Rheolaeth
Ordinhadau
Ordinhad 6
Y DIRPRWY IS-GANGELLORION
1. PENODI DIRPRWY IS-GANGELLORION
1.1 Penodir Dirprwy Is-Gangellorion gan y Cyngor. Pennir nifer y Dirprwy Is-Gangellorion gan y Cyngor yn ôl argymhelliad yr Is-Ganghellor.
1.2 Penodir Dirprwy Is-Gangellorion gan y Cyngor a fydd fel arfer yn dilyn argymhelliad gan Bwyllgor Dewis ac iddo’r aelodau canlynol:
- Yr Is-Ganghellor (Cadeirydd)
- Dau gynrychiolydd lleyg o’r Cyngor
- Un aelod o’r Senedd
- Aelodau Ychwanegol
- Pennaeth adran academaidd neu gwasanaeth, a hefyd mewn achosion lle mae swyddi wedi cael eu hysbysebu yn
allanol, cynrychiolydd o statws priodol o Sefydliad Addysg Uwch arall.
1.3 Bydd y Pwyllgor Dewis yn gweithredu yn unol â gweithdrefnau y cytunwyd arnynt.
1.4 Pum mlynedd fydd cyfnod cyntaf arferol Dirprwy Is-Gangellorion yn y swydd (y flwyddyn cyntaf yn gyfnod prawf).
1.5 Pan fydd Dirprwy Is-Ganghellor wedi cwblhau’r cyfnod cyntaf, gall y Cyngor ei wahodd/gwahodd i barhau yn y swydd am gyfnod pellach o pum mlynedd, neu unrhyw gyfnod arall a bennir gan y Cyngor.
1.6 Bydd cyfnod y swydd fel arfer yn dechrau ar 1af Medi.
1.7 Penodir Dirprwy Is-Gangellorion gan y Cyngor ar ba amodau a thelerau bynnag y bydd yn eu hystyried yn addas.
2. DYLETSWYDDAU’R DIRPRWY IS-GANGELLORION
2.1 Bydd y Dirprwy Is-Gangellorion yn cyflawni pa ddyletswyddau bynnag o eiddo’r Is-Ganghellor a ddirprwyir iddynt gan yr Is-Ganghellor.
3. DISWYDDO DIRPRWY IS-GANGELLORION
3.1 Gellir symud Dirprwy Is-Ganghellor o’i swydd os yw’r Is-Lywyddion, y Trysorydd a’r Is-Ganghellor yn tystio yn unfrydol fod y Dirprwy Is-Ganghellor yn eu barn hwy, wedi bod yn analluog yn barhaus yn ystod y deuddeng mis a aeth heibio i gyflawni’r swydd neu wedi esgeuluso’r swydd a methu’n llwyr â’i chyflawni.
Ordinhad 7
PENODI COFRESTRYDD AC YSGRIFENNYDD
1. Os yw swydd y Cofrestrydd ac Ysgrifennydd yn wag neu ar fin dod yn wag bydd y Cyngor yn penodi Pwyllgor Dewis a fydd yn cynnwys yr aelodau canlynol:
(a) Aelodau yn rhinwedd eu swydd
Y Llywydd
Yr Is-Ganghellor
Dau Ddirprwy Is-Ganghellor
(b) Dau aelod lleyg a benodir gan ac o blith aelodau’r Cyngor
(c) Un aelod allanol a benodir gan ac o blith aelodau’r Senedd
(d) Uwch-weinyddwr o sefydliad prifysgol arall
2. Bydd gan y Pwyllgor Dewis y pŵer i bennu ei ddull gweithredu ei hun yng ngoleuni’r amgylchiadau ar y pryd.
3. Bydd yr Is-Ganghellor yn penodi aelod o’r staff academaidd neu weinyddol i fod yn Ysgrifennydd ar y Pwyllgor Dewis.
4. Bydd y Pwyllgor Dewis yn cyflwyno i’r Cyngor adroddiad o’i argymhellion ynglŷn â phenodi Cofrestrydd ac Ysgrifennydd.
Ordinhad 8
Y LLYS
(1) Y personau a ganlyn fydd aelodau'r Llys:
A. Aelodau Ex-Officio
.1 Y Llywydd.
.2 Yr Is-Lywyddion.
.3 Y Trysorydd.
.4 Yr Is-Ganghellor.
.5 Y Dirprwy Is-Gangellorion a’r Dirprwyon i’r Is-Ganghellor
.6 Arglwydd-Raglaw ei Mawrhydi dros ac yn Sir Dyfed neu gynrychiolydd a benodir ganddo/ganddi.
