Cwestiynau Cyffredin

Cofrestru ar gyfer Graddio – Dod neu Beidio

Gwybodaeth am y Seremoni

Tocynnau

Eich Gwisg/Gŵn

Diwrnod Graddio

Tystysgrifau Gradd

Gwesteion ac Ymwelwyr

Cofrestru ar gyfer Graddio – Dod neu Beidio

1.    A ydw i’n gymwys i ddod i’r seremoni raddio?

Rydych yn gymwys i ddod i’r seremoni raddio os byddwch wedi cwblhau eich gradd yn llwyddiannus cyn diwedd Mehefin.  Bydd myfyrwyr sy’n cwblhau eu gradd yn llwyddiannus ar ôl dechrau mis Gorffennaf yn gymwys i ddod i’r seremonïau graddio nesaf ym mis Gorffennaf y flwyddyn nesaf.

2.   Sut mae cofrestru ar gyfer graddio?

Cewch ebost yn gofyn i chi fewngofnodi i’ch Cofnod Myfyriwr ar y we i gwblhau’r broses Cofrestru ar gyfer Graddio. Fe welwch fotwm o dan 'Fy Nhasgau' ar dudalen flaen eich Cofnod Myfyriwr erbyn dechrau mis Ebrill.  Os na chewch yr ebost hwn neu os na welwch y dasg ar eich Cofnod Myfyriwr ar y we cysylltwch â ni yn aocstaff@aber.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth.  Mae’n rhaid cwblhau’r dasg Cofrestru ar gyfer Graddio erbyn 30 Ebrill fan bellaf.  Os na fyddwch wedi cwblhau’r broses Cofrestru ar gyfer Graddio erbyn y dyddiad hwn ni fydd modd i ni warantu lle i chi yn y seremoni raddio.

Bydd angen i chi archebu eich gwisg/gŵn a gwneud trefniadau llety ac ati ar wahân. Rhoddir dolenni isod i rai gwefannau defnyddiol:

3.   Beth os nad oes gennyf mynediad i fy Cofnod Myfyriwr ragor?

Mi ddylai bob fyfyriwr a ddysgi’r  fod a mynediad i’w Cofnod Myfyriwr ar y we ar yr amod eich bod yn defnyddio’r un e-bost myfyriwr a chyfrinair fel oedd gennych yn ystod eich cofrestriad.  Os y dyfarnwyd eich gradd ers mis Hydref llynedd, dylech allu cael mynediad i’ch cofnod  a chlicio ar y dasg ‘Graddio’. 

Os byddwch yn gohirio eich graddio o fis Gorffennaf y llynedd , neu ddyfarnwyd i chi eich gradd cyn mis Hydref diwethaf, mae'n bosibl ni fyddwch bellach yn cael mynediad at eich Cofnod Myfyriwr . Os yw hyn yn wir, byddwn yn cysylltu â chi drwy eich cyfrif e-bost preifat a gofyn i chi ddefnyddio dolen bydd yn yr e-bost er mwyn cwblhau eich dewis Graddio. 

Os nad ydych yn derbyn e-bost neu os nad oes gennych fynediad at eich Cofnod Myfyriwr dylech gysylltu aocstaff@aber.ac.uk am fwy o wybodaeth a chymorth bellach.

4.    Beth os nad ydw i am ddod i’r seremoni?

Nid oes raid i chi ddod i’r seremoni.  Cewch raddio in absentia; y cwbl sy’n rhaid i chi ei wneud yw cwblhau’r dasg Graddio ar eich Cofnod Myfyriwr ar-lein pan fydd ar gael.  Mae’n hollbwysig eich bod yn cwblhau’r dasg hon er mwyn i ni wybod bod y manylion a argraffwn ar eich tystysgrif gradd yn gywir a’n bod yn ei phostio i’r cyfeiriad iawn.

