Rhaglen Gyflwyno i Uwchraddedigion

Croeso i Astudiaethau Uwchraddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae gan y Brifysgol enw da i’w chwennych o ran ansawdd ei darpariaeth academaidd a phrofiad ei myfyrwyr. Rydym yn hyderus y byddwch yn mwynhau eich cyfnod yma ac yn cael eich ysbrydoli. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i’ch cyflwyno i Ysgol y Raddedigion ac yn arbennig i’r gefnogaeth y mae’r Brifysgol yn ei chynnig i’w myfyrwyr uwchraddedig.       

Mae’r Brifysgol yn darparu nifer o ddigwyddiadau cynefino canolog.

Dylech fynychu naill ai

  • Cwrs Cyflwyno ar gyfer Uwchraddedigion Ymchwil. Gorfodol ar gyfer pob myfyriwr uwchraddedig ymchwil newydd (PhD, MPhil, ac ati)

neu

Ceir dau ddigwyddiad cyflwyno pellach sy’n orfodol ar gyfer pob myfyriwr uwchraddedig YMCHWIL newydd.

  • Cwrs Cyflwyno Dysgu ar gyfer Uwchraddedigion YmchwilTeaching Induction for Research Postgraduates. Gorfodol ar gyfer pob Myfyriwr Uwchraddedig Ymchwil Newydd (ac uwchraddedigion yr 2il a’r 3edd flwyddyn sy’n bwriadu dysgu am y tro cyntaf).

 

Yn ogystal â gweithgareddau cyflwyno’r Brifysgol, cynhelir cyfarfodydd cynefino yn eich adran academaidd.           

Nod gweithgareddau cyflwyno’r Brifysgol yw eich cyflwyno i’r amrywiaeth o wasanaethau sydd gan y Brifysgol ac sydd ar gael i fyfyrwyr uwchraddedig, yn ogystal â chyflwyno gwybodaeth hanfodol ynghylch cofrestru. Mae’n gyfle hefyd i gwrdd â’ch cyd-fyfyrwyr a rhai o staff y Brifysgol sy’n gyfrifol am astudiaethau uwchraddedig. Yn ogystal â chroeso cynnes, hyderwn y bydd y cyfnod cynefino yn ateb nifer o’r cwestiynau a all fod gennych ynghylch yr hyn sydd i’w ddisgwyl, a’r hyn a ddisgwylir ohonoch chi, fel myfyriwr uwchraddedig yma.                             

Disgwylir i bob myfyriwr uwchraddedig amser llawn newydd fynychu. Mae pob croeso i fyfyrwyr uwchraddedig rhan-amser newydd fynychu yn ogystal, ond nid yw’n orfodol iddynt wneud hynny.

Edrychaf ymlaen i’ch cyfarfod.

Gyda phob dymuniad da,

Yr Athro Colin McInnes
Deon Astudiaethau Uwchraddedig