Dwy Ysgoloriaeth PhD ar y wasg Prydain yn yr Ail Ryfel Byd
16 May 2011
Mae Adran Hanes a Hanes Cymru ac Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth yn gwahodd ceisiadau am ddwy ysgoloriaeth PhD wedi’u hariannu’n llawn a fydd yn cychwyn ym mis Medi 2011, fel rhan o Brosiect Ymchwil Ymddiriedolaeth Leverhulme ym maes ‘Hanes cymdeithasol a diwylliannol y wasg Brydeinig yn ystod yr Ail Ryfel Byd’.
Y prosiect hwn fydd yn darparu’r astudiaeth gritigol lawn gyntaf o’r wasg Brydeinig yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Bydd yn pwyso a mesur rôl y wasg yn ei chyd-destun cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol ehangach, yn gosod y wasg ar adeg y rhyfel yng nghyd-destun diwylliant cenedlaethol ehangach o ddarparu newyddion, gwybodaeth ac adloniant, ac yn asesu sut bu i newidiadau yn y berthynas rhwng y wasg, cyfryngau eraill a’r gymdeithas yn ystod y rhyfel ragflaenu datblygiad dulliau cyfathrebu torfol ym Mhrydain ar ôl y rhyfel. Mae’r prosiect hwn yn cael ei arwain gan y Dr Sian Nicholas a’r Athro Tom O’Malley.
Bydd Ysgoloriaeth 1 wedi’i lleoli yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru a bydd yn canolbwyntio ar y wasg a diwylliant gwleidyddol cyfnod y rhyfel, gan dalu sylw arbennig i faterion fel hunaniaeth genedlaethol, cyfranogiad, bywyd cysylltiadol, dadleuon ac anghytundeb gwleidyddol ar adeg y rhyfel, ac ailadeiladu. Bydd Ysgoloriaeth 2 wedi’i lleoli yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu a bydd yn canolbwyntio ar rôl ‘feunyddiol’ y wasg yng nghyfnod y rhyfel, gan dalu sylw arbennig i faterion fel dosbarth, rhyw, defnydd (gan gynnwys hysbysebu), hamdden a diwylliant adloniant. O ran y ddwy ysgoloriaeth, bydd gofyn defnyddio cyfuniad o ddadansoddiadau meintiol ac ansoddol o gynnwys papurau newydd, yn ogystal ag ymchwilio mewn archifau perthnasol. Bydd y Dr Nicholas a’r Athro O’Malley yn gweithredu fel cyd-oruchwylwyr ar gyfer y ddwy ddoethuriaeth.
Dylai fod gan ymgeiswyr record israddedig neilltuol ym maes hanes Prydain fodern, astudiaethau’r cyfryngau a chyfathrebu, neu faes perthnasol, a phrofiad ymchwil ar lefel Meistr mewn maes sy’n berthnasol i’r prosiect. Mae’r ysgoloriaethau’n talu’r hyn sy’n cyfateb i ffioedd dysgu’r DU/yr UE a grant cynhaliaeth gwerth £13,590 bob blwyddyn am hyd at dair blynedd o astudiaethau doethurol amser llawn (yn amodol ar gynnydd boddhaol).
Dylech wneud cais drwy ddefnyddio ffurflen gais uwchraddedig safonol y Brifysgol sydd ar gael yn http://www.aber.ac.uk/cy/postgrad/howtoapply/, neu gan y Swyddfa Derbyn Graddedigion, y Ganolfan Croesawu Myfyrwyr, Prifysgol Aberystwyth, Aberystwyth, SY23 3FB, e-bost: pg-admissions@aber.ac.uk. Yn eich cais, dylech nodi enw adran yr ysgoloriaeth y mae gennych ddiddordeb ynddi; ‘Prosiect Leverhulme y Wasg a’r Ail Ryfel Byd: Ysgoloriaeth 1 (neu 2)’ fel teitl y prosiect; ‘Prosiect y Wasg a’r Ail Ryfel Byd’ fel enw’r ysgoloriaeth; ac ‘Ymddiriedolaeth Leverhulme’ fel y corff ariannu; a dylech gynnwys datganiad personol o hyd at 1000 o eiriau yn nodi manylion eich profiad ymchwil a pham eich bod yn addas i gael ysgoloriaeth. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Llun 20 Mehefin 2011. Byddwn yn cynnal cyfweliadau yn ystod yr wythnos sy’n cychwyn ddydd Llun 11 Gorffennaf 2011.
I wneud ymholiad anffurfiol neu i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Dr Sian Nicholas, yr Adran Hanes a Hanes Cymru, Prifysgol Aberystwyth (shn@aber.ac.uk) neu’r Athro Tom O’Malley, yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu (tpo@aber.ac.uk).
Nôl i'r brig