.7 Aelodau Tŷ Cyffredin y Senedd sy'n cynrychioli etholaethau yn sir Ceredigion, ac ardal Meirionnydd yn Sir Gwynedd.
.8 Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy'n cynrychioli etholaethau yn sir Ceredigion, ac ardal Meirionnydd yn Sir Gwynedd.
.9 Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy'n cynrychioli rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru.
.10 Aelodau'r Senedd Ewropeaidd sy'n cynrychioli Cymru.
.11 Canghellor a Diprwy-Ganghellor Prifysgol Cymru.
.12 Warden Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru.
.13 Llywydd a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
.14 Llywydd a Chyfarwyddwr Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru.
.15 Ceidwad Amgueddfa Werin Cymru.
.16 Ysgrifennydd Cyffredinol Prifysgol Cymru
.17 Is-Gangellorion neu Benaethiaid cyfatebol Sefydliadau Cyfansoddol Addysg Uwch Cymru a’r Prifathrawon neu swyddogion cyfatebol ar y colegau a’r sefydliadau
addysg uwch neu bellach hynny a bennir yn y Rheolau Sefydlog.
.18 Y Prif Swyddogion â chyfrifoldeb dros addysg ar bob un o’r cynghorau sir canlynol: Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro, Powys a Gwynedd.
.19 Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion.
.20 Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion.
.21 Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion.
.22 Aelodau'r Cyngor.
.23 Aelodau'r Senedd.
.24 Personau a ddaliodd swydd Llywydd, Is-Lywydd neu Drysorydd am y cyfnod llawn y penodwyd hwy amdano'n wreiddiol.
.25 Yr Athrawon Emeritws
B. Aelodau Enwebedig
Pedwar person a enwebir gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
C. Aelodau Cynrychioliadol
.1 Dau berson i'w penodi gan ac o blith Aelodau Tŷ Cyffredin y Senedd sy'n cynrychioli etholaethau yng Nghymru, fel y penner trwy'r Ordinhadau.
.2 Dau berson i'w penodi gan ac o blith Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel y penner trwy'r Ordinhadau.
.3 Un person i'w benodi gan bob un o Awdurdodau Addysg Lleol siroedd Caerfyrddin, Ceredigion, Penfro, Powys a Gwynedd.
.4 Dau berson i'w penodi i gynrychioli Awdurdodau Addysg Lleol yng Nghymru, fel y penner trwy'r Ordinhadau.
.5 Dau berson i'w penodi i gynrychioli'r Prif Swyddogion â chyfrifoldeb dros Addysg yn Awdurdodau Addysg Lleol Cymru, fel y penner trwy'r Ordinhadau.
.6 Dau berson i'w penodi gan Gyngor Tref Aberystwyth.
.7 Dau berson i'w penodi gan Gyd-Bwyllgor Addysg Cymru.
.8 Personau a benodir gan ac o blith galwedigaeth yr athrawon, heb fod yn fwy nag ugain i gyd, i'w penodi yn gyffredinol ac mewn dull a bennir trwy'r Ordinhadau.
.9 Deg person i'w penodi gan ac o blith aelodau Cymdeithas y Cyn-Fyfyrwyr.
.10 Dau berson i'w penodi gan Brifysgol Cymru.
.11 Un person i'w benodi gan bob un o'r cyrff diwylliannol, addysgol, proffesiynol neu ddysgedig hynny, heb fod yn fwy nag ugain i gyd, a benner trwy'r Rheolau Sefydlog.
.12 Un person i'w benodi gan bob un o'r cyrff diwydiannol, masnachol neu amaethyddol, heb fod yn fwy na deuddeg i gyd, a benner o bryd i'w gilydd trwy'r Rheolau
Sefydlog.
.13 Dau berson i'w penodi gan Gyngor Undebau Llafur Cymru.
.14 Un person i'w benodi gan bob Undeb Llafur a gydnabyddir gan y sefydliad, fel y penner trwy'r Rheolau Sefydlog.
(2) Cyfnod gwasanaeth aelodau’r Llys
Bydd cyfnodau gwasanaeth aelodau'r Llys fel a ganlyn:
(a) Bydd Aelodau Ex-Officio yn gwasanaethu cyhyd ag y daliant y swyddi yr aethant yn aelodau trwyddynt.
(b) Bydd Aelodau Enwebedig yn yn gwasanaethu am y cyfnod a bennir gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
(c) Bydd Aelodau Cynrychioliadol yn gwasanaethu am gyfnod o dair neu bedair blynedd neu rhyw gyfnod byrrach a benner mewn unrhyw achos trwy'r Ordinhadau er mwyn
sicrhau cylchdro.