Rhaglen Ysgrifennu Ymchwil
Cynlluniwyd y rhaglen ysgrifennu ymchwil er mwyn dod â myfyrwyr PhD yn yr 2il a’r 3edd flwyddyn at ei gilydd i drafod agweddau ar ysgrifennu ac ymchwil gyda’r golwg o gwblhau eu traethodau ymchwil.
Trefnir dwy ysgol bob blwyddyn. Yn gronolegol, rhaglen breswyl yw’r gyntaf, a elwir yn Ysgol Ysgrifennu Ymchwil Gregynog. Ceir 2 ddiwrnod o weithdai trafod, cyflwyniadau a dosbarthiadau tiwtorial ac fe’i cynhelir yn Neuadd Gregynog ger Y Drenewydd. Ysgol haf amhreswyl ar y campws yw’r ail ysgol, a elwir yn Ysgol Haf Ysgrifennu Ymchwil ac sy’n cynnwys nifer o sesiynau a drefnir yn ystod wythnos ym Mehefin ar gampws Llanbadarn.
Sut i wneud cais
Gofynnir i adrannau i gyflwyno ceisiadau i'r Swyddfa Astudiaethau Uwchraddedig erbyn dydd Gwener, Ionawr 20fed, 2012. Defnyddiwch y ffurflen gais isod os gwelwch yn dda.