Rheolaeth
Pwyllgorau sy'n adrodd i'r Senedd
Y Pwyllgor Ehangu Cyfranogiad
Aelodau
Dirprwy Is-Ganghellor (Cyfranogiad a Chydweithio), Cadeirydd
Cyfarwyddwr Denu a Derbyn Myfyrwyr
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Gwybodaeth
Y Cyfarwyddwr Cynllunio
Yr Ysgrifennydd Academaidd
Cydgysylltydd y Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd
Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau (neu ei g/chynrychiolydd)
Y Deoniaid (neu gynrychiolydd o bob Cyfadran)
Cadeirydd yr Ysgol Astudiaethau drwy’r Gymraeg neu ei g/chynrychiolydd
Cyfarwyddwr yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes
Cynrychiolwyr o Urdd y Myfyrwyr (Swyddog Cymorth i Fyfyrwyr a/neu Swyddog Addysg)
Hyd at 3 aelod cyfetholedig
Cyfarfodydd
Dwywaith y flwyddyn – ddiwedd Medi a diwedd Ebrill
Cylch gorchwyl:
Mae angen cylch gorchwyl newydd i gynnwys amcanion polisi newydd a’r cynlluniau ffioedd AU, gyda Strategaeth Ehangu Mynediad gyfatebol (wedi’i pharatoi ar y cyd â Bangor). Hefyd i ymgymryd â’r agenda rhanbartholdeb (CADARN) ac i osgoi dyblygu gwaith Partneriaeth Ymestyn yn Ehangach Gogledd a Chanolbarth Cymru. Mae gan y Pwyllgor hefyd gyfrifoldeb arbennig i gyfarwyddo a monitro strategaeth ehangu mynediad y sefydliad. Awgrymir y cylch gorchwyl canlynol:
- Goruchwylio datblygiad strategol, aliniad a chydlyniant polisïau ehangu cyfranogiad a chynhwysiant cymdeithasol y sefydliad, yn enwedig strategaeth ehangu mynediad y sefydliad.
- Darparu cyfarwyddiad polisi i'r Ganolfan Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiant Cymdeithasol.
- Cynnwys adrannau academaidd ac adrannau nad ydynt yn academaidd yn uniongyrchol yng ngwaith ehangu cyfranogiad a chefnogi'r myfyrwyr, y mae mwy o amrywiaeth o ran eu cefndiroedd erbyn hyn, a ffyrdd o astudio mwy amrywiol oherwydd yr amrywiaeth honno.
- Arolygu perfformiad y sefydliad o ran ehangu mynediad a chyfranogiad a chynghori ar dargedau perthnasol y Cyngor Cyllido, gan roi sylw penodol i fyfyrwyr o ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf.
- Nodi a hyrwyddo mwy o lwybrau i addysg uwch drwy gydweithio mewnol (rhwng adrannau) ac allanol drwy bartneriaeth gydag ystod o ddarparwyr yn cynnwys sefydliadau addysg uwch, colegau addysg bellach, asiantaethau hyfforddi a chyrff o'r sector wirfoddol.
- Cydlynu rôl ranbarthol y sefydliad i godi lefelau cyrhaeddiad a disgwyliadau pobl o bob oed i hwyluso'r llwybr sy'n arwain at AU.
- Lledaenu'r arfer gorau mewn ehangu cyfranogiad a gweithio gyda'r Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd yn y maes hwn.
- Yn benodol, bydd Cadeirydd y Pwyllgor yn cael adroddiadau rheolaidd ar neu gan:
- · Y Ganolfan Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiant Cymdeithasol
- · Grŵp Gweithredol Rhanbarthol (Canolbarth) Partneriaeth Ymestyn yn Ehangach Gogledd a Chanolbarth Cymru
- · Cymorth i Fyfyrwyr
- · Canolfan y Celfyddydau
- · Swyddog Cydraddoldeb (AD)