5.    Rwyf wedi methu’r dyddiad cau i gofrestru ar gyfer graddio. Beth ddylwn i ei wneud?

Os ydych am ddod i’r seremoni mae’n rhaid i chi gysylltu â ni ar unwaith drwy aocstaff@aber.ac.uk ac fe wnawn ein gorau i ddod o hyd i le i chi a’ch gwesteion, ond mae’n dibynnu faint o le sydd ar ôl yn eich seremoni.  Yn eich ebost i aocstaff@aber.ac.uk rhowch eich enw llawn fel yr hoffech iddo ymddangos ar y dystysgrif, eich cyfeirnod myfyriwr a manylion eich cynllun astudio.  Yn anffodus, os ydych yn cofrestru ar ôl 30 Ebrill ni allwn warantu lle i chi yn y seremoni raddio. 

Os nad ydych am ddod i’r seremoni ond eich bod wedi methu’r dyddiad cau ar 30 Ebrill i roi gwybod i ni, anfonwch ebost i aocstaff@aber.ac.uk ar unwaith.  Bydd angen i chi gadarnhau eich enw llawn fel yr hoffech iddo ymddangos ar y dystysgrif, eich cyfeirnod myfyriwr, manylion eich cynllun astudio a’r cyfeiriad lle’r hoffech i ni bostio eich tystysgrif.

6.    A oes modd i mi ohirio dod i seremoni raddio?

Caiff myfyrwyr nad oes arnynt eisiau dod i seremoni ym mis Gorffennaf eu blwyddyn astudio olaf ohirio am flwyddyn yn unig a gofyn am gael dod i seremoni’r mis Gorffennaf nesaf.  Er mwyn gwneud hynny mae’n rhaid i chi gysylltu ag aocstaff@aber.ac.uk cyn 30 Ebrill i ofyn am gael gohirio.  Os na fyddwch yn gofyn am gael gohirio neu’n gwneud dim byddwch yn awtomatig yn graddio in absentia ac ni chewch ddod i seremonïau yn y dyfodol.

7.    A allaf ddewis pa seremoni yr wyf yn bresennol?

Na, yn anffodus, nid yw'n bosibl i fyfyrwyr ddewis y seremoni ydynt yn dymuno mynychu.

8.    Rwyf eisoes wedi cael fy nhystysgrif gradd. A gaf fi ddod i seremoni serch hynny?

Ar ôl i chi dderbyn eich tystysgrif, ystyrir eich bod wedi graddio in absentia. Mae hynny’n golygu nad ydych mwyach yn fyfyriwr darpar-raddedig ac na fyddwch yn gymwys i raddio yn un o’n seremonïau.

9.    Methais y digwyddiad y llynedd.  A gaf fi ddod i’r digwyddiad hwn?

Os bu i chi gysylltu chi â ni yn aocstaff@aber.ac.uk i ohirio dod i’r seremoni y llynedd byddwch yn gymwys i ddod i’r seremoni raddio nesaf.

Os bu i chi ddweud eich bod yn mynd i fod yn bresennol ac na ddaethoch i’r seremoni byddwch wedi graddio in absentia ac ni chewch ddod i seremoni arall yn y dyfodol.

Os na wnaethoch ddim byd y llynedd ac os na chawsom wybod gennych a oeddech yn bwriadu dod i’r seremoni raddio ai peidio byddwch yn awtomatig wedi graddio in absentia.  

10.   Mae’n bosib bod arna i arian i’r Brifysgol o hyd. A gaf fi ddod i’r seremoni?

Os oes arnoch chi arian ffioedd i’r Brifysgol ni chewch dod i’r seremoni raddio, graddio in absentia na derbyn eich tystysgrifhyd nes y byddwch wedi talu eich dyledion.  Os nad ydych yn siŵr a oes arnoch arian i’r Brifysgol fe’ch cynghorir i gysylltu â’r Swyddfa Ffioedd yn ffioedd@aber.ac.uk.   

Mae'n rhaid i chi sicrhau eich bod wedi talu eich holl ddyledion erbyn diwedd mis Mai.

11.   Sut mae cael llythyr i gael fisa i ddod i'r seremoni raddio?

Ein Cynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol (e-bost: immigrationadvice@aber.ac.uk) sy’n ymdrin â llythyron gwahoddiad i seremonïau graddio.  Cynigir y gwasanaeth hwn i fyfyrwyr yn unig sydd wedi gadael y DU ond sydd am ddychwelyd i Aberystwyth i ddod i’w seremoni raddio ym mis Gorffennaf.  Ni all y Brifysgol ddarparu llythyrau gwahoddiad i deulu/ffrindiau darpar-raddedigion. Dylai teulu a ffrindiau wneud cais am ‘fisa ymweld cyffredinol’.  Gweler yma https://www.gov.uk/standard-visitor-visa am ragor o wybodaeth.

