Rheolaeth

Ordinhadau

Ordinhad 9

Y LLYS – SWYDDOGAETHAU A’R CYFARFOD BLYNYDDOL

  1. Swyddogaethau
    1. Swyddogaeth y Llys fydd darparu llwyfan cyhoeddus yn flynyddol ar gyfer cyflwyno gwybodaeth a thrafod gweithgareddau’r Brifysgol.
  2. Cyfarfod Blynyddol
    1. Bydd y Llys yn cyfarfod yn flynyddol i dderbyn gwybodaeth am waith y Brifysgol.
    2. Bydd Cyfarfod Blynyddol y Llys yn cynnwys fel arfer:
      • Gohebiaeth
      • Derbyn Adroddiad Blynyddol ar waith y Brifysgol
      • Derbyn Datganiad o Gyfrifon ac Adroddiad Cyllid
      • Anerchiad gan yr Is-Ganghellor
    3. Dosberthir agenda a chofnodion y Llys yn Gymraeg a Saesneg.
    4. Wrth annerch y Llys, mae gan bob aelod hawl i siarad yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Ordinhad 10

PENODI CYNRYCHIOLWYR Y BRIFYSGOL I GYRFF ERAILL

  1. Bydd hawl gan y Cyngor a’r Senedd trwy benderfyniad i benodi neu enwebu cynrychiolwyr i gyrff eraill yn unol â gofynion a rheoliadau’r cyrff hynny.
  2. Tair blynedd fydd cyfnod dyletswyddau’r personau a fydd yn gynrychiolwyr y Brifysgol i gyrff eraill oni cheir cyfarwyddyd gwahanol gan y cyrff dan sylw.
  3. Bydd pob person a benodir yn gynrychiolwyr y Senedd i gyrff eraill yn aelodau presennol o staff y Brifysgol.

Ordinhad 11

Y CYNGOR: AELODAU PENODEDIG

  1. Aelodau Penodedig
    1. Bydd naw aelod, nad ydynt yn aelodau o’r staff, yn cael eu hethol i’r Cyngor yn unol â’r adran hon, am gyfnod o dair blynedd.
    2. Bydd y Cofrestrydd ac Ysgrifennydd yn rhoi gwybod i aelodau’r Cyngor am leoedd gweigion a gwahodd enwebiadau, gan roi cymaint o rybudd am y lleoedd gweigion a’r dyddiad cau ar gyfer enwebiadau ag sydd yn rhesymol er mwyn galluogi’r Pwyllgor Enwebiadau i’w hystyried.
    3. Wrth ystyried enwebiadau ar gyfer aelodau penodedig, caiff y Pwyllgor Enwebiadau yntau gynnig enwau i’w hystyried yn ei gyfarfod.
    4. Bydd y Pwyllgor Enwebiadau yn rhoi ei argymhellion ar gyfer aelodau i’w penodi i’r Cyngor erbyn ei gyfarfod olaf cyn i’r lleoedd ddod yn wag.
    5. Os yw aelod penodedig yn gadael, bydd lle gwag dros-dro o’r fath yn cael ei lenwi cyn gynted ag y bo modd yn unol â’r drefn a ddisgrifir yn 1.2, 1.3 ac 1.4 .
  2. Ailbenodiadau
    1. Bydd aelod penodedig ar dir i’w ailethol ar yr amod na fydd yn gwasanaethu am dros ddeng mlynedd o’r bron yn y categori hwnnw.
    2. Os yw rhywun wedi gwasanaethu am y cyfnod hiraf a ganiateir i aelodau penodedig ni fydd ar dir i’w ethol ymhellach yn yr un categori tan i ddwy flynedd fynd heibio.
    3. Os yw rhywun yn cwblhau y cyfnod hiraf a ganiateir yn aelod penodedig ni fydd hyn yn gwahardd y cyfryw unigolyn rhag gwasanaethu ar y Cyngor am gyfnod pellach mewn gwahanol swydd.
    4. Bydd aelod penodedig sy’n cael ei symud o’i swydd yn unol ag Ystatud 13(2)(a)(iv) ar dir i’w ailethol ar ôl cyfnod o ddwy flynedd.
  3. Datgelu Gwybodaeth
    1. Cyn gwneud unrhyw benodiad bydd gofyn i bob un a enwebir i'w benodi neu ei ailbenodi ddatgelu unrhyw wybodaeth a all fod yn berthnasol i'w sefyllfa fel aelod o'r Cyngor os y’i penodir. Bydd hyn yn cynnwys unrhyw fuddiannau, boed hynny yn ariannol ai peidio, sy'n debyg o amharu ar farn annibynnol yr unigolyn fel aelod o'r Cyngor neu sy'n debyg o gael eu gweld y golau hwnnw. Rhaid datgelu'r cyfryw wybodaeth i'r Cyngor ar adeg y penodi neu'r ailbenodi.

