Byw yn ôl y Llyfr
31 January 2011

Lluniau diolch i Cwmni Da TV
Mae aelodau o’r Adran wedi bod yn gweithio ar y gyfres deledu ‘Byw yn ôl y Llyfr’ i S4C.
Roedd y rhaglen boblogaidd yn gosod dau gyflwynydd – Bethan Gwanas a Tudur Owen – yn ôl mewn amser i geisio byw yn ôl cyfarwyddiadau’r llawlyfr Fictorianaidd ‘Cyngor i Bawb ar Bob Peth’. Yn y gyfres bu darlithwyr o Aberystwyth, Iwan Morys ac Owen Roberts, ynghyd â’r cyn-fyfyrwyr ymchwil diweddar Meilyr Emrys a Gwennan Schiavone, yn cynghori ac yn ymddangos o flaen y camera. Bu’n rhaid iddynt wneud amryw o bethau, o gynghori ar wneud bara, i fwynhau teithio Fictorianaidd, ail-greu dathliadau Nadolig y cyfnod, a chymysgu cemegau er mwyn atal dillad rhag mynd ar dân (arbrawf na fuodd yn ofnadwy o lwyddiannus!)









Nôl i'r brig