Rheolaeth
Ordinhadau
Ordinhad 28
PENODI STAFF ER ANRHYDEDD
1. Gall y Cyngor benodi Athrawon Er Anrhydedd, Cymrodyr Adrannol Er Anrhydedd a Darlithwyr Er Anrhydedd i’r Brifysgol.
Athrawon Er Anrhydedd
2. Y canlynol yw’r amodau sy’n rheoli trefn penodi Athrawon Er Anrhydedd:
2.1 Penodir am gyfnod o hyd at bum mlynedd yn y lle cyntaf ac fe ellid ailbenodi am gyfnodau
tebyg.
2.2 Dylai’r rhai a enwebir i’w penodi yn Athrawon Er Anrhydedd fel arfer fod yn ysgolheigion amlwg
allanol ac nid yn gyn-aelodau o staff y Brifysgol.
2.3 Dylai pob cynnig gynnwys curriculum vitae y rhai sy’n cael eu hargymhell i’w penodi a datganiad clir o’r cyfraniad y disgwylir y gwneir ganddynt i waith yr Adran a’r Brifysgol.
2.4 Ystyrir y cais, gan gynnwys y papurau atodol (gweler paragraff 2.3 uchod) gan Bwyllgor Penodi,
a fydd yn cynnwys yr aelodau canlynol:
Yr Is-Ganghellor (Cadeirydd)
Y Dirprwy Is-Gangellorion
Y Deoniaid
Dau aelod o’r Cyngor nad ydynt yn aelodau o staff y Brifysgol
2.5 Nid oes rhaid i’r Pwyllgor Penodi gynnal cyfarfod a gellir cyflawni’r mater trwy ohebiaeth.
2.6 Y mae gan y Pwyllgor Penodi bwerau a ddirprwywyd iddo gan y Cyngor. Caiff penderfyniad y
Pwyllgor Penodi ei adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Staffio ac yna i’r Cyngor.
Cymrodyr Adrannol Er Anrhydedd
3. Y canlynol yw’r amodau sy’n rheoli trefn penodi Cymrodyr Adrannol Er Anrhydedd:
3.1 Dyfernir y teitl gan y Cyngor ar argymhelliad y Pwyllgor Staffio.
3.2 Y mae’r cynllun yn hyrwyddo cysylltiadau â sefydliadau ymchwil, â diwydiant ac â’r celfyddydau.
Gwahoddir Cymrodyr Er Anrhydedd i ymweld â’r Adran dan sylw i gynghori ar brosiectau ymchwil ac i ddarlithio yn eu maes penodol eu hunain.
3.3 Ystyrir enwebiadau Adrannau gan y Pwyllgor Staffio unwaith y flwyddyn fel arfer yn ei gyfarfod
ym mis Hydref, ac wedyn fe gyflwynir argymelliadau ffafriol i’r Senedd a’r Cyngor. Dylai’r enwebiadau gynnwys curriculum vitae cyflawn a datganiad clir o gyfraniad disgwyliedig y person tuag at waith yr Adran a’r Brifysgol.
3.4 Penodir am dair blynedd yn y lle cyntaf ac fe ellid ailbenodi am gyfnodau tebyg.
3.5 Nid oes tâl yn gysylltiedig â’r penodiad ond caiff costau eu had-dalu gan yr Adran sy’n dal y
penodiad, yn ôl cyfraddau cymeradwy’r Brifysgol.
Darlithydd Er Anrhydedd
4. Y canlynol yw’r amodau sy’n rheoli trefn penodi Darlithwyr Er Anrhydedd:
4.1 Rhoddir y teitl gan y Cyngor ar argymhelliad y Pwyllgor Staffio.
4.2 Defnyddir y teitl i roi cydnabyddiaeth a statws i unigolion sy’n gwneud cyfraniad sylweddol yn
rheolaidd i waith academaidd y Brifysgol ac nad ydynt yn derbyn tâl gan y Brifysgol am y gwaith hwn.
4.3 Bydd aelodau wedi ymddeol o’r Staff Academaidd, heblaw am ddeiliaid Cadeiriau, sy’n parhau i wneud cyfraniad sylweddol i waith academaidd Adran, ar dir i dderbyn y teitl hwn, yn ogystal ag unigolion a gyflogir gan fudiadau eraill sy’n cyfrannu’n sylweddol ac yn rheolaidd i waith y Brifysgol heb dderbyn tâl gan y Brifysgol.
4.4 Bydd argymhelliadau gan Adrannau i ddyfarnu’r teitl hwn yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor Staffio yn y lle cyntaf a’u cyfeirio ymlaen i sylw’r Senedd a’r Cyngor yn achos argymelliadau ffafriol.
4.5 Dyfernir y teitl fel arfer am gyfnod penodol o bum mlynedd, a gellir ei adnewyddu am gyfnod pellach.
4.6 Nid oes tâl yn gysylltiedig â’r penodiad ond ad-delir costau gan yr Adran sy’n dal y penodiad, ar raddfa gymeradwy’r Brifysgol.