Ordinhad 12

Y CYNGOR: AELODAU’R SENEDD

  1. Aelodau’r Senedd
    1. Tri aelod a benodir gan ac o blith aelodau’r Senedd am gyfnod o dair blynedd.
    2. Bydd y Cofrestrydd ac Ysgrifennydd yn rhoi gwybod i aelodau’r Senedd am leoedd gweigion a gwahodd enwebiadau, gan roi cymaint o rybudd am y lleoedd gweigion a’r dyddiad cau i dderbyn enwebiadau ag sydd yn rhesymol er mwyn gallu cynnal etholiad ac i’r Senedd gadarnhau’r canlyniadau erbyn ei gyfarfod diwethaf cyn i’r lleoedd ddod yn wag.
    3. Os ceir mwy o enwebiadau nag o leoedd gweigion cynhelir etholiad trwy bleidlais gudd. Pleidleisir ar sail mwyafrif syml. Bydd yr enwebiadau a gafodd y nifer fwyaf o bleidleisiau yn cael eu hethol i’r Senedd, yn ôl nifer y lleoedd gweigion.
    4. Os yw aelod o’r Senedd yn rhoi’r gorau i’w aelodaeth, bydd lle gwag dros-dro o’r fath yn cael ei lenwi gan gyfarfod nesaf y Senedd. Wrth enwebu ac ethol personau i leoedd gweigion dros-dro dilynir y drefn a nodir yn 1.2 ac 1.3. Os oes lleoedd gweigion am ddwy flynedd ac am flwyddyn, y person(au) sy’n cael y nifer fwyaf o bleidleisiau a etholir am ddwy flynedd.
    5. Bydd cynrychiolwyr y Senedd ar y Cyngor yn parhau’n aelodau cyhyd â’u bod yn aelodau o’r Senedd. Byddant yn aelodau tan ddiwedd y drydedd flwyddyn ar ôl eu penodi neu pa ddyddiad cynharach bynnag a fydd ymhob achos yn cael ei bennu gan y Senedd i ddiben cylchdroi aelodau.
  2. Ailethol
    1. Bydd aelod o’r Senedd ar dir i’w ailethol am gyfnod pellach heb fod dros dair blynedd, ac ar ôl cwblhau unrhyw gyfnod pellach yn aelod neu wrth ymddeol, ni fydd ar dir i’w ailethol i’r un math o aelodaeth tan i gyfnod o flwyddyn fynd heibio.
  3. Datgelu Gwybodaeth
    1. Cyn cynnal unrhyw bleidlais neu cyn gwneud unrhyw benodiad bydd gofyn i bob un a enwebir i'w benodi neu ei ailbenodi ddatgelu unrhyw wybodaeth a all fod yn berthnasol i'w sefyllfa fel aelod o'r Cyngor pe byddai’n aelod. Bydd hyn yn cynnwys unrhyw fuddiannau, boed hynny yn ariannol ai peidio, sy'n debyg o amharu ar farn annibynnol yr unigolyn fel aelod o'r Cyngor neu sy'n debyg o gael ei ystyried yn y golau hwnnw. Rhaid datgelu'r cyfryw wybodaeth i'r Senedd ar adeg y bleidlais neu'r ailbenodiad.
  4. Ordinhad 13

    Y CYNGOR – ETHOL AELODAU O’R STAFF ANACADEMAIDD

    Etholir un aelod i’r Cyngor gan ac o blith aelodau Staff heblaw y Staff Academaidd, yn unol â’r weithdrefn ganlynol:

