Rheolaeth

Pwyllgorau sy'n adrodd i'r Senedd

Pwyllgor Materion Academaidd


Aelodau:

Yr Is-Ganghellor a Phrifathro - yn rhinwedd ei swydd
Dirprwy Is-Ganghellor (Materion Myfyrwyr), Cadeirydd
Dirprwy Is-Ganghellor (Materion Academaidd)
Deoniaid Cyfadrannau'r Celfyddydau, y Gwyddorau, a'r Gwyddorau Cymdeithasol
Cadeirydd Ysgol Astudiaethau drwy'r Gymraeg
Cyfarwyddwr Astudiaethau ôl-radd
Un cynrychiolydd a etholir gan bob un o gyfadrannau'r Celfyddydau, y Gwyddorau,
a'r Gwyddorau Cymdeithasol
Dau gynrychiolydd o blith y myfyrwyr
Cynrychiolydd Gwasanethau Gwybodaeth - yn rhinwedd ei swydd

Mae yna hefyd ddarpariaeth ar gyfer cyfetholiad staff eraill i fod ar y Pwyllgor

Gwahoddir Cyfarwyddwr Datblygiad Staff i fynychu'r cyfarfod fel sylwedydd

Cylch cyfrifoldebau:

1.
Mae'r pwyllgor materion academaidd yn un o bwyllgorau sefydlog y Senedd
2.
Swyddogaeth y Pwyllgor Materion Academaidd yw cynghori a gwneud argymhellion i'r Senedd ar bolisi academaidd eang a materion perthynol yn cynnwys:

Cynnal a chadw golwg ar safonau academaidd ac ansawdd yn cynnwys:
2.i.
Arolygu Adrannau Academaidd
2.ii.
Cymeradwyo cynlluniau astudio newydd neu ddiwygiedig, yn ddibynnol ar gadarnhâd gan Brifysgol Cymru os yw hynny'n berthnasol;
2.iii.
Ystyried pob asesiad allanol ar ansawdd y dysgu, ac unrhyw ymarferion dilysu a chredydu yn ymwneud â gwaith dysgu yn y sefydliad.
2.iv.
Trosolwg o Strategaeth Addysgu a Dysgu PCA
v.
Troslowg materion arholiadol, yn cynnwys derbyn adroddiadau gan y superintendent Arholiadau
vi.
Arolygu apelau a chwynion gan fyfyrwyr
vii.
Trosolwg achosion practice anheg o fewn y brifysgol

Materion Academaidd Rhyng-Gyfadrannol.

Materion sy'n cael eu cyfeirio i'r Pwyllgor gan y Senedd, neu gan Fwrdd Academaidd Prifysgol Cymru