Rheolaeth
Ordinhadau
Ordinhad 26
CYFLWYNO DARLLENYDDIAETHAU A CHADEIRIAU PERSONOL
1. Personau sydd yn gymwys
1.1 Gall y Brifysgol gyflwyno teitl Athro neu Ddarllenydd i unigolyn a gyflogir gan y Brifysgol sydd yn aelod o’i staff academaidd.
2. Meini Prawf Darllenyddiaethau a Chadeiriau Personol
2.1 Rhaid i ymgeiswyr am Ddarllenyddiaeth ddangos disgleirdeb eithriadol naill ai mewn ymchwil neu ddysgu/ profiad myfyrwyr neu arweinyddiaeth/ gweinyddu. Er mwyn i Ddarllenyddiaeth gael ei chyflwyno, rhaid i’r ymgeisydd ddangos eu bod yn bodloni’r meini prawf cyhoeddedig ar gyfer Darllenwyr a adolygir yn flynyddol i sicrhau eu bod yn parhau i adlewyrchu disgwyliadau’r Brifysgol.
2.2 Mae’n rhaid i ymgeiswyr am Gadeiriau Personol ddangos disgleirdeb eithriadol naill ai mewn ymchwil neu ddysgu/ profiad myfyrwyr neu arweinyddiaeth/ gweinyddu. Er mwyn i Gadair Bersonol gael ei chylflwyno, rhaid i’r ymgeisydd ddangos eu bod yn bodloni’r meini prawf cyhoeddedig a adolygir yn flynyddol i sicrhau eu bod yn parhau i adlewyrchu disgwyliadau’r Brifysgol.
3. Gweithdrefn Penodi
3.1 Bydd y Brifysgol yn gwahodd staff i nodi eu bwriad i gyflwyno cais unwaith y flwyddyn yn unol ag amserlen a gyhoeddir yn flynyddol. Pennir mentor i weithio gyda’r ymgeisydd, a fydd yn cyflwyno cais yn unol â’r amserlen gyhoeddedig.
3.2 Rhaid i ymgeiswr enwi dau ganolwr allanol.
3.3 Bydd yr Is-Ganghellor yn gofyn i Bennaeth yr Adran ac fe fydd yr ymgeisydd yn penderfynu ar enwau o leiaf chwech asesydd allanol sy’n arbenigwyr yn y ddisgyblaeth dan sylw. Bydd yr Is-Ganghellor yn dewis pedwar o leiaf ac yn gofyn am eu barn am yr achos o blaid dyrchafiad.
3.4 Bydd y panel Dyrchafiadau yn ystyried yr holl geisiadau sy’n dod i law yn unol â phroses recriwtio a dethol a bennir gan Grŵp Gweithredol y Brifysgol ar sail flynyddol.
4. Adrodd yn ôl
Bydd y panel dyrchafiadau yn cyflwyno manylion y penodiadau i’r Pwyllgor Datblygiad Proffesiynol a Staffio ac yna i’r Cyngor er gwybodaeth.
Ordinhad 27
PENODI I GADEIRIAU A DARLLENYDDIAETHAU
1. Personau sy’n gymwys
1.1 Gall y Brifysgol benodi unigolyn sydd yn gyflogedig gan y Brifysgol yn Athro neu’n Ddarllenydd.
1.2 Gwneir y penodiadau yn dilyn trefn gystadleuol o geisiadau a chyfweliadau.
2. Meini Prawf Penodi i Gadeiriau a Darllenyddiaethau
2.1 Rhaid i ymgeiswyr am Gadair neu Ddarllenyddaieth ddangos disgleirdeb eithriadol naill ai mewn ymchwil neu ddysgu/ profiad myfyrwyr neu arweinyddiaeth/ gweinyddu yn erbyn y meini prawf cyhoeddedig.
3. Trefn Penodi
3.1 Bydd Penel Penodi yn ystyried ceisiadau am swyddi a hysbysebwyd.
4. Aelodau’r Panel Penodi
Yr Is-Ganghellor (Cadeirydd)
Un Dirprwy Is-Ganghellor
Un aelod lleyg o’r Cyngor
Pennaeth yr Adran dan sylw (neu un o’r Deoniaid wrth benodi Cadeirydd neu Bennaeth Adran)
Dau gynrychiolydd allanol wrth benodi i Gadair, un cynrychiolydd allanol wrth benodi i Ddarllenyddiaeth
Sylwedydd: gellir gwahodd un aelod hŷn o’r Adran dan sylw i fod yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor fel sylwedydd.
5. Cylch Gorchwyl y Panel Penodi
Penodi i Gadeiriau a Darllenyddiaethau ar ôl proses gystadleuol o geisiadau a chyfweliadau.
6. Adrodd yn ôl
Bydd y Panel Penodi yn cyflwyno manylion penodiadau i Gadeiriau a Darllenyddiaethau i’r Pwyllgor Datblygiad Proffesiynol a Staffio ac yna i’r Cyngor er gwybodaeth.