    1. Yn ystod mis Ebrill yn y flwyddyn pan ddaw cyfnod yr aelodaeth i ben, anfonir rhybudd o etholiad at holl aelodau’r staff nad ydynt yn aelodau o’r Staff Academaidd yn ôl diffiniad Ystatud 1 ac sydd wedi eu penodi ar sail contract cyflogaeth nad yw’n llai na deuddeg mis gan ddechrau ar, neu cyn, 1 Ionawr yr un flwyddyn (a elwir o hyn ymlaen “staff anacademaidd”).
    2. Bydd y rhybudd o etholiad yn cynnnwys gwahoddiad i gyflwyno enwebiadau erbyn 31 Mai nesaf.
    3. Bydd aelodau’r staff anacademaidd ar dir i’w henwebu i’w hethol. I fod yn ddilys, rhaid i bob enwebiad gael ei gynnig a’i eilio yn ysgrifenedig gan o leiaf ddau aelod o staff anacademaidd, a rhaid dangos bod y sawl a enwebir yn cytuno.
    4. Os ceir mwy nag un enwebiad, cynhelir etholiad trwy bleidlais pob aelod o’r staff anacademaidd.
    5. Bydd y Cofrestrydd ac Ysgrifennydd yn penodi dau archwilydd ar gyfer etholiad trwy bleidlais, a bydd o leiaf un ohonynt yn aelod o’r Staff Academaidd neu’n aelod lleyg o’r Cyngor. Gwahoddir un cynrychiolydd o bob Undeb Llafur a gydnabyddir i fod yn arsylwyr wrth gyfri’r pleidleisiau.
    6. Tair blynedd fydd cyfnod yr aelod a benodir, gan ddechrau ar yr 1 Awst canlynol.
    7. Llenwir lle gwag dros-dro am weddill cyfnod yr aelod sy’n peidio â bod yn aelod. Anfonir rhybudd o etholiad at yr holl staff anacademaidd, gan wahodd enwebiadau yn unol â pharagraff 3 uchod, erbyn dyddiad rhagnodedig. Yn achos etholiad cystadleuol i lenwi lle dros-dro, daw’r weithdrefn a ddiffinir ym mharagraffau 4 a 5 uchod i rym.
    8. Os bydd aelod a etholir i’r Cyngor yn unol â’r ddarpariaeth hon yn peidio â bod yn aelod o’r staff anacademaidd, daw ei aelodaeth i ben ar unwaith.
    9. Bydd aelod sy’n ymddeol ar dir i’w ailethol am hyd at dri chyfnod pellach. Os yw person wedi gwasanaethu am uchafswm y cyfnodau a ganiateir, ni fydd ar dir i’w ailethol ymhellach fel aelod o staff anacademaidd ar y Cyngor tan i gyfnod o dair blynedd fynd heibio.

    Ordinhad 14

    Y SENEDD – AELODAETH

    1. Y personau canlynol fydd aelodau’r Senedd:

      1. 

      Aelodau Ex-Officio
      (a)  Yr Is-Ganghellor, a fydd yn Gadeirydd ar y Senedd
      (b)  Y Dirprwy Is-Ganghellor neu’r Dirprwy Is-Gangellorion, neu’r Dirprwy(on) i’r Is-Ganghellor
      (c) Penaethiaid yr Adrannau
      (d) Deoniaid y Cyfadranna
      (e) Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gwybodaeth

      Aelodau a Etholir
      (a) Aelodau a etholir gan ac o blith y staff Academaidd yn unol â’r Ordinhadau
      (b) Tri myfyriwr a etholir gan ac o blith Mudiad y Myfyrwyr
      (c) Ni fydd nifer yr aelodau a etholir o dan (i) a (ii) uchod yn uwch na chyfanswm y rhai sydd yn aelodau o’r Senedd yn rhinwedd eu swydd

      Aelodau a Gyfetholir
      Bydd gan y Senedd y pwer i gyfethol hyd at dri aelod o blith y Staff Academaidd. Bydd aelodau cyfetholedig yn dal y swydd am ba gyfnodau bynnag a benderfynir gan y Senedd ym mhob achos.

      Aelodau Heb Bleidlais
      Bydd gan y Senedd y pwer i wahodd i’w chyfarfodydd, heb hawl i bleidleisio, pa berson arall bynnag ag a benderfynir gan y Senedd.

