Datblygiad Proffesiynol Parhaus

Cyflwyniad 

Disgwylir i bob myfyriwr ymchwil newydd gymryd rhan yn y broses Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP). Mae’r broses hon yn adlewyrchu gofynion datblygiad proffesiynol parhaus nifer o gymdeithasau proffesiynol y DU ac yn seiliedig ar Gyd-Ddatganiad ar Sgiliau y Cynghorau Ymchwil. Mae datblygiad proffesiynol parhaus yn rhan arferol o fywyd gwaith proffesiynol a bydd ymgysylltu â’r broses hon yn ystod eich gwaith uwchraddedig o gymorth ichi gyrraedd eich potensial yn academaidd ac yn bersonol, yn ogystal â rhoi profiad i chi o broses broffesiynol y byddwch yn dod ar ei thraws drwy gydol eich gyrfa yn y dyfodol.

Cewch gymorth yn hyn o beth gan eich Mentor (eich ail gyfarwyddwr, fel arfer, yn achos myfyrwyr PhD), a chewch gyfarfodydd adolygu a chynllunio rheolaidd gydag ef/hi. Trwy hyn, mi gewch gyfle i ystyried yr hyn rydych yn ei ddysgu, yn ei gyflawni a’ch sgiliau yn eich gwaith academaidd a’ch bywyd ehangach, a chynllunio ar gyfer eich datblygiad personol a phroffesiynol yn y dyfodol o fewn i’r fframwaith strwythuredig a chefnogol hwn.

Mae DPP yn cynnig y posibilrwydd i chi gyfoethogi eich profiad fel myfyriwr uwchraddedig drwy eich helpu i ddatblygu gwybodaeth amdanoch chi eich hun a sut rydych yn gweithio, mewn cyd-destun academaidd ac yn fwy cyffredinol, a bydd hefyd yn gwella eich gallu i gysylltu eich dysgu a’ch sgiliau ag anghenion a diddordebau cyflogwyr.

Mi fydd y broses DPP hefyd yn eich helpu i adnabod eich anghenion o ran hyfforddiant, fformiwleiddio rhaglen hyfforddiant briodol ar eich cyfer a chadw cofnod o’r hyfforddiant a wnaethpwyd. Mae astudiaethau diweddar yn awgrymu bod y broses DPP yn gwella perfformiad academaidd ac yn helpu myfyrwyr i gwblhau eu graddau yn gynt.

Mae’r ffurflen DPP i’w gweld yn y Rhaglen Hyfforddiant Sgiliau i Uwchraddedigion a’r blygell DPP a ddosberthir yn ystod y sesiynau cynefino. Gellir ei lawrlwytho fel dogfen Word yn ogystal ar frig y dudalen hon er mwyn ichi ei haddasu at eich anghenion eich hun.

Sawl cwrs fydd angen imi eu dilyn?  

Cynghorir myfyrwyr PhD i wneud 30 uned o hyfforddiant yn ystod eu hastudiaethau. Byddai mynychu cwrs undydd o’r Rhaglen Hyfforddiant Sgiliau i Uwchraddedigion (h.y. gweithdy gyda sesiynau cyn cinio ac wedi hynny) yn cyfrif am 2 uned, neu 1 uned ar gyfer sesiwn hanner diwrnod.  Yr un fyddai’r drefn fel arfer ar gyfer dilyn hyfforddiant strwythuredig arall (oherwydd y gwaith ychwanegol cyn ac ar ôl y sesiynau). Gall y 30 uned gynnwys 20 uned o gyrsiau hyfforddiant strwythuredig a 10 uned o hyfforddiant-mewn-swydd neu hyfforddiant datblygu.

  • Myfyrwyr a noddir gan Gynghorau Ymchwil – mae pob Cyngor Ymchwil yn disgwyl i fyfyrwyr PhD ennill 10 uned y flwyddyn o hyfforddiant sgiliau trosglwyddadwy.
  • Myfyrwyr o gefndir 1+3 – gall myfyrwyr sy’n dilyn hyfforddiant strwythuredig yn ystod eu gradd Meistr (megis rhaglen HY Prifysgol Aberystwyth) gyfrif 5 uned tuag at y cyfanswm sydd ei angen.
  • Myfyrwyr Meistr – mae Prifysgol Aberystwyth yn argymell eich bod yn ennill yr hyn sy’n cyfateb i  5 uned o hyfforddiant strwythuredig yn ystod pob blwyddyn o’ch astudiaethau.