 

Gwybodaeth am y Seremoni

1.    Pryd y cynhelir y seremonïau?

Bydd manylion y seremonïau ar gael tua diwedd mis Chwefror drwy dudalen Trefn y Seremonïau ar y we.

2.    Ym mha seremoni y mae fy nghynllun astudio?

Erbyn dechrau mis Mawrth mi fydd rhestr o Cynlluniau Astudio yn dangos y Seremoni Raddio ar lein.

3.    Ble mae’r seremonïau’n cael eu cynnal?

Cynhelir yr holl seremonïau yn y Neuadd Fawr yng Nghanolfan y Celfyddydau ar Gampws Penglais yn Aberystwyth.
(http://www.aber.ac.uk/cy/maps-travel/maps/penglais/)

4.    Beth yw’r trefniadau eistedd yn y seremoni?

Caiff y trefniadau eistedd eu cynllunio’n ofalus er mwyn i chi gyrraedd y llwyfan wrth i’ch enw gael ei alw.  Bydd tîm o staff wrth law i’ch helpu i ddod o hyd i’ch sedd. Ar ôl i chi ddod o hyd i’ch sedd, peidiwch â newid sedd ag unrhyw un arall, oherwydd gallai hynny olygu bod yr enw anghywir yn cael ei alw pan fyddwch ar y llwyfan.

5.    Beth os nad ydw i am ddod i’r seremoni?

Nid oes raid i chi ddod i’r seremoni.  Cewch raddio in absentia; y cwbl sy’n rhaid i chi ei wneud yw cwblhau’r dasg Graddio ar eich Cofnod Myfyriwr ar-lein pan fydd ar gael.  Mae’n hollbwysig eich bod yn cwblhau’r dasg hon er mwyn i ni wybod bod y manylion a argraffwn ar eich tystysgrif gradd yn gywir a’n bod yn ei phostio i’r cyfeiriad iawn.

6.    Nid yw dyddiad fy seremoni’n gyfleus. A gaf fi ddod i seremoni arall?

Yn anffodus, nid yw’n bosib newid dyddiad eich seremoni. Os na allwch ddod ar y dyddiad a bennwyd byddwch yn graddio in absentia.

 

Tocynnau

1.    Sawl tocyn i westeion fydd ar gael i mi?

Bydd pob myfyriwr darpar-raddedig sydd wedi cofrestru i ddod i’r seremoni yn cael dau docyn i westeion. Bydd mynediad i'r seremoni ar gyfer yr holl westeion trwy docyn yn unig.  Nid oes angen tocyn ar y myfyrwyr darpar-raddedig cewch sedd yn y seremoni cyhyd â’ch bod wedi cwblhau’r dasg Graddio ar eich Cofnod Myfyriwr erbyn 30 Ebrill.

2.    Ble fydda i’n casglu fy nhocynnau?

Bydd tocynnau eich gwesteion ar gael i’w casglu pan gofrestrwch wrth y Ddesg Gofrestru yn y Stiwdio Berfformio yng Nghanolfan y Celfyddydau ar ddiwrnod eich seremoni.

3.    Beth os oes arnaf eisiau mwy na dau docyn i westeion?

Rhagwelir y gallai fod nifer fach o docynnau ar gael ar gyfer rhai seremonïau ar ôl i’r holl ddarpar-raddedigion gofrestru.  Bydd unrhyw docynnau sbâr yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin.  Bydd gofyn i chi i gwblhau tasg ar eich 'Cofnod Myfyriwr' i gofrestru eich cais am DDAU docyn ychwanegol.  Bydd y dasg yn mynd yn fyw am 9 y bore ar 4 Mai ac y bydd ar gael am tua 11 diwrnod.  Byddwn yn anfon e-bost atoch ar ddechrau mis Mai gyda gwybodaeth bellach am sut yr ydych yn gwneud cais am docynnau ychwanegol. Dylech nodi, fodd bynnag, y bydd unrhyw 'Tocynnau Ychwanegol' yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin, felly, anogir y myfyrwyr i gwblhau'r dasg 'Tocynnau ychwanegol' cyn gynted ag y bo modd.

