Canolfan Hanes Meddygaeth

Mae’r Ganolfan Hanes Meddygaeth yn darparu ffocws o fewn i’r Adran Hanes a Hanes Cymru ar gyfer ymchwilio i hanes meddygaeth a meysydd cytras megis hanes gwyddoniaeth a thechnoleg. Dyma’r unig ganolfan o’r fath yn unrhyw brifysgol yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae’r Ganolfan yn tynnu ynghyd gryfderau ymchwil sy’n bodoli eisoes yn y maes hwn yn yr Adran a’r Brifysgol gan ddarparu cyd-destun sefydliadol ar gyfer ymchwil yr Adran i hanes gwyddoniaeth, technoleg a meddygaeth. Dyma hefyd gartref MA Hanes Meddygaeth yr Adran.

Pwrpas y Ganolfan yw:

  • Hyrwyddo ymchwil newydd i hanes meddygaeth a meysydd cysylltiedig. 
  • Cynnal ystod o weithgareddau megis cynadleddau, seminarau a gweithdai i godi proffil ymchwil yn hanes meddygaeth a meysydd cysylltiedig yn y Brifysgol a ledled Cymru.                         
  • Darparu cyd-destun ar gyfer dod o hyd i gyfleoedd cyllid cydweithredol yn hanes meddygaeth a meysydd cysylltiedig ymchwil hanesyddol.  
  • Datblygu mentrau newydd i gyflwyno myfyrwyr israddedig ac uwchraddedig i hanes meddygaeth a meysydd cysylltiedig.                  

Mae’r tîm craidd sy’n ymchwilio i hanes meddygaeth a meysydd cysylltiedig yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru yn cynnwys Yr Athro Phillipp Schofield, Dr. Iwan Rhys Morus, Dr. Martyn Powell, Dr. Owen Roberts a Dr. Stephen Thompson. Mae’r cyfnodau y mae’r diddordeb ymchwil yn hanes meddygol a gwyddonol yn perthyn iddynt yn amrywio o’r cyfnod canoloesol i’r cyfnod modern. Er mai yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru y lleolir y Ganolfan Hanes Meddygaeth, mae’n ceisio annog diddordeb a gweithgaredd yn hanes meddygaeth a meysydd cysylltiedig ar draws y Brifysgol ac yn ceisio datblygu prosiectau ymchwil cydweithredol a rhyngddisgyblaethol gydag ymchwilwyr yn y maes mewn prifysgolion eraill yng Nghymru a thu hwnt.