A. Hyfforddiant Strwythuredig

Cynghorir myfyrwyr PhD amser llawn i gynllunio eu hyfforddiant er mwyn gweithio tuag at:

  • 10 uned o hyfforddiant strwythuredig ym mlwyddyn 1
  • 10 uned o hyfforddiant strwythuredig yn ystod blynyddoedd 2 a 3

Dyma beth mae Prifysgol Aberystwyth yn ei argymell, ond mi ddylech wneud yr hyfforddiant neu’r gweithgareddau datblygu yma ar adeg sy’n briodol i chi. Felly, os byddwch yn ennill mwy o unedau yn y flwyddyn gyntaf, er enghraifft, bydd yr hyn fydd angen i chi ei wneud yn yr ail a’r drydedd flwyddyn yn llai.

Dylech geisio dilyn ystod eang o wahanol gyrsiau hyfforddiant o fewn i’r 20 uned gan sicrhau eich bod wedi dilyn cyrsiau neu weithgareddau o bob un o’r saith maes sgiliau a amlinellir yn y Cyd-Ddatganiad ar Sgiliau. Gall hyfforddiant strwythuredig gynnwys y canlynol:

  1. Cyrsiau o Raglen Hyfforddiant Sgiliau i Uwchraddedigion Prifysgol Aberystwyth
  2. Cyrsiau o Raglen Digwyddiadau Canolog Gwasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth
  3. Cyrsiau a drefnir gan adrannau Prifysgol Aberystwyth
  4. Cyrsiau o’r Rhaglen Hyfforddiant Ymchwil a Datblygiad
  5. Cyrsiau eraill Prifysgol Aberystwyth: e.e. y rheiny a drefnir gan y Gwasanaethau Gwybodaeth, y Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd a Dysgu Gydol Oes
  6. Cyrsiau’r rhaglen Vitae
  7. Digwyddiadau hyfforddiant a gyflwynir gan gyrff proffesiynol a Chynghorau Ymchwil
  8. Cyrsiau hyfforddiant a gweithdai a drefnir gan Sefydliadau Addysg Uwch Eraill
  9. Cyrsiau  priodol eraill Prifysgol Aberystwyth/allanol.

B. Hyfforddiant-mewn-swydd neu Hyfforddiant Datblygu

Dylech geisio ennill o leiaf 10 uned o hyfforddiant-mewn-swydd neu hyfforddiant datblygu yn ystod eich PhD, a hynny fwy na thebyg yn ystod blynyddoedd 2 a 3. Gall hyn gynnwys:

  1. Mynychu cynhadledd       
  2. Cyhoeddiad mewn cyfnodolyn neu’i debyg
  3. Cyflwyno papur     
  4. Trefnu digwyddiad neu seminar yn y brifysgol
  5. Arddangos neu ddysgu      
  6. Bod yn rhan o brosiect adrannol neu rywbeth tebyg
  7. Cysgodi yn y gwaith/profiad gwaith/cyfweld gwybodaeth mewn sefyllfa gyrfaoedd berthnasol
  8. Ymweld â ffair yrfaoedd neu rywbeth tebyg
  9. Arall*

Dylech geisio gwneud 4-5 gwahanol fath o weithgaredd yn yr adran hon. Er enghraifft, ni ddylid cyfrif gweithgareddau dysgu yn 10 uned gyflawn, er efallai eu bod yn gwarantu hyn o ran yr amser a dreuliwch arnynt.        

* Efallai y bydd angen ichi gadarnhau gyda’ch Mentor neu gyda’r Swyddog Datblygu Sgiliau (ina@aber.ac.uk) a ellir cyfrif gweithgaredd yn hyfforddiant datblygu. 

Myfyrwyr Meistr

Cynghorir myfyrwyr Meistr i weithio tuag at 5 uned y flwyddyn o gyrsiau sy’n cynnig cydbwysedd rhwng hyfforddiant strwythuredig a datblygu ac ystod eang o gyrsiau.

Myfyrwyr Rhan-amser

Yr un a argymhellir ar gyfer myfyrwyr rhan-amser, er y gellir dilyn y cyrsiau ar adegau cyfatebol yn ystod eich astudiaethau.