Er mai nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar gael i’r Neuadd Fawr, gallwch ddod â rhagor o deulu a ffrindiau gyda chi i’r digwyddiad, oherwydd, bydd y seremoni’n cael ei ffrydio’n fyw i Sinema Canolfan y Celfyddydau, ac ar sgriniau yn Undeb y Myfyrwyr.  Felly hyd yn oed os nad oes modd i’ch teulu a’ch ffrindiau gael tocyn ychwanegol, byddant yn dal i allu bod yn rhan o’ch diwrnod arbennig. 

 

 

Eich Gwisg/Gŵn

1.    Oes raid i mi wisgo gwisg/gŵn i’r seremoni?

Oes.  Er mwyn cael dod i’r seremoni mae’n RHAID i chi wisgo gwisg/gŵn.  Os na fyddwch yn gwisgo gwisg/gŵn ni chewch ddod i’r seremoni.

2.    Oes angen i mi archebu gwisg/gŵn cyn y seremoni raddio?

Oes.  Mae’n rhaid i chi archebu eich gwisg/gŵn cyn y seremoni er mwyn sicrhau y bydd un ar gael i chi ar y diwrnod.  I archebu eich gwisg/gŵn ewch i Gŵn ar y wefan hon.

3.    Pryd fydda i’n casglu fy ngwisg/gŵn?

Byddwch yn casglu eich gwisg/gŵn ar ddiwrnod eich seremoni.  Bydd staff wrth law i ddangos i chi ble mae’r ardal wisgo.  Bydd y gwisgoedd/gynau ar gael o 8.30am, yn yr Adeilad Parry Williams (TFTS). Cewch gasglu eich gŵn ar unrhyw adeg yn ystod y diwrnod - dylwch nodi er ein bod yn awgrymu i chi wneud hyn nid oes rhaid i chi fod yn eich gŵn ar gyfer yr ymarfer. Rhaid ei ddychwelyd erbyn 6.30pm.

4.    Beth fydd ei angen arnaf er mwyn casglu fy ngwisg/gŵn?

Bydd angen cadarnhad o’r archeb neu’r cerdyn cydnabod, os yw’r cwmni gwisgoedd wedi anfon un atoch.

5.    Sut mae gwisgo fy nghap a’m gwisg?

Bydd y staff gwisgoedd wrth law i’ch helpu ac i wneud yn siŵr eich bod wedi’ch gwisgo’n iawn.  Er mwyn i chi fod yn gyfforddus ac am resymau ymarferol rydym yn argymell eich bod yn gwisgo top neu grys-t â botymau sy’n cau hyd at y gwddf, oherwydd bydd hynny’n ei gwneud yn haws rhoi eich cwfl yn sownd.  Byddai’n dda o beth hefyd dod â chlipiau gwallt i gadw’r cap yn ei le.

 

Diwrnod Graddio

1.    Pryd ddylwn i gyrraedd ar y diwrnod?

Dylech gyrraedd yn ddigon cynnar i gael amser i gofrestru a chasglu eich gwisg heb orfod rhuthro.  Cofiwch y bydd yn ddiwrnod prysur ac efallai y bydd yn rhaid i chi aros i gofrestru a chasglu eich gwisg.  Mae cofrestru ar gyfer y seremonïau bore ar agor o 8:30am a chofrestru ar gyfer seremonïau'r prynhawn ar agor o 11:30am.

2.    Pryd mae angen i mi fod yn y Neuadd Fawr?

Gofynnir i chi ddod i’r ymarferion yn y Neuadd Fawr am 9.30am ar gyfer seremoni’r bore a 1.30pm ar gyfer seremoni’r prynhawn.  Gwnewch yn siŵr eich bod yn eich sedd ar gyfer y seremoni ei hun o leiaf 15 munud cyn dechrau’r seremoni.