    2. Bydd aelod ex officio yn aelod cyhyd ag y bydd yn dal y swydd yr etholwyd yn aelod drwyddi.
    3. Etholir y Myfyrwyr yn aelodau am gyfnod ac o ddyddiad a bennir o bryd i’w gilydd gan y Senedd a byddant ar dir i’w hailethol. Ni fydd gan y Myfyrwyr sydd yn aelodau hawl i fod yn bresennol, i gymryd rhan nac i dderbyn unrhyw bapurau yn ymwneud â materion y Senedd sy’n effeithio ar benodiad, dyrchafiad neu â materion personol unrhyw aelod unigol o staff, nac â derbyn, asesiad academaidd neu faterion personol unrhyw fyfyriwr unigol, nac unrhyw fater y bydd y Senedd yn gweld yn dda i ymdrin ag ef heb i’r myfyrwyr fod yn bresennol.
    4. Yr Is-Ganghellor fydd yn cadeirio holl gyfarfodydd y Senedd neu, os yw’r Is-Ganghellor yn absennol, bydd y Dirprwy Is-Ganghellor neu’r hynaf o’r Dirprwy Is-Gangellorion sydd yn bresennol yn cadeirio. Yn absenoldeb yr Is-Ganghellor ac unrhyw Ddirprwy Is-Ganghellor neu Ddirprwy i’r Is-Ganghellor, bydd yr aelodau sydd yn bresennol yn dewis un o’u plith (heblaw am y Myfyrwyr) i gadeirio’r cyfarfod hwnnw.

    Ordinhad 15

    PWERAU A SWYDDOGAETHAU’R SENEDD

    Y Senedd fydd awdurdod academaidd y Brifysgol. Bydd yn atebol i’r Cyngor am swyddogaethau academaidd y Brifysgol wrth ddysgu ac ymchwilio ac am reoleiddio a goruchwylio’r myfyrwyr.

    Bydd gan y Senedd y pwerau canlynol, yn amodol ar y Siarter ac Ystatudau ac yn ychwanegol at yr holl bwerau eraill a freinir iddi gan y Cyngor:

