Rheolaeth

Pwyllgorau sy'n adrodd i'r Senedd

Y Bwrdd Graddau Ymchwil

Y mae’r Bwrdd Graddau Ymchwil yn bwyllgor o’r Senedd.

Cyfansoddiad

Cadeirydd – Dirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil)
Is-Gadeirydd - Deon Astudiaethau Uwchraddedig
Deoniaid y Celfyddydau, y Gwyddorau, a’r Gwyddorau Cymdeithasol (ex officio)

Dirprwy Ddeon Astudiaethau Uwchraddedig

Un unigolyn a enwebir o bob Adran (naill ai Cyfarwyddwr y myfyrwyr ymchwil neu astudiaethau uwchraddedig, neu, yn achos adrannau sy’n cyfuno cyfrifoldeb am raddau uwch â chyfrifoldeb am ymchwil staff, y Cyfarwyddwr Ymchwil).

Bydd gan y Bwrdd hefyd y pŵer i gyfethol aelodau ychwanegol.

Yn gweinyddu – yr Ysgrifennydd Academaidd, ac aelodau eraill y Swyddfa Academaidd yn ôl yr angen.

Cylch Gorchwyl

  • Cyfrannu i ddatblygiad a gweithrediad polisi’r Brifysgol ar ymchwil uwchraddedig ac i’w Strategaeth Uwchraddedig.
  • Monitro graddfa cyflwyno traethodau ymchwil i gwrdd â thargedau cymeradwy ac i ystyried ystadegau a dangosyddion perfformiad, yn enwedig yng nghyswllt graddfeydd cyflwyno, cwblhau a rhoi’r gorau yng nghyswllt graddau ymchwil.
  • Derbyn adroddiadau gan Gynghorau Ymchwil ynghylch graddfeydd cyflwyno traethodau ymchwil.
  • Derbyn adroddiadau gan y Deoniaid ynghylch estyniadau i ddyddiadau cau myfyrwyr ymchwil.
  • Ymdrin â materion gweinyddol yn ymwneud ag arholi graddau ymchwil a, lle bo hynny’n addas, eu dwyn i sylw’r Pwyllgor Materion Academaidd.
  • Ystyried unrhyw faterion yn codi yn sgìl penodi Arholwyr Allanol graddau ymchwil, sy’n cael eu cymeradwyo gan y Deon Astudiaethau Uwchraddedig.
  • Nodi materion sy’n codi o adroddiadau’r Arholwyr Allanol.
  • Cadw dan arolygaeth weithdrefnau (sy’n allanol i’r Bwrdd) ar gyfer ystyried apeliadau gan fyfyrwyr ymchwil.
  • Derbyn adroddiadau ynghylch apeliadau gan fyfyrwyr ymchwil uwchraddedig.
  • Ystyried adroddiadau o’r Cyfadrannau ar ganlyniadau asesiadau a wnaed yn ystod y flwyddyn gogyfer â’r holl fyfyrwyr ymchwil uwchraddedig.
  • Derbyn adroddiadau o’r Bwrdd Astudiaethau Hyfforddiant Ymchwil.
  • Goruchwylio materion yn ymwneud â hyfforddiant ymchwil a gwneud argymhellion i’r Pwyllgor Materion Academaidd ar bolisïau Sicrhau Ansawdd a Gwella Ansawdd ar gyfer hyfforddiant ymchwil.
  • Cymryd rhan yn y drefn o gymeradwyo cynlluniau/cyrsiau/cynlluniau newydd sy’n ymwneud â hyfforddiant ymchwil trwy Gadeirydd y Bwrdd Astudiaethau Hyfforddiant Ymchwil.
  • Derbyn adroddiadau o Bwyllgor Ymgynghorol y Myfyrwyr Ymchwil.
  • Derbyn adroddiadau o ba grwpiau bynnag a gaiff eu sefydlu o bryd i’w gilydd i ymateb i ofynion y Cynghorau Ymchwil.
  • Derbyn adroddiad blynyddol gan y Deoniaid ar faterion yn ymwneud ag Ysgoloriaethau Ymchwil Uwchraddedig Prifysgol Aberystwyth, ac ystyried unrhyw argymhellion i newid meini prawf y gwobrau.
  • Bod yn gyfrifol am fonitro’r ffordd y caiff grantiau’r Cynghorau Ymchwil eu rheoli ar gyfer hyfforddiant sgiliau i fyfyrwyr ymchwil uwchraddedig.
  • Gweld cyfleoedd am gyd-weithio rhwng adrannau a chyda phrifysgolion eraill.
  • Adolygu, a chymeradwyo yn unol â rheoliadau a chanllawiau’r Brifysgol, geisiadau am gynnal ‘viva’ trwy ddulliau electronig
  • Adolygu, a chymeradwyo yn unol â rheoliadau a chanllawiau’r Brifysgol, geisiadau i osod rhwystrau ar hawl mynediad i weld traethodau ymchwil
  • Adolygu, a chymeradwyo yn unol â rheoliadau a chanllawiau’r Brifysgol, geisiadau gan adrannau i ganiatáu i fyfyriwr gyflwyno traethawd ymchwil mewn iaith heblaw Cymraeg neu Saesneg

Llinellau Adrodd

Bydd y Bwrdd yn cyfarfod deirgwaith y flwyddyn ac yn adrodd i’r Senedd. Lle bydd materion yn ymwneud ag ansawdd yn cael eu nodi bydd y Bwrdd yn adrodd i’r Pwyllgor Materion Academaidd.

 

Mehefin 2011