod ganddo gymhwyster cyfreithiol.
8.2 Os na all yr aelod o’r Staff Academaidd fod yn bresennol yn y gwrandawiad ar y dyddiad a nodwyd, a hynny am reswm digonol, fe ohirir y gwrandawiad hyd ddyddiad yr hysbysir yr aelod o’r Staff Academaidd a’i gynrychiolydd (os bydd un) ohono yn ddi-oed. Os dyfarna y person a benodwyd fod yr aelod o’r Staff Academaidd wedi gwrthod mynychu’r gwrandawiad heb reswm digonol, fe’i hawdurdodir i ystyried a dyfarnu ar yr achos ar sail y dystiolaeth sydd ar gael yn absenoldeb yr aelod o’r Staff Academaidd.
8.3 Bydd dyfarniad ysgrifenedig y Tribiwnlys ynghylch y cyhuddiad(au) ar gael i’r person a benodir, ynghyd â’i gasgliadau ffeithiol, y rhesymau dros ei ddyfarniad parthed y cyhuddiad(au) ynghyd â’i argymhellion, os bydd rhai, ynghylch y gosb briodol.
8.4 Yn yr apêl, fe rydd yr Is-Ganghellor gyfrif o’r modd a’r rheswm y gwnaeth yr ymateb hwnnw i ddyfarniad ac argymhelliad gwreiddiol y Tribiwnlys.
8.5 Bydd gan yr apelydd neu ei gynrychiolydd yr hawl i ofyn unrhyw gwestiynau ac i wneud cyflwyniad ar ran yr apelydd.
8.6 Fel arfer, ni fydd yr apêl yn ail-wrandawiad oni bai fod gan yr Is-Ganghellor, yr apelydd neu ei gynrychiolydd, ddeunydd ychwanegol i’w gyflwyno nad oedd ar gael ar adeg gwrandawiad y Tribiwnlys (a all olygu galw tystion ychwanegol gyda chaniatâd y person neu’r personau sy’n gwrando’r apêl).
8.7 Serch y telerau ym mharagraff 8.6, os mai’r modd gorau o sicrhau cyfiawnder a thegwch ym marn y person a benodwyd fyddai ail-wrando’r dystiolaeth a gyflwynwyd yn y Tribiwnlys gwreiddiol, fe fyddai hynny’n bosibl ac fe fabwysiedir trefn yn seiliedig ar baragraffau 14.3 hyd 14.10 o’r Drefn Disgyblu a Diswyddo yng ngwrandawiad yr apêl i’r diben hwn.
8.8 Gall y person a benodwyd ohirio’r gweithrediadau ar unrhyw adeg os ymddengys fod hynny’n angenrheidiol neu’n briodol. Os gohiriad er mwyn caniatáu derbyn gwybodaeth ychwanegol ydyw, manylir ar natur y dystiolaeth. Fel arfer bydd unrhyw ohiriad am gyfnod penodedig yn cydymffurfio â’r angen i ddyfarnu ar yr apêl o fewn 28 niwrnod i’r gwrandawiad cyntaf.
8.9 Gall y person a benodir ollwng yr apêl o ddiffyg cyflwyno’r achos, a gall gymryd camau priodol i gywiro unrhyw gamgymeriadau damweiniol a ddigwydd.
8.10 Ar ôl ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd, gall y person neu’r personau sy’n gwrando’r apêl ganiatáu neu ollwng yr apêl yn gyfan gwbl neu’n rhannol, ac heb ragfarnu yn erbyn yr uchod, gall -
.1 drosglwyddo apêl yn erbyn dyfarniad o dan y Drefn Ddisgyblu a Diswyddo i’w ail-wrando gan Dribiwnlys gwahanol a benodir yn unol â thelerau paragraff 13 y drefn; neu
.2 osod, yn lle’r gosb wreiddiol, gosb amgen a llai a fyddai wedi bod yn agored i’r swyddog priodol yn dilyn dyfarniad y Tribiwnlys a fu’n gwrando ac a ddyfarnodd ar y cyhuddiad neu’r cyhuddiadau gwreiddiol.
8.11 Caiff y person a benodir bennu ei ffi resymol ei hun, ac fe’i telir fel arfer gan y Brifysgol, eithr fe ellir ei dyfarnu yn erbyn yr aelod o’r Staff Academaidd lle bo’r person a benodir yn ystyried na ddylid fod wedi dwyn apêl ger bron.
9. Hysbysu ynghylch dyfarniadau
9.1 Bydd y person a benodir yn anfon y dyfarniad y daethpwyd iddo drwy resymu, gan gynnwys unrhyw benderfyniad a wnaed ganddo o dan ei bwerau yn ôl paragraff 8.10.1 neu .2, ar unrhyw apêl ynghyd ag unrhyw ddarganfyddiadau ffeithiol sy’n wahanol i’r rheiny y daethpwyd iddynt gan y Tribiwnlys a benodwyd yn ôl telerau’r Drefn Disgyblu a Diswyddo, at yr Is-Ganghellor ac at bartïon yr apêl ac at Is-Ganghellor Hŷn y Brifysgol yn achos apêl gan aelod o’r Staff Academaidd sy’n meddu ar statws neu deitl gan y Brifysgol.
9.2 Rhwymir holl bartïon yr apêl gan benderfyniad y person a benodir, ac ni all y penderfyniad hwnnw fod yn destun apêl bellach o fewn y Brifysgol.