Rheolaeth

Pwyllgorau sy'n adrodd i'r Senedd

Pwyllgor Recriwtio


Aelodau:

Is-Ganghellor a Phrifathro - yn rhinwedd ei swydd
Dirprwy Is-Ganghellor (Materion Myfyrwyr) - Cadeirydd
Dirprwy Is-Ganghellor (Materion Academaidd)
Un cynrychiolydd o blith y canlynol:
Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes, Gwyddorau Gwledig, Astudiaethau Gwybodaeth,
Astudiaethau Theatr Ffilm a Theledu, Cyfrifiadureg, Cymraeg, Ffiseg, Gwleidyddiaeth
Ryngwladol, Hanes a Hanes Cymru, Ieithoedd Ewropeaidd, Mathemateg, Saesneg,
Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Sefydliad y Gwyddorau Biolegol,
Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer, Y Gyfraith, Yr Ysgol Gelf, Ysgol Rheolaeth a
Busnes, Ysgol Astudiaethau drwy'r Gymraeg.
Hyd at 3 aelod cyfetholedig, a all gynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau allanol.

Cylch cyfrifoldebau

  1. Rheoli, cydgysylltu, a monitro, yn ogystal â hyrwyddo a datblygu gwaith marchnata a recriwtio myfyrwyr i'r sefydliad.
  2. Rhoi cyfeiriad polisi i waith marchnata'r sefydliad a hyrwyddo'r gwaith hwn.
  3. Arolygu ansawdd, ystod, a dosbarthiad y cyhoeddiadau a'r deunydd cyhoeddusrwydd.
  4. Bod yn gyfrifol am y prif ddigwyddiadau marchnata yn cynnwys Cynadleddau Ymgynghorwyr Addysg Uwch, Diwrnod Agored.