    1. Ethol rhai aelodau penodol o’r Senedd yn aelodau o’r Cyngor.
    2. Penodi dau aelod o’r Staff Academaidd yn aelodau o Fwrdd Academaidd Prifysgol Cymru, yn ôl darpariaethau Siarter ac Ystatudau Prifysgol Cymru.
    3. Penodi cynrychiolwyr i bwyllgorau eraill y Brifysgol fel y bo’n briodol.
    4. Naill ai ar ran y Brifysgol neu ar y cyd â sefydliadau eraill, rhoddi a dyfarnu grantiau, graddau, ac anrhydeddau academaidd eraill i’r unigolion hynny sydd wedi astudio, ac wedi cwblhau’n llwyddiannus, gynllun astudio neu ymchwil a gymeradwywyd gan y Senedd, ac i unigolion sy’n dal anrhydeddau academaidd o safon gyfartal neu debyg a roddwyd iddynt gan unrhyw goleg neu sefydliad addysg uwch arall.
    5. Cyflwyno am wobrau, graddau ac anrhydeddau academaidd eraill mewn sefydliadau eraill yr unigolion hynny sydd, o dan arolygaeth y Brifysgol, wedi astudio ac wedi cwblhau yn llwyddiannus gynllun astudio neu ymchwil a gymeradwywyd gan y sefydliadau hynny.
    6. Gwneud argymhellion i’r Cyngor ynghylch dyfarnu graddau, diplomâu, tystysgrifau ac anrhydeddau academaidd eraill i’r rhai hynny sy’n dal unrhyw swyddi academaidd yn y Brifysgol, ac i’r rhai hynny y dymuna’r Brifysgol roddi iddynt y cyfryw anrhydedd honoris causa.
    7. Os oes rheswm da, difeddiannu unrhyw unigolion o unrhyw anrhydedd academaidd neu deitl a roddwyd iddynt gan y Senedd, a dirymu unrhyw radd neu wobr arall a roddwyd iddynt gan y Senedd, a thynnu oddi wrthynt bob braint cysylltiedig â hynny.
    8. Cyfarwyddo, rheoleiddio a rheoli holl waith dysgu, holl gynlluniau astudio ac arholiadau’r Brifysgol, a derbyn neu wrthod unrhyw gais gan unigolyn i gael ei dderbyn yn fyfyriwr heb fod angen rhoi rheswm.
    9. Pennu’r amodau lle gellir derbyn unigolion i’r Brifysgol ac ar unrhyw gynllun astudio neu ymchwil penodol a rhoi cyfarwyddiadau i’r Cofrestrydd ac Ysgrifennydd am gategorïau’r myfyrwyr y dylid rhoi eu henwau ar gofrestr y myfyrwyr; a phennu trwy Reoliadau neu ddull arall yr amodau sydd yn gysylltiedig â pherfformiad academaidd ac astudio mewn modd priodol a fydd yn caniatáu i fyfyrwyr barhau â’u hastudiaethau yn y Brifysgol a’r camau a gymerir wrth ymdrin ag unrhyw fyfyriwr sy’n methu â bodloni’r arholwyr o’i gynnydd boddhaol mewn unrhyw arholiad yn y Brifysgol.
    10. Sefydlu cynllun trosglwyddo credydau a chrynoadau fel y gall y Brifysgol gydnabod astudiaethau a wnaed mewn man arall er mwyn eu cyfri tuag at ddyfarniadau’r Brifysgol.
    11. Fe fydd y Senedd:
      • Yn adolygu dyletswyddau ac amodau gwasanaeth aelodau’r Staff Academaidd o bryd i’w gilydd, ac yn gwneud argymhellion ynglyn â hyn i’r Cyngor;
      • Yn pennu pa aelodau o’r Staff, heblaw am Staff Academaidd a gaiff statws academaidd;
      • Yn gwneud argymhellion i’r Cyngor ynghylch amodau penodi a thalu arholwyr am arholiadau’r Brifysgol.
    12. Gwneud argymelliadau i’r Cyngor ynglyn â dyfarnu cymrodoriaethau, ysgoloriaethau, bwrsariaethau, gwobrau a grantiau eraill er mwyn hyrwyddo astudio ac ymchwilio.
    13. Archwilio i sefyllfa ymchwil, addysgu, staffio a gwaith cyffredinol unrhyw Gyfadran, Adran a sefydliad academaidd arall yn y Brifysgol ac adolygu, diwygio, cyfeirio yn ôl, neu beidio â chaniatáu unrhyw weithred a wnaed gan unrhyw Gyfadran, Adran neu sefydliad academaidd yn y Brifysgol.
    14. Rhoi gwybodaeth i Fwrdd Academaidd Prifysgol Cymru am unrhyw faterion sy’n gysylltiedig â dyfarnu cymwysterau Prifysgol Cymru.
    15. Gwneud argymelliadau i’r Cyngor gogyfer â chreu, diddymu a newid enw Adrannau.
    16. Gwneud argymelliadau i’r Cyngor ynghylch cysylltiadau’r Brifysgol â sefydliadau neu adrannau eraill.
    17. Rheoleiddio a goruchwylio trefn disgyblu Myfyrwyr ac, yn amodol ar ddarpariaethau Ystatud 11, diarddel unrhyw fyfyriwr o unrhyw ddosbarth neu ddosbarthiadau, eithrio unrhyw fyfyriwr o’r Brifysgol gyfan neu o ran ohoni neu ei chyffiniau, anfon unrhyw fyfyriwr o’r Brifysgol, neu estyn cyfnod diarddel neu eithrio myfyriwr a waharddwyd neu a eithriwyd gan yr Is-Ganghellor, neu i gymryd unrhyw gam arall sy’n gywir ym marn y Senedd, ac i bennu trwy Reoliadau ddulliau ar gyfer gweithredu pwerau disgyblu.
    18. Argymell i’r Cyngor o bryd i’w gilydd gymeradwyo cyfansoddiad Mudiad y Myfyrwyr ac unrhyw addasiadau neu ychwanegiadau i’r cyfansoddiad hwnnw.
    19. Rhagnodi pa wisg academaidd a wisgir gan Swyddogion ac aelodau’r Brifysgol a’r achlysuron y cânt ei gwisgo.
    20. Rhoi gwybodaeth a gwneud argymhellion i’r Cyngor o bryd i’w gilydd ynglyn â’r Ystatudau ac Ordinhadau.
    21. Rhoi gwybodaeth a gwneud argymhellion i’r Cyngor ar unrhyw fater a gyfeiriwyd i sylw’r Senedd gan y Cyngor, neu ar unrhyw fater sydd o ddiddordeb i’r Brifysgol.
    22. Creu Rheoliadau yn gysylltiedig â materion sy’n rhan o gyfrifoldebau’r Senedd, a rhoi Rheoliadau o’r fath ar waith.
    23. Yn gyffredinol, gweithredu unrhyw bwerau a roddwyd neu y gellid eu rhoi i’r Senedd trwy’r Siarter ac Ystatudau.