3.    Beth wnaf fi gyntaf?   

Y peth cyntaf i’w wneud fydd cofrestru.  Gallwch wneud hynny yn y Stiwdio Berfformio yng Nghanolfan y Celfyddydau. 

4.    Beth ddylwn i ei wneud os ydw i'n hwyr?  

Os byddwch yn cyrraedd yn hwyr ac rydych wedi colli cofrestru dylech fynd draw i'r Ddesg Gofrestru ar unwaith lle bydd staff wrth law i helpu.

5.    Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn cofrestru?

Wrth gofrestru cewch gerdyn adnabod a’ch enw a rhif eich sedd arno, ticed i gasglu eich tystysgrif gradd ynghyd â'ch tocynnau gwesteion.  Cadwch eich cerdyn adnabod yn ddiogel oherwydd bydd angen i chi ei roi i’r Prif Farsial wrth i chi fynd i’r llwyfan i dderbyn eich gradd yn y seremoni.

6.    Ble a phryd ddylwn i gasglu fy nghap a’m gwisg/gŵn?

Dylai myfyrwyr darpar-raddedig sy’n derbyn gradd Aberystwyth logi eu Gwisg Academaidd o J. Wippell's and Company – gweler Gŵn ar y wefan hon i gael rhagor o wybodaeth. Bydd yr ystafell wisgo ar agor o 8.30am ar ddiwrnod pob seremoni. 

7.    Sut fydda i’n gwybod beth i’w wneud yn ystod y seremoni?

Rydym yn cynnal ymarferion ar gyfer pob seremoni yn y Neuadd Fawr.  Gofynnir i chi ddod i’ch ymarfer am:

*  9.30am ar gyfer seremonïau’r bore

*  1.30pm ar gyfer seremonïau’r prynhawn

Mae’n hollbwysig bod pob myfyriwr darpar-raddedig yn dod i’r ymarfer er mwyn cael gwybod beth yw trefn y seremoni.  Mae’r ymarferion yn para tua hanner awr.  Gwnewch yn siŵr eich bod yn eistedd yn y sedd iawn fel y’i dangosir ar eich cerdyn adnabod y byddwch wedi’i gasglu wrth gofrestru.

Bydd toriad rhwng yr ymarfer a'r seremoni lle byddwch yn gallu gadael y Neuadd Fawr i ail-ymuno hefo'ch teulu ac eich ffrindiau.

8.    A gaf fi ddewis ble i eistedd yn y seremoni?

Na chewch.  Mae’n bwysig eich bod yn eistedd yn y sedd a glustnodwyd i chi.  Dangosir rhif eich sedd ar eich cerdyn adnabod a roddir i chi wrth gofrestru.  Mae’n bwysig cadw’r cerdyn yn ddiogel oherwydd gofynnir i chi ei roi i’r Prif Farsial cyn i chi fynd ar y llwyfan.  Os nad ydych yn siŵr ym mha sedd y dylech eistedd bydd aelod o’r staff wrth law i’ch helpu.

9.    Beth fydd ei angen arnaf yn y seremoni?

Bydd yn rhaid i chi fod wedi’ch gwisgo’n briodol yn eich gwisg.  Gwnewch yn siŵr bod eich cerdyn adnabod gennych (cewch hwn wrth gofrestru); bydd yn rhaid i chi ei roi i’r Prif Farsial cyn mynd ar y llwyfan.

Cofiwch na fyddwch o reidrwydd yn mynd yn ôl i’r un sedd ar ôl cael eich gradd.  Felly gwell fyddai peidio mynd â bagiau llaw, camerâu ac ati gyda chi i’r seremoni.

10.    Beth fydd yn digwydd yn y seremoni?

Yn y seremoni, cewch eich “cyflwyno” i’r Is-Ganghellor gan Gyflwynydd a fydd yn darllen eich enw ac enwau eich cyd-fyfyrwyr sy’n derbyn yr un radd. Pan glywch eich enw, byddwch yn croesi’r llwyfan ac yn ysgwyd llaw â’r Is-Ganghellor. Yna byddwch yn mynd yn ôl i eistedd. Pan fydd pawb wedi cael y radd benodol honno, gofynnir i chi sefyll a derbyn Cyfarchion Is-Ganghellor y Brifysgol.

