Gŵn

Cyn y Seremoni

Bydd y gŵn yr ydych wedi ei archebu ar gael yn yr ystafell arwisgo yn Adeilad Parry Williams (Adran Theatr, Ffilm a Theledu) cyn i'r seremoni ddechrau a dylid ei ddychwelyd yno ar ôl y seremoni.  Bydd yr ystafell ar agor o 8.30am ymlaen, a dylid ei ddychwelyd erbyn 6pm.

Tu fewn i'ch gwisg bydd tocyn yn dwyn enw a rhif cyfeirnod.  Ni ddylid ei symud o dan unrhyw ymgylchiadau, oherwydd bydd ei angen pan fyddwch yn dychwelyd eich gŵn. Os yw'r tocyn yn dod yn rhydd, dywedwch wrth un o staff  y cwmni gŵn.

Sut i Wisgo

Gwisgwch yn gyfforddus.  Mae'n syniad da gwisgo top, crys neu flows sydd yn botymu i'r gwddwg, gan ei fod yn haws cadw'r cwfwl yn ei le.  Dewis arall yw pin cau.  Falle byddwch yn gweld e'n haws, os oes gennych wallt hir, i ddod â chlipiau gwallt i ddal y cap yn ei le.  Os oes arnoch angen gwisg mwy o faint, neu lai, na'r cyffredin, gwnewch yn sicr eich bod yn dweud hyn pan yn archebu gyda'r cwmni gŵn.