Dr Martyn Powell yw Golygydd Cyffredinol Eighteenth Century Ireland
09 August 2011
Dr Martyn Powell yw golygydd newydd Eighteenth-Century Ireland /Iris an dá chultúr. Ef yw’r golygydd cyntaf nad yw’n Wyddel o’r cyfnodolyn rhyngddisgyblaethol, dwyieithog (Gwyddeleg a Saesneg) hwn a gychwynnwyd yn 1986. Mae’r cyfnodolyn yn canolbwyntio ar astudio Iwerddon yn y ddeunawfed ganrif a chyhoeddwyd ynddo erthyglau gan rai o’r haneswyr a’r beirniaid llenyddol mwyaf amlwg sy’n gweithio ym maes astudiaethau Gwyddelig, gan gynnwys Seamus Deane, Louis Cullen, Joep Leerssen, James Kelly a Thomas Bartlett. Fe’i cyhoeddir dan nawdd yr Eighteenth-Century Ireland Society / Cumann Éire san Ochtú Céad Déag. Yn 2011, cynhelir y gynhadledd flynyddol ar y cyd â’r Trim Swift Festival ar 1-3 Gorffennaf.
Nôl i'r brig