Y Drefn:

  • Bydd Marsial yn dod i’ch nôl chi a’ch grŵp o’ch seddi pan fydd yn bryd i chi fynd ar y llwyfan i’ch cyflwyno i’r Is-Ganghellor.
  • Dilynwch y Marsial ac arhoswch gyda’ch grŵp.
  • Bydd y Cyflwynydd yn darllen enwau’r myfyrwyr i gyd.
  • Pan glywch eich enw byddwch yn cerdded tuag at yr Is-Ganghellor ac yn ysgwyd ei llaw.
  • Bydd y Marsialiaid yn mynd â chi’n ôl i eistedd.

Pan fydd pawb wedi’u cyflwyno ar gyfer gradd benodol (e.e. pob ymgeisydd BA), gofynnir i’r holl raddedigion sefyll i dderbyn eu gradd gan yr Is-Ganghellor a derbyn Cyfarchion Llywydd y Brifysgol.

11.   A gaf fi adael cyn gynted ag y byddaf wedi derbyn fy ngradd?

Heblaw mewn argyfwng, mae disgwyl i’r graddedigion (myfyrwyr) aros yn eu seddi drwy gydol y seremoni.

12.   Am ba hyd y bydd y seremoni’n para?

Bydd y seremoni’n para tuag 1 awr ac 20 munud.  Mae ymarfer 30 munud cyn pob seremoni lle mae’n rhaid i’r darpar-raddedigion fod yn bresennol.

13.   Sut mae cael rhaglen i gofio’r digwyddiad a faint maen nhw’n ei gostio?

Bydd rhaglenni wedi’u hargraffu ar gael i chi wrth gofrestru ac wrth fynedfeydd y Neuadd Fawr.  Maent am ddim i’r graddedigion a’u gwesteion.

14.   A gaf fi gasglu fy nhystysgrif ar y diwrnod?

Cewch.  Cyhyd â’ch bod wedi cofrestru i ddweud eich bod yn dod cyn 30 Ebrill, bydd eich tystysgrif yn aros i chi ei chasglu ar ôl i chi raddio yn Adeilad Parry Williams.

15.   Beth fydd yn digwydd ar ôl y seremoni?

Yn syth wedi’r seremoni, fe’ch gwahoddir i ymgynull ar risiau La Scala, y tu allan i Ganolfan y Celfyddydau, ar gyfer lluniau adrannol. Bydd yr adeiladau ar y campws yn agored ac mae croeso i ymweld â'r adrannau yn ystod y diwrnod. Mae'r rhan fwyaf o adrannau'n cynnal eu derbyniadau eu hunain, naill ai cyn neu ar ôl y seremoni. Bydd eich adran yn cysylltu â chi yn uniongyrchol.

 

Tystysgrifau Gradd

1.    Pryd gaf fi fy nhystysgrif?

Os ydych wedi cofrestru i ddweud eich bod yn dod i’r seremoni bydd eich tystysgrif ar gael i chi ei chasglu ar ôl y seremoni yn Adeilad Parry Williams. 

Os ydych wedi cofrestru i ddweud na fyddwch yn dod i’r seremoni caiff eich tystysgrif ei phostio i’r cyfeiriad cartref sydd ar eich Cofnod Myfyriwr ymhen 6 wythnos i’r seremoni raddio.

2.    I ble y caiff fy nhystysgrif ei phostio os dewisaf beidio â dod i’r seremoni?

Caiff y dystysgrif ei phostio i’r cyfeiriad cartref sydd ar eich Cofnod Myfyriwr ddiwedd mis Gorffennaf.  Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio manylion eich cyfeiriad cyn diwedd mis Mehefin er mwyn sicrhau ein bod yn ei phostio i’r cyfeiriad iawn.

3.    Anghofiais gasglu fy nhystysgrif. Beth nawr?

Peidiwch â phoeni, caiff tystysgrifau sydd heb eu casglu eu postio i’ch cyfeiriad cartref sydd ar eich Cofnod Myfyriwr.  Gall gymryd hyd at 6 wythnos i ni bostio’r tystysgrifau.