Cadw Cofnod 

Dylai’r hunanasesiad sgiliau yn y broses DPP fod o gymorth i chi fwrw iddi i adnabod eich anghenion hyfforddiant personol ac i gynllunio rhaglen hyfforddiant briodol ar eich cyfer, gyda chymorth eich Mentor. Mae’n hanfodol ichi gadw cofnod hyfforddiant personol o’r holl weithgareddau hyfforddiant y byddwch yn eu dilyn. Cewch ddefnyddio’r Ffurflen Cofnodi Hyfforddiant at y diben hwn (mae’n cael ei hamgáu yn y blygell a ddosberthir yn y Sesiwn Cynefino). Gellir cadw tystysgrifau presenoldeb, cofnod o gynadleddau, manylion gwaith maes ac ati ar gyfer eich portffolio yn y blygell a ddosberthir yn y Sesiwn Cynefino (os oes angen copi arnoch, rhowch wybod i’r Swyddog Datblygu Sgiliau). Bydd y rhan fwyaf o adrannau anacademaidd yn y Brifysgol sy’n cynnig sesiynau hyfforddiant yn cofrestru myfyrwyr drwy ddefnyddio system gofrestru ar-lein. Gallwch gadw cofnod o’r holl sesiynau Rhaglen Hyfforddiant Sgiliau i Uwchraddedigion, Gwasanaethau Gwybodaeth, a’r Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd y buoch yn eu mynychu drwy ddefnyddio’r ddolen Fy Nghyrsiau ar dudalennau cofrestru ar-lein y dudalen Rhaglen Hyfforddiant Sgiliau i Uwchraddedigion. Gallwch hefyd ofyn am Dystysgrif Bresenoldeb ar gyfer unrhyw un o’r cyrsiau hyn drwy’r ddolen Fy Nghyrsiau.         

Cyfleoedd Hyfforddiant Ehangach Prifysgol Aberystwyth

  1. Cyrsiau o Raglen Gyflogadwyedd Gwasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth
    Yn cynnwys sgyrsiau gan siaradwyr allanol, ystod eang o weithdai a chanolfannau asesu ymarfer.           
  2. Cyrsiau a drefnir gan adrannau Prifysgol Aberystwyth
    Mae’n bosibl fod sawl adran yn trefnu cyrsiau ar gyfer uwchraddedigion yn benodol. Er mwyn gweld beth sydd ar gael, mi ddylech edrych ar wefannau a llawlyfrau’r adran. Cofiwch mae’n bosibl y byddwch yn gallu dilyn cyrsiau a drefnir gan adrannau eraill heblaw eich adran eich hun.
  3. Cyrsiau’r Rhaglen Hyfforddiant Ymchwil a Datblygiad
    Mae cyrsiau yn para am dymor ac yn amrywio rhwng egwyddorion cynllunio ymchwil, darllen academaidd a dehongli a dadansoddi testunau hyd at sgiliau trosglwyddadwy a datblygiad personol. Mae’r cyrsiau yn rhan o’r rhaglen sydd wedi’i dynodi ar gyfer myfyrwyr ymchwil penodol, ond gall myfyrwyr eraill ymuno.
  4. Dysgu Gydol Oes
    Bydd cyrsiau yn para am dymor fel arfer a chynigir gostyngiad da ar gyfer myfyrwyr cofrestredig. Yn cynnwys cyrsiau ieithoedd megis Ffrangeg, Y Gymraeg a Sbaeneg.
  5. Rhaglen Datblygiad Proffesiynol Parhaus a drefnir gan y Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd
    Gall uwchraddedigion ddilyn rhai cyrsiau Datblygu Staff os bydd lle ar gael, ond rhoddir blaenoriaeth i staff.             
  6. Rhaglen Datblygiad Proffesiynol Staff Ymchwil ar Gontract a  Staff Ôl-ddoethurol
    Ystod o sesiynau sgiliau undydd ar gyfer staff ôl-ddoethurol. Eto, gall uwchraddedigion fynychu cyrsiau os bydd lle ar gael, ond rhoddir blaenoriaeth i staff Ymchwil ar Gontract.
  7. Gwasanaethau Gwybodaeth
    Mae’r GG yn cynnig sesiynau rhad ac am ddim i fyfyrwyr Aberystwyth gan fanteisio ar y cyfleusterau a’r gwasanaethau a gynigir ganddynt ac yn cynnwys sesiynau ar EndNote, Word ac Excel.
  8. Arferion Astudio a Sgiliau Academaidd, Swyddfa Cymorth i Fyfyrwyr
    Cynigir ystod o raglenni, nifer ohonynt wedi’u cynllunio ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol, gan gynnwys cyrsiau a gweithdai yn Saesneg at ddibenion academaidd. 
  9. Rhaglen Ysgrifennu Ymchwil
    Cynlluniwyd y rhaglen ysgrifennu ymchwil er mwyn dod â myfyrwyr PhD yr 2il a’r 3edd flwyddyn at ei gilydd i drafod agweddau ar ysgrifennu ac ymchwil gyda golwg ar gwblhau eu traethodau ymchwil. Mae’n cynnwys gweithdai, cyflwyniadau a dosbarthiadau tiwtorial gyda phwyslais ar drafod. Fe’i cynhelir ddwywaith y flwyddyn: cwrs preswyl yn y gwanwyn yn Neuadd Gregynog ger y Drenewydd; ac ysgol ysgrifennu ar y campws yn yr haf.
  10. Dulliau Ymchwil Uwch (ARMs)
    Dysgir y methodolegau uwch hyn yn y gwyddorau cymdeithasol a’r dyniaethau gan bobl sydd â phrofiad uniongyrchol o’u defnyddio ac sydd wedi cael profiad o’r problemau sy’n codi  yn ystod eu gwaith ymchwil eu hunain. Dyma rai pecynnau o’r gorffennol: ‘Grounded Theory’; ‘Designing and Managing Focus Groups’; and ‘Qualitative Linguistic and Text Analysis’.
  11. Awduron Preswyl y Gronfa Lenyddol Frenhinol
    Nod y Gymrodoriaeth Ysgrifennu yw cynorthwyo myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth i wella eu sgiliau ysgrifennu. Mae’r Cymrodyr yn Aberystwyth yn cynnig tiwtorial personol hyd at awr o hyd. Mae’r rhain yn rhad ac am ddim ac yn gwbl gyfrinachol.
  12. Tystysgrif Uwchraddedig Addysgu mewn Addysg Uwchducation
    Mae Prifysgol Aberystwyth yn datblygu hyfforddiant achrededig i fyfyrwyr uwchraddedig ar gyfer y rheiny sy’n dymuno datblygu eu sgiliau dysgu a gwella eu dealltwriaeth o ymarfer myfyriol.

