Gwybodaeth i Uwchraddedigion
1. Pryd fyddaf yn derbyn gwybodaeth?
Nodwch NA FYDDWN yn anfon unrhyw wybodaeth drwy’r post, felly mae’n hanfodol i chi ddarparu cyfeiriad e-bost dilys os ydych yn dymuno cael yr holl wybodaeth berthnasol am y seremoni raddio. Gofynnwn i chi e-bostio eich cyfeiriad cyfredol at graduation.office@aber.ac.uk cyn gynted â phosib. Os na wnewch, ni fyddwch yn cael y wybodaeth angenrheidiol parthed eich seremoni raddio.
Byddwn yn e-bostio manylion pellach ynglŷn â’r seremoni ym mis Mawrth/Ebrill. Bydd yr e-bost yn cynnwys gwybodaeth am sut i archebu eich gŵn a thocynnau ar gyfer eich gwesteion, a dolenni ar gyfer llety yn ein neuaddau preswyl, ffotograffau, crysau-t ac ati. Byddwch yn derbyn gwybodaeth os ydych wedi cysyllu a ni.
Bydd angen i chi gadarnhau eich bod yn dod i’r seremoni, ac archebu tocynnau ar gyfer eich gwesteion, erbyn 10 Mehefin. Os na fyddwch yn cadarnhau erbyn y dyddiad hwn ni fydd modd i chi fynychu’r seremoni eleni.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth bellach am bob agwedd ar y seremonïau graddio ar ein gwefan yn: http://www.aber.ac.uk/cy/graduation/students/faqs/
2. Pryd allai ddefnyddio'r credlythyrau ar ôl fy enw? (e.e. Joe Bloggs, BA; Dr Joe Bloggs, PhD; ayyb)
Os byddwch yn cymhwyso ar gyfer eich gradd drwy fodloni’r arholwyr, y bydd rhaid i chi gael eich derbyn iddi yn ffurfiol cyn y gallwch dderbyn tystysgrif gradd neu ddefnyddio’r llythrennau priodol ar ôl eich enw. Gallwch ddewis gael eich derbyn i’r radd mewn un o ddwy ffordd:
naill ai
(i) drwy fod yn bresennol mewn cynulliad gradd ffurfiol, mewn gwisg academaidd ffurfiol, ac y mae’n bosibl i
rieni/partneriaid fod yn bresennol. Mae cynulliadau yn cael eu cynnal unwaith y flwyddyn ym mis Gorffennaf
neu
(ii) in absentia drwy orchymyn Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth. Gweithdrefn weinyddol yw hon ac ni fyddwch
yn bresennol. Nodwch os ydych yn cael eich derbyn in absentia ni chewch wedyn ddewis i raddio mewn cynulliad
graddio yn ddiweddarach. Bydd tystysgrifau yn cael eu hanfon cyn gynted â phosibl ar ôl cynulliadau graddio,
fel rheol ymhen dau fis ar ôl dyddiad y cynulliad.
3. Pryd mae'r Seremoniau?
Mae myfyrwyr Israddedigion ac Uwchraddedigion yn graddio yn yr un seremoni (gweler Trefn y Seremoniau)