Rheolaeth
Pwyllgorau sy'n adrodd i'r Senedd
Pwyllgor Rheolau a Rheoliadau
Aelodau:
Dirprwy Is-Ganghellor (Cadeirydd).
Deoniaid Cyfadrannau'r Celfyddydau, y Gwyddorau a'r Gwyddorau Cymdeithasol neu eu cynrychiolydd.
Un cynrychiolydd a etholir gan bob un o'r Cyfadrannau, sef y Celfyddydau, y Gwyddorau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr
Cynrychiolydd o blith y myfyrwyr
Cylch cyfrifoldebau:
Darparu cyngor ac argymhellion i'r Senedd ar y materion canlynol ac unrhyw rai eraill perthnasol:
- Rheolau a Rheoliadau yn ymwneud â myfyrwyr
- Rheoliadau ar gyfer ysgoloriaethau myfyrwyr, gwobrau, ayb.
- Materion cyfansoddiadol yn ymwneud ag Urdd y Myfyrwyr
- Materion sy'n cael eu cyfeirio gan y Senedd
Materion i'w Trosglwyddo i bwyllgorau eraill:
I'r Pwyllgor Materion Academaidd
- Trefniadau'r arholiadau, gan gynnwys adroddiadau Goruchwyliwr yr Arholiadau
- Adroddiadau am gwynion, apeliadau a phwyllgorau sy'n ymchwilio i gyhuddiadau o ymddwyn yn annheg
I Bwyllgor y Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr
- Materion bugeiliol yn ymwneud â myfyrwyr
I'r Bwrdd Graddau Ymchwil
- Polisïau ar Efrydiaethau Uwchraddedig