Croeso
Mae Hanes wedi cael ei ddysgu fel pwnc ym mhrifysgolion Prydain ers canrif a mwy. Sefydlwyd y Brifysgol yn Aberystwyth yn 1872 a dysgwyd Hanes yma o’r cychwyn cyntaf.
Mae’r Adran yn cael ei chydnabod yn un o’r prif adrannau Hanes ym Mhrydain.
Mae canlyniadau ardderchog yr Adran yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr yn ddiweddar yn brawf o’i hymrwymiad i ddysgu yn ogystal â rhagoriaeth mewn ymchwil.
Mae mwy nag ugain o ddarlithwyr yn yr Adran, ac mae eu harbenigedd o ran dysgu ac ymchwil yn eang. I gael gwybod mwy am waith yr adran, o ran ei gwaith dysgu ac ymchwil, dilynwch y dolenni ar y tudalennau hyn.