Cyfleoedd Hyfforddiant Allanol

  1. Cyrsiau’r rhaglen Vitae
    Byddai’n dda o beth ichi ystyried gwneud cwrs Vitae. Mae’r rhain yn amrywio rhwng awr a 5 diwrnod, ac yn digwydd ledled y DU (yn cynnwys GRADSchool drwy gyfrwng y Gymraeg). Mae nifer o’r sesiynau undydd yn rhad ac am ddim ac mae’r GRADSchools 3-5 diwrnod yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr a noddir gan Gynghorau Ymchwil
  2. Sesiynau hyfforddiant gan gyrff proffesiynol  
    Edrychwch yn rheolaidd ar wefan y corff proffesiynol neu’r gymdeithas ddysgedig yr ydych yn aelod ohonynt ar gyfer cyrsiau
  3. Hyfforddiant gan Gynghorau Ymchwil

Mae’r Cynghorau Ymchwil yn cynnig nifer o gyrsiau, gweithdai, cynadleddau a digwyddiadau, sy’n canolbwyntio’n bennaf ar ddulliau ymchwil. Edrychwch ar wefan y Cyngor Ymchwil y mae eich disgyblaeth neu eich ymchwil yn perthyn iddo:

  1. Cynllun Ymchwilwyr Preswyl
    Mae’r rhaglen hon, sydd ar gael ar gyfer myfyrwyr a noddir gan Gynghorau Ymchwil, yn gwella profiad myfyrwyr ysgolion uwchradd yn yr ystafell ddosbarth drwy osod ymchwilwyr uwchraddedig mewn ysgolion. Mae’n gyfle i uwchraddedigion: feithrin sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr a’u rhoi ar waith; gwneud gweithgareddau allgymorth, gan rannu eu brwdfrydedd am ymchwil â’r genhedlaeth nesaf; a chael profiad yn yr ystafell ddosbarth.
  2. Unrhyw gyrsiau allanol priodol eraill