Ystyriaethau Materol

Neuaddau Preswyl a Llety      

Mae gan Aberystwyth amrywiaeth eang o lety a fydd at ddant pob math o fyfyrwyr uwchraddedig. Gallwch wneud ymholiadau yn y lle cyntaf drwy wasanaeth Llety’r Brifysgol.

Cyllid 

Mae cyllid yn bwnc pwysig i bob myfyriwr uwchraddedig, ac mae cyngor ar ffynonellau a strategaethau ar gael gan yr adran drwy holi amdano. Mae gwybodaeth bellach hefyd ar gael drwy Cyllid a Ffïoedd.

Bwrsariaethau

Mae’r Adran Hanes a Hanes Cymru hefyd yn cynnig nifer o fwrsariaethau MA, rhwng £500 a £1500 i fyfyrwyr MA. Fel arfer, bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus radd israddedig Dosbarth Cyntaf ond heb fedru sicrhau cyllid o ffynonnell arall.


Os hoffech gael eich ystyried ar gyfer bwrsariaeth, dylech wneud cais ffurfiol ar gyfer astudiaethau uwchraddedig i’r Adran yn y ffordd arferol, yn cynnwys llythyr yn gofyn ichi gael eich ystyried. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 18 Gorffennaf 2008. Bydd penderfyniadau ynghylch dyfarnu bwrsariaethau yn cael eu gwneud ym mis Gorffennaf/Awst 2008. Mae gwybodaeth bellach ar gael gan y Tiwtor Uwchraddedigion.

Gwneud cais i Aberystwyth

Mae’r Adran Hanes a Hanes Cymru yn derbyn ceisiadau ar gyfer astudiaethau uwchraddedig drwy gydol y flwyddyn academaidd, a hyd at Gofrestru (sef y drydedd wythnos ym Medi, fel arfer). Ond efallai yr hoffai ymgeiswyr nodi’r dyddiadau allweddol canlynol:

  • Diwedd Chwefror – dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau Ph.D. i’w hystyried ar gyfer Ysgoloriaethau’r Brifysgol
  • Canol Ebrill – dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Ysgoloriaethau Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau a’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (MA, Ph.D)
  • Canol Gorffennaf – dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau MA i’w hystyried ar gyfer Bwrsariaeth Adrannol

Mae’r dyddiadau penodol yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, felly rydym yn argymell bod ymgeiswyr yn cysylltu â’r Adran am fanylion pellach.


Mae aelodau’r Adran bob amser yn falch i gynorthwyo ag ymholiadau ynglŷn ag astudiaethau uwchraddedig, boed hynny ar gyfer dewis cwrs Meistr drwy gwrs priodol, neu ddiffinio maes sy’n addas ar gyfer ymchwilio drwy radd ymchwil M.Phil neu Ph.D. Mae gwybodaeth bellach ar gael yn y lle cyntaf gan Diwtor Derbyn Graddedigion yr Adran, a fydd hefyd yn medru trefnu ichi ymweld â’r Adran, ac archwilio’r posibiliadau ymchwil gydag arbenigwyr penodol o blith ein staff.


Cynhelir Diwrnod Agored ar gyfer y rheiny sydd â diddordeb mewn astudiaethau uwchraddedig, fel arfer ym mis Tachwedd bob blwyddyn. Dyma gyfle ichi ymweld â’r Adran, cyfarfod â’r bobl a fydd yn eich dysgu ac yn goruchwylio eich gwaith ymchwil, ac chael golwg ar ein cyfleusterau. Bydd cyngor arbenigol ar gael ar ddewis cwrs addas neu brosiect ymchwil, ffynonellau cyllid, a chwblhau ffurflenni cais i sefydliadau a chyrff cyllido. Os dymunwch fwy o wybodaeth am y Diwrnod Agored, neu os ydych yn bwriadu ymweld â ni yn ystod y Diwrnod Agored, rydym yn eich cynghori i gysylltu â’r Adran ymlaen llaw.


Ar gyfer ffurflenni cais, neu i gael mwy o wybodaeth, gweler Gwybodaeth i Uwchraddedigion.