Rheolaeth
Pwyllgorau sy'n adrodd i'r Senedd
Pwyllgor Cynnydd Academaidd
Aelodau
Is-Ganghellor a Phrifathro - yn rhinwedd ei swydd
Dirprwy Is-Ganghellor (Materion Myfyrwyr) - Cadeirydd
Deoniaid Cyfadrannau'r Celfyddydau, y Gwyddorau, ac Astudiaethau Economaidd a Chymdeithasol (neu eu dirprwyon)
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cynhaliol Myfyrwyr
Tri fydd cworwm y Pwyllgor.
Cylch cyfrifoldebau
- Ystyried apeliadau a wneir gan fyfyrwyr yn sgil penderfyniadau a wneir gan y Deoniaid, Byrddau Arholi'r Cyfadrannau, neu Bwyllgor sy'n ymchwilio i honiadau o gamymddwyn, fel a sefydlwyd yn unol â'r Rheoliad Academaidd ar Ymddwyn yn Annheg.
- Ni fydd hawl gan Ddeon y gyfadran berthnasol nac unrhyw aelod arall sy'n gysylltiedig yn uniongyrchol ag astudiaethau'r myfyrwyr i gymryd rhan mewn penderfyniad gan y Pwyllgor nac i fod yn bresennol ynddo. Gall ef neu hi ddarparu gwybodaeth ac ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor.