Rheolaeth

Ordinhadau

Ordinhad 29

CYFLWYNO TEITL ATHRO YMCHWIL AC ATHRO EMERITWS, DARLLENYDD EMERITWS A DARLITHYDD EMERITWS

1.  Gall y Cyngor gyflwyno teitlau:

2.  Athro Ymchwil yn unol ag adran 4 isod ac;

3.  Athro Emeritws, Darllenydd Emeritws neu Ddarlithydd Emeritws o’r Brifysgol i staff ar ôl iddynt ymddeol o’r Brifysgol, yn unol ag adran 5 isod.

Cyflwyno Teitl Athro Ymchwil

4.      Y canlynol yw’r amodau sy’n rheoli trefn cyflwyno teitl Athro Ymchwil:

4.1   Dyfernir y teitl gan y Cyngor ar argymhelliad y Senedd. 

4.2   Cyfyngir y teitl i gyn-aelodau staff academaidd y Brifysgol sydd eisoes wedi dal teitl “Athro” ac sy’n cael eu hailbenodi fel aelod rhan-amser o staff academaidd y Brifysgol. 

4.3    Ni fydd unigolion sydd wedi dal teitl Athro Er Anrhydedd neu Athro Emeritws yn gymwys i dderbyn teitl Athro Ymchwil.

4.4    Disgwylir i Athro Ymchwil gymryd rhan weithredol yng ngweithgaredd ymchwil yr Adran neu Adrannau ac ni fydd fel arfer yn dysgu na gweinyddu.

4.5    Wrth ymddeol, neu gymryd gwaith cyflogedig mewn man arall, fe allai unigolyn sy’n dal teitl Athro Ymchwil fod yn gymwys i dderbyn y teitl Athro Emeritws yn amodol ar yr amodau arferol (gweler 5 isod).

 
Cyflwyno Teitl Athro Emeritws, Darllenydd Emeritws a Darlithydd Emeritws

5.      Y canlynol yw’r amodau sy’n rheoli trefn penodi Athro Emeritws, Darllenydd Emeritws a Darlithydd Emeritws:

5.1    Cyflwynir y teitl gan y Cyngor ar argymhelliad y Pwyllgor Datblygu Proffesiynol a Staffio.

5.2    Cyfyngir y teitl i Athrawon, Darllenwyr a Darlithwyr sydd wedi ymddeol o’u gwaith yn y Brifysgol. Nid yw unigolyn sydd, ar ôl ymddeol o’u gwaith yn y Brifysgol, yn cymryd cyflogaeth mewn man arall, yn gymwys i dderbyn teitl Athro Emeritws, Darllenydd Emeritws neu Ddarlithydd Emeritws.

5.3    Ni fydd tâl na dyletswyddau na statws cyflogaeth yn gysylltiedig â’r teitl.