4.    Mae 6 wythnos ers y seremoni a dyw fy nhystysgrif ddim wedi cyrraedd eto.

Ebostiwch eich manylion i adran Dystysgrifau’r Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion yn aocstaff@aber.ac.uk.

5.    Mae fy nhystysgrif ar goll neu wedi ei dinistrio. Sut mae cael un arall yn ei lle?

Prifysgol Aberystwyth

Gall graddedigion a chanddynt radd Prifysgol Aberystwyth o 2010 ymlaen gael tystysgrif newydd drwy gofrestru yn digitalcertificates.aber.ac.uk

Prifysgol Cymru

Gall graddedigion a chanddynt radd Prifysgol Cymru gael tystysgrif newydd drwy gysylltu â Chofrestrfa Prifysgol Cymru.  Cewch wybod sut i gael eich tystysgrif drwy glicio ar y ddolen Tystysgrifau Newydd.

 

Gwesteion ac Ymwelwyr

1.    Ble mae’r seremoni’n cael ei chynnal?

Cynhelir y seremoni ar brif Gampws Penglais y Brifysgol yn y Neuadd Fawr yng Nghanolfan y Celfyddydau.  Gweler mapiau a theithio

2.    Ble y dylen ni gasglu ein tocynnau i westeion?

Mae'r tocynnau gwesteion yn cael eu rhoi i'r myfyrwir ddarpar-raddedig pan fyddant yn cofrestru gyda'r Ddesg Gofrestru Graddio cyn y seremoni.  Bydd presenoldeb yn y seremoni trwy docyn yn unig, fodd bynnag, gall gwesteion yn dal i ddod draw i fwynhau'r diwrnod gan fod yr holl seremonïau yn cael eu ffrydio'n fyw ar sgriniau mawr yng Nghanolfan y Celfyddydau Sinema ac Undeb y Myfyrwyr.  

3.    A gaf fi a’m gwesteion dynnu lluniau yn ystod y seremoni?

Cewch, cewch chi a’ch gwesteion dynnu lluniau yn ystod y seremoni.

4.    Ble fydda i a’m gwesteion yn parcio?

Bydd staff gwasanaethau’r campws wrth law i gyfeirio ymwelwyr at y meysydd parcio ar y campws.  Caiff rhan o faes parcio Canolfan y Celfyddydau ei neilltuo i ddeiliaid trwydded anabl.  Bydd gwasanaeth bws mini ar gael i ymwelwyr sy’n parcio yn y meysydd parcio sydd bellaf oddi wrth Ganolfan y Celfyddydau.

5.    A oes darpariaeth i westeion anabl?

Gofynnir i fyfyrwyr y mae gan eu gwesteion ofynion arbennig gwblhau’r adran 'Gofynion Arbennig’ yn nhasg Graddio’r Cofnod Myfyriwr yn ystod mis Ebrill, a rhoi cymaint o wybodaeth ag y gallant er mwyn i ni sicrhau ein bod yn gwneud trefniadau priodol. Bydd aelod o staff y Brifysgol hefyd yn cysylltu â chi yn nes at yr adeg y seremonïau i gadarnhau'r trefniadau.  Dylai myfyrwyr sy’n cael trafferth agor y dasg hon gysylltu ag aocstaff@aber.ac.uk a rhoi manylion y gofynion arbennig.

6.    Beth fydd yn digwydd ar ôl y seremoni?

Yn syth wedi’r seremoni, gwahoddir myfyrwyr i ymgynull ar risiau La Scala, y tu allan i Ganolfan y Celfyddydau, ar gyfer lluniau adrannol. Bydd yr adeiladau ar y campws yn agored ac mae croeso i ymweld â'r adrannau yn ystod y diwrnod. Mae'r rhan fwyaf o adrannau'n cynnal eu derbyniadau eu hunain, naill ai cyn neu ar ôl y seremoni. Bydd eich adran yn cysylltu â chi yn uniongyrchol.

7.    Mae angen llety ar fy ngwesteion.

Ewch i adran  Llety Dros Nos y wefan.

8.    A oes lleoedd i fwyta?

Mae sawl lle i fwyta ar y campws ac yn y dref.  Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.